Dewislen
English
Cysylltwch

GALWAD AGORED: Lle Rhad ac am Ddim ar Gwrs Preswyl

Cyhoeddwyd Mer 3 Awst 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
GALWAD AGORED: Lle Rhad ac am Ddim ar Gwrs Preswyl
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gydweithio â Choleg y Mynydd Du i gynnig un lle yn rhad ac am ddim i awdur o Gymru ar gwrs preswyl 3 diwrnod, Writing, Climate and the Living World, a drefnir gan y coleg i archwilio sut all ysgrifennu adlewyrchu ar, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod yr argyfwng hinsawdd, a’i effaith drychinebus ar ein byd ac ar fywydau pobl, gyda’r bobl dlotaf yn ei chael hi waethaf. Rydyn ni’n awyddus i weithredu lle gallwn ni, i rwystro’r argyfwng rhag gwaethygu, ac i godi ymwybyddiaeth drwy ein gwaith. Dyna pam ein bod wedi gosod yr Argyfwng Hinsawdd fel un o’n prif flaenoriaethau. Byddwn yn defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio ac i herio – gan anelu i gynyddu dealltwriaeth o’r argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli newid er gwell.

Sefydlwyd Coleg y Mynydd Du mewn ymateb i’r argyfwng hinsawdd ac ecoleg, ac maent yn cynnal cyrsiau galwedigaethol ac addysg uwch ar themâu perthnasol.

 

Y Manylion

Lle: Mae campws Coleg y Mynydd Du ar fferm Troed-yr-Harn uwchben Talgarth, Aberhonddu. Noder ei fod yn gampws di-gar (heblaw os oes gennych chi anghenion mynediad) ac mae disgwyl i ymwelwyr gerdded o Dalgarth; taith 1.2 milltir i fyny’r allt drwy hen goedlan brydferth.

Dyddiadau: 4.00 pm dydd Iau 22 Medi – 9.00 am dydd Llun 26 Medi

Tiwtoriaid: Tom Bullough a Jay Griffiths
Darllenydd Gwadd: Pascale Petit
Llety a bwyd: bydd prydau bwyd llysieuol yn cael eu darparu a’u paratoi gan y grŵp fel rhan o’r cwrs. Byddwch yn aros mewn pabell foethus (bell tent) ar gae sydd â golygfa fendigedig o’r bryniau. Gofynnwn i chi ddod â sach gysgu.
Rydw i mewn cadair olwyn, neu mae gen i symudedd cyfyngedig, alla i fynychu?

Mae’r Campws Troed-yr-Harn yn dal i gael ei ddatblygu, ac ar hyn o bryd pabell (bell tent) yw’r llety, felly nid yw’n hygyrch i gadeiriau olwyn. Nid oes ystafell ymolchi hygyrch ar y safle ar hyn o bryd. Mae tir anwastad ar y safle. Cysylltwch â’r coleg os hoffech chi wybodaeth bellach am y safle i benderfynu os yw’r safle yn ddiogel ac yn addas i chi.

Mae Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn safle hygyrch. Os ydych chi â diddordeb mewn mynychu cwrs ar Farddoniaeth a’r Argyfwng Hinsawdd, neu unrhyw gwrs arall, yn Nhŷ Newydd – ewch draw i’n gwefan ni. Mae cymorth ariannol ar gael.
Mwy o wybodaeth a Chwestiynau Cyffredin: Wele gwefan Coleg y Mynydd Du

 

Mae dyddiad cau i ymgeisio am y cyfle hwn bellach wedi mynd heibio.