Cyhoeddi’r ymgeisydd llwyddianus dderbyniodd lle am ddim ar gwrs preswyl

Rwyf eisiau bod yn rhan o ymwybyddiaeth a dealltwriaeth cymdeithas. A minnau’n fam, rwy’n teimlo’n angerddol dros rymuso ein cenhedlaeth nesaf. Mae ennill y lle hwn yn agor drysau i mi ac fe fydd wir yn fy helpu ar fy nhaith ysgrifennu. Ond mae hefyd yn golygu cymaint mwy – mae’n ymwneud â dysgu am ddyfodol ein planed a sut y gallwn ni, fel ysgrifenwyr, gynorthwyo i symud y sgwrs hollbwysig hon yn ei blaen. Rwyf mor ddiolchgar i Llenyddiaeth Cymru a Choleg y Mynydd Du am y cyfle anhygoel hwn.
Roedd Tom a Jay mor groesawgar a gwybodus. O’r eiliad y cyrhaeddon ni i’r adeg y gadawon ni, fe wnaethon nhw roi eu hamser a’u hymrwymiad llawn i ni. Rydw i wedi dysgu cymaint ganddyn nhw mewn cyfnod mor fyr. Roedd Pascale hefyd mor addfwyn a thyner, ond gydag angerdd.Roedd pawb ar y cwrs hefyd yn fendigedig. O gefndiroedd amrywiol a phrofiadau ysgrifennu ar lefelau gwahanol, fe wnaethom ni glosio mor gyflym. Rwyf wedi dysgu cymaint oddi wrthynt i gyd.Rwyf wedi dysgu cymaint o’r penwythnos hwn, ac rwy’n gobeithio fy mod wedi gallu rhoi rhywbeth ohonof fy hun i bobl eraill ei gymryd i ffwrdd. Roedd ysgrifennu a phrofi’r cwrs ochr yn ochr ag ysgrifennwyr mwy profiadol na mi yn hyfryd, a braf oedd cael clywed am eu cynlluniau nhw ar gyfer y dyfodol.
Derbyniodd Taz Rahman, bardd o Gaerdydd, hefyd fwrsariaeth rannol i fynychu’r cwrs. Meddai Taz,
Nid ychydig ddyddiau o ddysgu am newid hinsawdd ac addasu fy ymateb creadigol i iddo yn unig oedd hwn, roedd bod mewn llecyn llawn harddwch naturiol yn newid braf o’m llyfrgell ddiflas arferol. Roedd Jay Griffiths a Tom Bullough mor hael, yn sensitif yn y ffordd yr oeddent yn darparu ar gyfer carfan mor amrywiol, ac maent wedi ennyn cymaint o hyder yn yr holl gyfranogwyr. Rwy’n siŵr nad fi yw’r unig un a oedd wedi dod i ffwrdd â phrosiectau newydd yn fy meddwl.
Mae casgliad barddoniaeth cyntaf Taz Rahman yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2024 gan Seren Books. Mae ei gerddi ac ei adolygiadau wedi ymddangos yn Poetry Wales, Anthropocene, Honest Ulsterman, Nation Cymru, Culture Matters, cylchgrawn South Bank Poetry, a sawl blodeugerddi amrywiol. Taz hefyd yw sylfaenydd Just Another Poet, sianel YouTube gyntaf Cymru sy’n cyflwyno barddoniaeth yn unig.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd, a’i effaith drychinebus ar ein byd ac ar fywydau pobl, gyda’r bobl dlotaf yn ei chael hi waethaf. Rydyn ni’n awyddus i weithredu lle gallwn ni, i rwystro’r argyfwng rhag gwaethygu, ac i godi ymwybyddiaeth drwy ein gwaith. Dyna pam ein bod wedi gosod yr Argyfwng Hinsawdd fel un o’n prif flaenoriaethau. Byddwn yn defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio ac i herio – gan anelu i gynyddu dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli newid er gwell.