Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enwau Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2024-25  

Cyhoeddwyd Mer 18 Medi 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi enwau Mentoriaid Cynrychioli Cymru 2024-25  
Mae’n bleser gennym gyhoeddi enwau’r 15 awdur blaenllaw a fydd yn mentora awduron rhaglen gyfredol Cynrychioli Cymru.  

Mae Cynrychioli Cymru yn un o brif raglenni Llenyddiaeth Cymru, ac fe’i hariennir gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Foyle. Wedi’i datblygu i wella cynrychiolaeth o fewn y sector, nod y rhaglen yw helpu trawsnewid diwylliant llenyddol y wlad yn un sy’n wirioneddol adlewyrchu cymunedau amrywiol Cymru a sefydlu llif o ddoniau Cymreig amrywiol a gydnabyddir ledled y DU a thu hwnt.  

Mae gan y rhaglen gyfredol, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2024, bwyslais benodol ar ysgrifennu ar gyfer oedolion. 

Caiff pob awdur ar raglen Cynrychioli Cymru eu paru gyda Mentor o’u dewis mewn ymgynghoriad â Llenyddiaeth Cymru. Yn ystod y flwyddyn, bydd y mentoriaid yn cynnig cefnogaeth olygyddol yn ogystal â chyngor arbenigol ar eu gyrfa fel awdur, wrth iddynt weithio tuag at gyflawni eu nodau creadigol a phroffesiynol.  

Y Mentoriaid 

Mae rhai o awduron mwyaf cyffrous a llwyddiannus diwylliant llenyddol Cymru a thu hwnt yn mentora eleni. Y mentoriaid yw Stephanie Butland, Deborah Kay Davies, Damian Walford Davies, Rachel Dawson, Dilar Dirik, Eliot Duncan, Inua Ellams, Dr Jenni Fagan, Glyn Maxwell, Grug Muse, Llwyd Owen, Mike Parker, Lleucu Roberts, Jacob Ross, a Joelle Taylor. 

Maent yn arbenigo ar ystod eang o genres, ac yn meddu ar arbenigedd proffesiynol. Maent wedi eu lleoli yng Nghymru a thu hwnt. Mae rhai awduron yn canolbwyntio ar ysgrifennu ar gyfer oedolion, tra bod eraill yn ysgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ogystal. Yn eu plith ceir beirdd arobryn sy’n adnabyddus am berfformio eu gwaith. At ei gilydd, mae eu gwaith wedi eu gyhoeddi’n fyd-eang, ac wedi eu cynnwys mewn gwobrau gan gynnwys: Gwobr Llyfr y Flwyddyn; Gwobr Tir na n-Og, Y Fedal Ryddiaith, Gwobr Goffa Daniel Owen, Gwobr T.S. Eliot, Gwobr Geoffrey Faber, Gwobr Wainwright, Gwobr Betty Trask, y Women’s Prize for Fiction, a Gwobr Polari Book Prize ymhlith eraill.  

Bydd eu profiad, llwyddiant a’u creadigrwydd yn cael dylanwad bositif ar ddatblygiad yr awduron maent yn eu mentora, ac o ganlyniad, ar y sector llenyddol ehangach. 

Dywedodd Lleucu Roberts, un o fentoriaid y rhaglen:  

“I mi roedd yn wefr ac yn fraint cael bod ymhlith y rhai cyntaf i gael cip ar waith awdur sy’n sicr o ddod yn rhan amlwg o dirlun llenyddol Cymru yn y dyfodol. “ 

Yn y fideo isod, mae awduron rhaglen 2023-2024, oedd yn datblygu gwaith ar gyfer plant a phobl ifanc, yn rhannu eu profiadau o gymryd rhan yn rhaglen Cynrychioli Cymru:  

 

Gallwch ymweld â thudalen Cynrychioli Cymru i ddarganfod rhagor am yr awduron sy’n rhan o’r rhaglen eleni, darllen rhagor am yr holl fentoriaid, a darganfod mwy am y rhaglen ei hunan, sydd ar agor ar hyn o bryd ar gyfer ceisiadau rhaglen 2025-2026.