Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Cyhoeddwyd Iau 11 Maw 2021 - Gan Cyngor Llyfrau Cymru
Cyhoeddi rhestr fer gwobrau llyfrau Cymraeg Tir na n-Og 2021

Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch iawn o gyhoeddi teitlau’r chwe llyfr Cymraeg sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Tir na n-Og 2021 sy’n anrhydeddu’r llyfrau gorau o Gymru i blant a phobl ifanc.

Yn y categori cynradd mae Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa), Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol) a Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa).

Y llyfrau ddaeth i’r brig yn y categori uwchradd oedd Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch), Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa) a #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch).

Dywedodd Hywel James, Cadeirydd y panel oedd yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg cynradd ac uwchradd: “Fel beirniaid, rydym wedi cael pori drwy wledd o lenyddiaeth plant a phobl ifanc. Roedd yr holl gyfrolau a ddaeth i law yn cynnig arlwy gwerthfawr i ddarllenwyr ifanc, ac yn cyfrannu at ein llenyddiaeth trwy lenwi bylchau sydd yn bwydo’r dychymyg ac yn meithrin eu dealltwriaeth o’r gorffennol neu eu hymwybyddiaeth o’r byd o’u cwmpas.

“Ymysg y teitlau eleni roedd llyfrau llun-a-stori atyniadol iawn gan awduron a darlunwyr newydd, datblygiad sydd yn haeddu canmoliaeth arbennig am greu cyfrolau gwreiddiol o safon uchel. Roedd hefyd gyfrolau trawiadol iawn, rhai, yn wir, a oedd yn ysgytwol eu cynnwys, a hynny yn y categori llyfrau i bobl ifanc wrth iddynt ymgeisio i gyfleu helbulon prifio naill ai yn y Gymru gyfoes neu mewn cyfnodau allweddol yn ein hanes.”

Dywedodd Helgard Krause, Prif Weithredwr y Cyngor Llyfrau: “Hoffem longyfarch yr awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a diolch i bawb ar draws y sector llyfrau yng Nghymru sydd wedi sicrhau nid yn unig bod gan ein beirniaid ddewis safonol o gynnyrch unwaith eto eleni ond hefyd bod detholiad o lyfrau rhagorol ar gael ar gyfer darllenwyr ifanc Cymru. Diolch hefyd i’n beirniaid am eu gwaith caled a’u hadborth gwerthfawr sy’n helpu i gynnal a gwthio safonau o flwyddyn i flwyddyn.”

Cafodd y rhestr fer ei datgelu ar y rhaglen Heno ar S4C nos Iau, 11 Mawrth, a bydd y rhaglen yn cyhoeddi enwau’r enillwyr nos Iau, 20 Mai 2021.

Rhestr Fer Cynradd

  • Ble Mae Boc – Ar Goll yn y Chwedlau gan Huw Aaron (Y Lolfa)

Disgrifiad: 10 o luniau tudalen ddwbl. Mae pob taenlen yn dangos golygfa lawn dop, gyda’r nod o ddod o hyd i Boc, y ddraig fach goch, sy’n cuddio ym mhob llun. Cyfrol debyg i’r llyfrau Where’s Wally? gyda gogwydd cwbl Gymreig i bob llun.

Blas ar farn y beirniaid: “Dyma gyfrol sydd yn cynnig gwledd odidog o luniau ac oriau o ddifyrrwch i blentyn wrth geisio darganfod ble mae’r ddraig fach… Mae’n llyfr anrheg delfrydol i bob oed.”

  • Mae’r Cyfan i Ti gan Luned Aaron (Atebol)

Disgrifiad: Cyfrol annwyl a theimladwy i’w darllen cyn mynd i gysgu wrth i riant gyflwyno rhai o ryfeddodau’r byd i’w plentyn. Dilynwn y dydd o’r wawr i’r machlud wrth i ni ddarllen am ryfeddodau’r byd sydd ar gael i’r plentyn.

Blas ar farn y beirniaid: “Llyfr llun-a-stori o safon uchel iawn. Mae symlrwydd y dweud trwy’r cerddi yn addas iawn i’r oedran meithrin ac mae’n cyfleu yn wych yr elfen o syndod sydd gan blant ifanc am y byd o’u cwmpas, ynghyd ag elfen hiraethus ar ran yr oedolyn.”

  • Sw Sara Mai gan Casia Wiliam (Y Lolfa)

Disgrifiad: Croeso i fyd Sara Mai, lle mae glanhau pw eliffant yn apelio lot mwy na mynd i’r ysgol, a lle mae’n llawer haws deall ymddygiad arth o Dde Affrica na merched eraill Blwyddyn 5.

Blas ar farn y beirniaid: “Dyma nofel sydd yn ymdrin â phwnc cyfoes gan ddelio â bwlio a rhagfarn yn erbyn pobl o gefndir neu dras gwahanol. Mae’r stori yn cydio yn y darllenydd o’r dechrau gyda digon o fanylion am y cymeriadau, heb ein llethu neu arafu llif y stori sydd yn cynnal ein sylw at y diwedd.”

Rhestr Fer Uwchradd

  • Y Castell Siwgr gan Angharad Tomos (Gwasg Carreg Gwalch)

Disgrifiad: Dwy ferch ar ddau gyfandir. Un lord ag awch am elw. Stori ddirdynnol am gaethferch, am forwyn, am long a chastell ac am ddioddefaint y tu hwnt i ddychymyg.

Blas ar farn y beirniaid: “Teimlwn fod y nofel hon yn mynd â ni i dir newydd heriol gyda stori’r ddwy ferch ifanc, Dorcas a Yamba, ac er bod dwy ran i’r nofel mae’r cysylltiadau rhyngddynt yn cryfhau’r dweud… Mae’r gyfrol hon yn gyfraniad pwysig iawn i lenyddiaeth Cymru a fydd yn apelio at bobl ifanc ac oedolion.”

  • Llechi gan Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Disgrifiad: Mae Gwenno wedi cael ei lladd. Gwenno berffaith, glyfar, brydferth – hi oedd yn boblogaidd efo’r swots a’r bobol cŵl. Darganfuwyd ei chorff yn y chwarel, a bellach mae’r cops dros bob man ym Methesda, a phawb yn ceisio dod o hyd iddi.

Blas ar farn y beirniaid: “Mae’r llinell stori datrys dirgelwch llofruddiaeth yn y nofel hon yn debyg iawn i rai o’r cyfresi teledu poblogaidd cyfoes, ac felly bydd y stori hon yn sicr o apelio yn fawr at ystod eang o ddarllenwyr.”

  • #helynt gan Rebecca Roberts (Gwasg Carreg Gwalch)

Disgrifiad: Mae colli’r bws i’r ysgol yn gallu newid dy fywyd di… Penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref (wedi’r cyfan, mae’r beili wedi mynd â char ei thad), gan ganfod ei hun mewn clwb nos ar lan y môr.

Blas ar farn y beirniaid: “Mae’n stori sydd yn cydio o’r dechrau i’r diwedd gan gyfleu rhywfaint o realiti effaith tlodi a thrais yn y cartref ar berson ifanc yn y Gymru gyfoes… Mae hwn yn esiampl ardderchog, ‘clasurol’ hyd yn oed, o lyfr ‘genre’ ar gyfer yr arddegau – ac nid camp hawdd yw cyflawni hynny.”

Bydd rhestr fer y llyfrau Saesneg yn cael ei chyhoeddi ar raglen y Radio Wales Arts Show am 18:30 nos Wener, 12 Mawrth 2021.

Plant a Phobl Ifanc