Dewislen
English
Defnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio a herio, gan wella ymwybyddiaeth pobl o’r argyfwng hinsawdd ac ysgogi newid er gwell

Mae llenyddiaeth Cymru wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn nhirwedd y wlad. O brysurdeb Tiger Bay i gopaon uchaf Eryri, mae ein tir yn fwy na chefndir. Mae’n gymeriad ynddo’i hun. Mae beirdd wedi cyfansoddi wrth weithio ar y tir ers canrifoedd maith, ac mae enwau llefydd yn tarddu o hen chwedlau a straeon. Mae llenyddiaeth ac iaith i’w gweld yn y ddaear o’n hamgylch. 

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cydnabod ac yn derbyn ei bod hi’n argyfwng hinsawdd, a bod hynny’n cael effaith drychinebus ar ein byd ac ar fywydau pobl. Y bobl dlotaf sy’n ei chael hi waethaf. Rydyn ni’n awyddus i weithredu lle gallwn ni, i rwystro’r argyfwng rhag gwaethygu, ac i godi ymwybyddiaeth drwy ein gwaith. Ni fydd modd i’n gwaith ni gyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 heb inni gydnabod y dinistr sy’n digwydd i’r amgylchedd a’r argyfwng hinsawdd ym mhopeth a wnawn. Byddwn ni’n gweithio gyda’n partneriaid a’n cynulleidfaoedd gyda’r nod o greu Cymru sy’n wyrddach, yn decach ac yn fwy ffyniannus. 

 

Beth fyddwn ni’n ei wneud?

Byddwn ni’n hybu’r galwadau am newid: 

Byddwn ni’n cefnogi’r rhwydwaith sy’n tyfu yng Nghymru o feirdd cenedlaethol ac unigolion llenyddol ysbrydoledig eraill sy’n defnyddio’u lleisiau i alw am newid. Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru, World Wildlife Foundation a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i greu rhaglenni cenedlaethol sy’n cael effaith fawr. 

Byddwn ni’n gwneud yn lle dweud: 

Mae ein Cynllun Gweithredu Amgylcheddol yn cyflwyno camau gweithredu llym i gyfyngu ar ein hôl-troed carbon, ac mae’n rhoi manylion am sut y gall rhai o’n prosiectau creadigol fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn thematig. Er y byddwn ni’n ymwybodol o dlodi digidol ac o bobl sy’n llai cyfforddus yn defnyddio technoleg, byddwn ni hefyd yn lleihau ôl-troed carbon digwyddiadau llenyddol drwy gynnal digwyddiadau rhithwir neu hybrid.  

Byddwn ni’n annog lleoliaeth: 

Byddwn ni’n rhoi pwyslais o’r newydd ar weithio yn lleol a byddwn ni’n helpu i ddatblygu cymunedau gwydn drwy gefnogi digwyddiadau llenyddol lleol a phrosiectau llenyddiaeth er iechyd a llesiant sy’n gwneud gwir wahaniaeth. Drwy dreialu prosiectau cymunedol newydd ac arloesol, byddwn ni’n dal i gyfrannu at ddod o hyd i atebion sy’n dangos nad yw dychwelyd i normalrwydd ar ôl COVID-19 yn golygu dychwelyd i wneud pethau yn yr un ffordd ag y bydden ni’n eu gwneud nhw yn y cyfnod cyn y pandemig.  

 

Pam Blaenoriaethu’r Argyfwng Hinsawdd

Mae’r argyfwng hinsawdd yn argyfwng sy’n tyfu a hwnnw’n effeithio ar fywydau pobl ym mhob cwr o’r byd. Yn lleol, mae’r Swyddfa Dywydd yn dweud ein bod ni’n wynebu tywydd mwy eithafol a newid i’r norm. Mae’n dweud hefyd bod y degawdau diwethaf wedi bod yn gynhesach, yn wlypach ac yn fwy heulog nag yn yr ugeinfed ganrif. Mae’r newid hwn yn yr hinsawdd eisoes yn achosi problemau niferus gan gynnwys difrod i gartrefi, seilwaith a chnydau, problemau trafnidiaeth, salwch a marwolaethau. Wrth i lefel y môr godi, mae bygythiad i ardaloedd ein glannau. Yn fyd-eang, mae’r problemau hyn fwy dybryd fyth. Mae adroddiad diweddaraf yr IPCC am gynhesu byd-eang yn rhybuddio y bydd y cynnydd disgwyliedig yn y tymheredd o amgylch y byd yn gwbl drychinebus i rai ynysoedd ym Môr yr Iwerydd, gan arwain at golli tiroedd ac ecosystemau cyfan.

Mae’r argyfwng hinsawdd yn dod yn achos pryder cynyddol i’n cenedlaethau iau, gydag ymgyrchoedd wedi’u hysbrydoli gan Greta Thunberg, yr ymgyrchwraig ifanc, yn dangos nerth teimladau ein pobl ifanc, ond hefyd eu pryderon am sut y mae’r ddynoliaeth yn dinistrio’r blaned. Eco-bryder yw’r enw sydd wedi’i roi ar hyn. Mae’r cynllun Force of Nature, sy’n ceisio helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial drwy greu a galw am newid, yn dweud bod dros 70% o bobl ifanc yn teimlo’n ddi-rym yn wyneb yr argyfwng hinsawdd, a dim ond 26% o bobl ifanc sy’n gwybod sut i gyfrannu at ei ddatrys.

Gan ddwyn ysbrydoliaeth gan sefydliadau fel Julie’s Bicycle, sefydliad sy’n defnyddio’r celfyddydau a diwylliant i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng ecolegol, byddwn ni’n defnyddio ein ffurf gelfyddydol ninnau i wneud yr un peth. Yn hytrach na chanolbwyntio’n llwyr ar elfennau negyddol y newid yn yr hinsawdd, byddwn ni’n ysbrydoli plant i deimlo’u bod wedi’u grymuso i weithredu, a hynny drwy ddechrau wrth eu traed a pharchu eu cymunedau a’u hamgylchfyd. Fel rhan o brosiect a gynhaliwyd drwy bartneriaeth rhwng Llenyddiaeth Cymru a WWF Cymru yn 2021, lluniwyd tri murlun barddonol anferth gyda phlant o Dreorci, Aberteifi a’r Rhyl – gan drafod dyheadau’r plant am well dyfodol i fyd natur yng Nghymru a sut i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

“Mae gofalu am ein byd yn beth da i’w wneud, ac yn rhywbeth mor bwysig, a gobeithio bod ein cerddi ni’n helpu pobl i ddeall hynny.  Mae ein hardal ni mor brydferth” Mia, disgybl yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Y Rhyl

“Fe wnes i fwynhau trafod gwaith WWF Cymru ac rydw i’n teimlo’n gyffrous iawn i weld sut olwg fydd ar y murlun. Gobeithio ei fod yn dangos pa mor awyddus ydyn ni i warchod ein hinsawdd a byd natur yr ardal” Alec, disgybl yn Ysgol Gynradd Aberteifi

Drachefn, gan ddwyn ysbrydoliaeth gan Greta Thunberg a chewri llenyddol byd-eang, gan gynnwys Amanda Gorman, byddwn ni’n gwella sgiliau pobl ifanc Cymru i ddefnyddio’u lleisiau yn effeithiol ac yn greadigol, gan ddod yn eiriolwyr rhugl. Gall hynny fod drwy ysgrifennu creadigol neu gyfansoddi geiriau caneuon, ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar y llwyfan perfformio.  Gan wreiddio ein gwaith yn ein cymunedau, bydd nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ein harwain yn hyn o beth, a’r amcan fydd gweithio i greu Cymru ffyniannus a chydnerth sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae rhai o’n hawduron eisoes ar flaen y gad wrth dynnu sylw at yr argyfwng hinsawdd drwy lenyddiaeth. Yn haf 2021, cerddodd y bardd Iestyn Tyne o Gaernarfon i Ben Llŷn, gan gynnal perfformiadau yn y gymuned ar y ffordd. Pererindod lenyddol oedd hon yn edrych ar heriau newid yn yr hinsawdd i’r tir ac i bobl. Mae Taylor Edmonds yn defnyddio’i rôl fel bardd preswyl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i roi rhybuddion drwy ei barddoniaeth am yr angen i weithredu ar frys yn y maes. Byddwn ni’n gweithio gyda phartneriaid a hyrwyddwyr sydd eisoes ar flaen y gad yn y maes er mwyn mireinio ein strategaeth i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd drwy lenyddiaeth.

 

Enghreifftiau o Brosiectau

Cyfranogi: Mae gennyn ni brosiect cyfranogol newydd sy’n gwreiddio beirdd lleol mewn cymunedau ledled Cymru, gan eu hyfforddi i fod yn hwyluswyr llenyddol. Bydd yr argyfwng hinsawdd yn greiddiol i’r prosiect hwn.  Gyda’r nod o sefydlu prosiectau lleol i annog plant a phobl ifanc i ymwneud â llenyddiaeth, bydd y pwyslais ar barchu ac archwilio ecosystemau lleol ac ar ofalu am y blaned.

Datblygu Awduron: Byddwn ni’n defnyddio Bwthyn Encil Awduron Nant fel canolfan i gynnig comisiynau i awduron preswyl i ddatblygu prosiectau sy’n gysylltiedig â’r argyfwng hinsawdd. Bydd hyn yn cynnwys comisiynau barddoniaeth neu ryddiaith, creu cynnwys gweithdai ac adnoddau i’w defnyddio mewn lleoliadau addysg, a datblygu prosiectau cymunedol.

Diwylliant Llenyddol Cymru: Bydd ein tri bardd cenedlaethol (Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales) yn rhoi blaenoriaeth i’r argyfwng hinsawdd yn eu cynlluniau gwaith – ac yn ei ddefnyddio yn sail i ymgyrchoedd, themâu gweithdai, a chomisiynau barddonol.

Nôl i Ein Nodau