Dewislen
English
Cysylltwch

Cymru, Sweden a Bangladesh

Cyhoeddwyd Gwe 1 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cymru, Sweden a Bangladesh

Bu’r bardd Anisur Rahman ar ymweliad â Chymru yr wythnos diwethaf gan fynd ar daith llenyddol yng Ngwynedd gyda Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn. Mae Anisur Rahman yn wreiddiol o Bangladesh a bellach yn byw yn Sweden; roedd yn westai i’r cwmni llenyddiaeth cymunedol write4word wrth iddo ymweld â Chymru.

Bardd, llenor a newyddiadurwr o Bangladesh yw Anisur Rahman. Roedd yn awdur lloches ICORN yn Uppsala rhwng 2009 a 2011 ac mae bellach yn datblygu prosiect Litteraturcentrum Uppsala: cydweithrediad rhwng Studiefrämjandet (corff anllywodraethol ar gyfer hyrwyddo diwylliant a dysgu anffurfiol), rhanbarth a bwrdeistref Uppsala, y llyfrgelloedd, PEN Sweden, y gymdeithas sifil a charedigion llên.

Roedd Anisur yn ymweld â Chymru am wythnos i ddatblygu’r cysylltiadau cyfnewid llenyddol a chyfieithu sydd wedi datblygu rhwng Cymru a Sweden, a llenorion alltud o Fangladesh, dros yr wyth mlynedd ddiwethaf. Mae’n bwriadu creu dolen i gyfnewid llenyddiaeth rhwng Ewrop, Asia ac Affrica trwy ei gysylltiadau yng Nghymru, Sweden, Kenya a Bangladesh. Y mae wedi cynorthwyo gyda chyfieithiad i’r Gymraeg o araith Bangabandhuyn gan Sefydlwr Bangladesh yn ddiweddar.

Fe wnaeth Anisur Rahman gwrdd ag Ifor ap Glyn gan ymweld â’r Ysgwrn a Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Roedd Ifor wedi ymweld â Sweden fel rhan yng ngŵyl Tranas at the Fringe yn 2018 trwy wahoddiad write4word.

Er mwyn nodi taith Anisur Rahman i Gymru fe gyfieithodd Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn ei gerdd, Bardd Preswyl i’r Gymraeg:

 

Bardd Preswyl 

(cyfieithiad o gerdd Bengali gan Anisur Rahman) 

 

Nid mewn ysgolion, llyfrgelloedd na chyfarfodydd llên 

y ceir beirdd preswyl 

maen nhw’n geirio’r bonllefau ac ochneidiau hir sydd mewn bywyd 

ac maen nhw’n byw mewn carchardai, caeau,  

ffatrioedd, strydoedd, marchnadoedd a gwersylloedd gwaith. 

Mae beirdd yn ceisio bywyd ymhob twll a chornel, yn Vasco da Gama a Cholumbus i gyd. 

 

Os gofynnwch i neb amdanaf yn Uppsala 

cewch wybod, dyma Fardd Preswyl Uppsala 

 

Ond rhaid imi ddweud, nid bardd mo Anisur Rahman 

dim ond delwedd aderyn mewn storm. 

 

Mae’r aderyn yn canfod lloches mewn palas ar noson o ddrycin 

Mae ond yn disgwyl am y wawr,  

ar ôl i’r storom beidio. 

 

Cyfieithiad Cymraeg gan Ifor ap Glyn,  
Bardd Cenedlaethol Cymru 
Uncategorized @cy