Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022

Cyhoeddwyd Llu 20 Meh 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mewn rhifyn arbennig o raglen Stiwdio ar BBC Radio Cymru heno, nos Lun 20 Mehefin, cyhoeddwyd enwau’r cyfrolau sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.  

Yn gwobrwyo dros bedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu rhai o weithiau llenyddol gorau’r flwyddyn galendr flaenorol. 

Darllenodd y beirniaid dros 70 o lyfrau, ac wedi trafod a dadlau, pwyso a mesur, mae’r gweithiau canlynol wedi ennill eu lle ar y Rhestr Fer:  

 

Rhestr Fer Gymraeg 2022 

Gwobr Farddoniaeth 

Cawod Lwch, Rhys Iorwerth (Gwasg Carreg Gwalch) 

Merch y llyn, Grug Muse (Cyhoeddiadau’r Stamp) 

Stafelloedd Amhenodol, Iestyn Tyne (Cyhoeddiadau’r Stamp) 

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol 

Dod Nôl at fy Nghoed, Carys Eleri (Y Lolfa) 

Eigra: Hogan Fach o’r Blaena, Eigra Lewis Roberts (Gwasg y Bwthyn) 

Paid â Bod Ofn , Non Parry (Y Lolfa) 

 

Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor 

Hannah-Jane, Lleucu Roberts (Y Lolfa) 

Hela, Aled Hughes (Y Lolfa) 

Mori, Ffion Dafis (Y Lolfa) 

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

Gwag y Nos, Sioned Wyn Roberts (Atebol) 

Pam?, Luned Aaron a Huw Aaron (Y Lolfa) 

Y Pump (Y Lolfa) 

Tim – Elgan Rhys gyda Tomos Jones 

Tami – Mared Roberts gyda Ceri-Anne Gatehouse 

Aniq – Marged Elen Wiliam gyda Mahum Umer 

Robyn – Iestyn Tyne gyda Leo Drayton 

Cat – Megan Angharad Hunter gyda Maisie Awen 

 

Mae rhagor o fanylion am yr holl awduron a’u cyfrolau ar gael ar wefan Llenyddiaeth Cymru: www.llenyddiaethcymru.org 

Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur Llên Cymru Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam 

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Melanie Owen 

“Mae’n fraint enfawr i gael bod yn aelod o’r panel. Rwyf wrth fy modd yn darllen ac ysgrifennu, felly roedd cael mwynhau gwaith rhai o ysgrifenwyr gorau Cymru yn freuddwyd. Mae’n wir iawn i ddweud bod trafodaethau’r panel wedi bod yn fywiog ac angerddol – gyda chymaint o dalent ar y bwrdd o flaen ni, does dim syndod. Mae safon yr holl lyfrau wedi gwneud y dewisiadau yn galed, ond am gyfle arbennig i ddathlu llenyddiaeth Gymraeg.” 

Nodyn ar Gymhwyster 

Yn 2021 fe ehangwyd elfen o feini prawf Llyfr y Flwyddyn i gynnwys derbyn cyweithiau gan ddau awdur yn dilyn anogaeth ac adborth gan awduron, cyn-feirniaid a darllenwyr, ac mae rhai cyweithiau wedi cyrraedd y nod eleni. Mae Pam? gan Luned a Huw Aaron ar Restr Fer Plant a Phobl Ifanc, yn ogystal â chyfres Y Pump. Yn wreiddiol, cyflwynwyd y 5 llyfr yng nghyfres Y Pump fel cyfrolau unigol, ond barn y Beirniaid oedd fod cyfrolau’r gyfres mor gysylltiedig, a’r cymeriadau yn ymddangos drwyddi-draw, ac felly nad oedd modd gwahaniaethu rhyngddynt. At hynny, mae’r beirniaid wedi penderfynu y dylid eu cynnwys fel un teitl ar restr fer y wobr, ac os y byddai’r teitl yn cipio unrhyw wobrau eleni, rhannu’r clod a’r wobr fyddai’r awduron yn hytrach na derbyn gwobrau unigol. 

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Mae’r wobr yn rhan hanfodol o’n gweithgaredd, ac yn ein helpu i gyflawni ein nod o ddathlu a chynrychioli awduron, treftadaeth a diwylliant llenyddol cyfoethog Cymru. 

Yn ôl Leusa Llewelyn, Cyd-Brif Weithredwr Dros Dro Llenyddiaeth Cymru:  

“Ochr yn ochr â phrif seremonïau llên ein Eisteddfodau a Gŵyl y Gelli, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn uchafbwynt yng nghalendr darllenwyr a llên-garwyr Cymru. Mae’n gyfnod bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol o drafod ein hoff lyfrau, o ddyfalu pwy sydd ar y rhestr, o ddathlu llwyddiannau a chwyno weithiau fod ein ffefrynnau heb ddod i’r brig! Ond yn bwysicach na dim, mae’n gyfle i ni ddangos gwerthfawrogiad i’n awduron talentog – i ddiolch iddynt am ein diddanu, ac am greu dihangfa i ni rhwng cloriau eu llyfrau. Mae hyn yn fwy gwir nac erioed yn dilyn dwy flynedd heriol, ac am hynny mae ein diolch yn fwy nag erioed.” 

Beth sy’n digwydd nesaf? 

Bydd Rhestr Fer y gwobrau Saesneg yn cael eu cyhoeddi ar The Arts Show ar BBC Radio Wales nos Wener 1 Gorffennaf. Caiff y gwobrau Saesneg eu beirniadu gan y bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd Gwobr ‘Rising Star’ Cymru 2020, Taylor Edmonds 

Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng yr 19 a’r 21 Gorffennaf. Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar BBC Radio Wales ar y 29 Gorffennaf. Mae Llenyddiaeth Cymru’n falch o barhau i weithio mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales unwaith eto eleni, ac edrychwn ymlaen at rannu’r holl gyhoeddiadau gyda chi yn y darllediadau arbennig hyn.  

Bydd Nia Roberts yn croesawu aelodau o’r panel beirniadu, cynrychiolwyr o Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal a darllenwyr brwd i drafod y cyfrolau yn ystod y cyhoeddi, a bydd cyfle i adlewyrchu ar yr holl enillwyr Cymraeg eleni ar 25 Gorffennaf mewn rhifyn arbennig o Siwdio ar BBC Radio Cymru. 

Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd, neu enillwyr, pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones. 

Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y Rhestr Fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360. 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales, a’n harianwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y noddwyr a phartneriaid yma.