Cyhoeddi Rhestr Fer Saesneg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Yn gwobrwyo dros bedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc – mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu rhai o weithiau llenyddol gorau’r flwyddyn galendr flaenorol.
Mae panel beirniaid y gwobrau Saesneg eleni yn cynnwys y bardd a’r awdur Krystal Lowe, y newyddiadurwr a darlledwr Andy Welch, yr awdur a’r cyflwynydd Matt Brown, a’r bardd ac enillydd Gwobr ‘Rising Star’ Cymru 2020, Taylor Edmonds.
Rhestr Fer Saesneg 2022
Gwobr Farddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor
A Voice Coming From Then, Jeremy Dixon (Arachne Press)
Inhale/Exile, Abeer Ameer (Seren Books)
The Sorry Tale of the Mignonette, Angela Gardner (Shearsman Books)
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Roots Home: Essays and a Journal, Gillian Clarke (Carcanet)
The Journey is Home: Notes from a Life on the Edge, John Sam Jones (Parthian)
The Long Field, Pamela Petro (Little Toller Books)
Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
I am the Mask Maker and other stories, Rhiannon Lewis (Victorina Press)
Plain Sluts, Sian Hughes (STORGY Books)
The Fortune Men, Nadifa Mohamed (Viking, Penguin Random House)
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Daydreams and Jellybeans, Alex Wharton (Firefly Press)
The Shark Caller, Zillah Bethell (Usborne)
The Valley of Lost Secrets, Lesley Parr (Bloomsbury)
Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Andy Welch:
”Roeddwn wrth fy modd yn cael fy ngwahodd i ymuno â phanel beirniadu Gwobr Llyfr y Flwyddyn, a chefais fy llorio gan ansawdd y ceisiadau. Roedd yn dasg anodd dewis y rhestr fer, ond rydym o’r farn fod y dwsin yr ydym wedi eu dethol yn adlewyrchu natur gwreiddiol, hynod adloniannol, ac amrywiol talentau llenyddol Cymreig.”
Mae rhagor o fanylion am yr holl awduron a’u cyfrolau ar gael ar wefan Llenyddiaeth Cymru: www.llenyddiaethcymru.org
Rhestr Fer Gymraeg 2022
Beirniaid y gwobrau Cymraeg eleni yw’r darlledwr Mirain Iwerydd, cyflwynydd Sioe Frecwast dydd Sul BBC Radio Cymru 2; y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen; yr academydd, golygydd ac awdur Llên Cymru Siwan Rosser; a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam. Cliciwch yma i weld y Rhestr Fer Gymraeg.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Bydd enillwyr y gwobrau Cymraeg yn cael eu cyhoeddi mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru rhwng yr 19 a’r 21 Gorffennaf. Cyhoeddir yr holl enillwyr Saesneg ar BBC Radio Wales ar y 29 Gorffennaf. Mae Llenyddiaeth Cymru’n falch o barhau i weithio mewn partneriaeth â BBC Cymru Wales unwaith eto eleni, ac edrychwn ymlaen at rannu’r holl gyhoeddiadau gyda chi yn y darllediadau arbennig hyn.
Bydd cyfanswm o £14,000 yn cael ei rannu ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd, neu enillwyr, pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.
Bydd cyfle i ddarllenwyr ddweud eu dweud wrth i’r teitlau ar y Rhestr Fer gystadlu am Wobr Barn y Bobl a gynhelir yn annibynnol gan ein partneriaid Wales Arts Review a Golwg360.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Prifysgol Bangor, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales, a’n harianwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am y noddwyr a phartneriaid yma.