‘Cynhesu byd-eang’ gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa

Wrth i’r tymor droi a’r tywydd oeri, mae’r pwnc sydd wedi bod yn y penawdau a phoeni gymaint ohonom ers misoedd yn ein wynebu o ddifri – yr argyfwng costau ynni.
Roedd Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru yn dymuno ysgrifennu cerdd ar y thema pwysig hwn gan ei bod yn pryderu’n fawr am y tlodi a’r caledi sy’n wynebu gymaint o unigolion a theuluoedd yn y cyfnod sydd i ddod.
Meddai Hanan: “Rydym oll yn pendroni sut y byddwn ni’n ymdopi’r gaeaf hwn. Roeddwn i eisiau dal yr ymdeimlad o rwystredigaeth a dicter sydd mor amlwg mewn cymdeithas, gan dynnu sylw hefyd at synnwyr o obaith a grym cryfder cymunedol.
“Cyfrifoldeb ein llywodraeth yw sicrhau nad oes neb yn cael anhawster y gaeaf hwn, ond beth sy’n ein gwneud yn bobl dda yw rhoi cymaint o gysur ag y gallwn i’r rhai o’n cwmpas.”
Cyfieithwyd y gerdd i’r Gymraeg gan y bardd Grug Muse. Ewch draw i ddarllen cerddi comisiwn Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru a’r holl gyfieithiadau yma.
Disgwylir i’r argyfwng cost ynni effeithio ar filoedd o fywydau ledled y DU.
Bydd llawer yn ei chael hi’n anodd cadw’n gynnes dros y gaeaf a bydd gallu’r wlad i gynhyrchu nwyddau fel halen a thomatos yn lleihau’n fawr.
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod angen cymorth, gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar y wefan hon neu cysylltwch â chynghorwyr heddiw drwy ffonio’r llinell gymorth am ddim ar 0800 702 2020.
Ewch i wefan Advicelink Cymru lle gallwch gael rhagor o wybodaeth am gael cymorth.