Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru 2025: Ffenestr Ymgeisio Rhaglen Datblygu Awduron Ar Agor

Cyhoeddwyd Iau 15 Awst 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru 2025: Ffenestr Ymgeisio Rhaglen Datblygu Awduron Ar Agor

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 12.00 pm hanner dydd, Dydd Iau 10 Hydref 2024

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi bod ein rhaglen datblygu boblogaidd, Cynrychioli Cymru, ar agor i dderbyn ceisiadau unwaith eto. Yn ei phumed blwyddyn, rydym yn gwahodd awduron o Gymru sy’n dod o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgeisio ar gyfer y rhaglen sydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2025 ac yn para blwyddyn.

Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 14 o awduron drwy gynnig y canlynol:

  • Ysgoloriaeth ariannol o £3,000
  • Nawdd ariannol ar gyfer teithio a thocynnau 
  • Rhaglen hyfforddi ddwys ar grefft ac ar ddatblygiad gyrfa proffesiynol sy’n cynnwys awduron byd-enwog fel tiwtoriaid a siaradwyr gwadd gan gynnwys ystafelloedd ysgrifennu ar-lein a dosbarthiadau meistr, gydag un ohonynt yn benwythnos preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd
  • Mentor personol
  • Cyfleoedd cyson i rannu gwaith creadigol ac adborth ymysg y garfan
  • Cyfleoedd rhwydweithio trwy gydol y flwyddyn, ar-lein a wyneb yn wyneb
  • Cefnogaeth bwrpasol gan Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys cyngor, cyfeirio a nodi cyfleoedd
  • Rhaglen ôl-ofal bwrpasol

 

“Deni wedi cael cymaint o brofiadau mor helaeth, mor amrywiol. Mae o wedi cwmpasu bob un o’r gofynion oedd gen i o’r rhaglen a gymaint mwy.”

– Sioned Erin Hughes, Carfan 2023-2024

 

Mae wedi bod yn gynhaliaeth. Dwi’n teimlo ei fod o wedi cynnal fi fel awdur ac fel person hefyd drwy gael rhywbeth parhaol i edrych ymlaen ato, a drwy gael cefnogaeth gan yr awduron eraill. Mae o wedi bod yn allweddol i fi fel awdur hefyd i ddatblygu – mae’r cynllun wedi’n helpu i gael asiant. Adeg yma flwyddyn diwethaf roeddwn i’n anobeithio am y peth, felly mae o wedi newid fy mywyd i.”

Megan Angharad Hunter, Carfan 2023-2024

Bydd yr awduron llwyddiannus yn cael eu hasesu a’u dewis gan banel annibynnol o arbenigwyr. Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen ddwyieithog, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn croesawu ceisiadau gan awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Darperir sesiynau yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac fe gynigir cyfieithu ar y pryd lle bo angen.

Mae rhaglen 2025-26 yn croesawu’r rhai sy’n ymarfer mewn amrywiaeth o genres creadigol gan gynnwys ffuglen, ffeithiol greadigol, nofelau graffeg, barddoniaeth a pherfformio barddoniaeth.

Ariennir rhaglen Cynrychioli Cymru gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru a Sefydliad Foyle. Fe’i datblygwyd i wella cynrychiolaeth o fewn y sector llenyddiaeth yng Nghymru ac i ddatblygu talent a photensial awduron Cymru.

Effaith Cynrychioli Cymru

Mae pedair rownd diwethaf y rhaglen wedi gweld Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi 54 o awduron o Gymru yn ddwys i gyflawni eu nodau proffesiynol a chreadigol. Mae pob rownd yn adeiladu ar lwyddiannau ac adborth blynyddoedd blaenorol, a gwaith ymgynghori ag unigolion a sefydliadau yn y sector.

Cewch glywed mwy am brofiadau awduron y llynedd drwy wylio’r fideo isod:

Gallwch ddarganfod mwy am effaith  rhaglen Cynrychioli Cymru drwy fynd i’r adran Cynrychioli Cymru: Gair o Brofiad ar ein gwefan.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“Bellach yn ei phumed blwyddyn, mae rhaglen Cynrychioli Cymru yn brysur ennill ei phlwy oherwydd llwyddiannau ei chyn-aelodau. Mae cyn-aelodau’r garfan wedi mynd ymlaen i fod yn feirdd cenedlaethol, i enill gwobrau, i gyhoeddi ac i fod yn awduron a pherfformwyr uchel iawn eu parch. Mae rhai wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr gweithdai, eraill wedi dysgu Cymraeg, mae rhai wedi magu hyder i wneud ceisiadau llwyddiannus ar gyfer eu swyddi delfrydol. Nid yw taith yr un awdur ar Cynrychioli Cymru wedi bod yr un fath – ond mae pob awdur wedi ennill sgiliau a gwybodaeth, wedi cwrdd â rhai o’u harwyr llenyddol, ac wedi cael eu gwthio’n uchelgeisiol tuag at eu potensial. Ond efallai yn bwysicaf oll, mae awduron Cynrychioli Cymru wedi cael eu cofleidio gan rwydwaith neu gymuned gefnogol a fydd yn parhau ymhell y tu hwnt i ffiniau’r rhaglen.

Cynlluniwyd y rhaglen i chwalu’r rhwystrau fel bod awduron heb gynrychiolaeth ddigonol yn cael datblygu a ffynnu. Ers ei sefydlu yn 2020 mae wedi trawsnewid y byd llenyddol yng Nghymru yn raddol i fod yn fwy cynrychioliadol, agored, caredig a chyffrous. Rydym yn edrych ymlaen i weld pwy fydd yn ymuno â ni ar garfan 2025-26”.

Cyn gwneud cais, gweler ein adran Cwestiynau Cyffredin, a ddylai gynnig ateb i nifer o’r cwestiynau sydd gennych am y rhaglen.


Ymgeisiwch Nawr

Mae gwahoddiad i unigolion o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n dymuno datblygu eu sgiliau ysgrifennu creadigol ac sy’n dymuno ysgrifennu a chreu ar gyfer oedolion i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru ar adeg ymgeisio a thrwy gydol y rhaglen 12 mis o hyd, heblaw am awduron sydd yn ymgeisio i ddatblygu eu gwaith drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae’n ddrwg gennym nad yw’r rhaglen yn agored i fyfyrwyr llawn-amser na gweithwyr Llenyddiaeth Cymru a’i noddwyr na’r rhai sydd wedi bod yn rhan o raglen Cynrychioli Cymru o’r blaen.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, Cwestiynau Cyffredin a sut i wneud cais ewch draw i dudalen brosiect Cynrychioli Cymru, neu cysylltwch â ni: post@llenyddiaethcymru.org

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 12.00 pm hanner dydd, dydd Iau 10 Hydref 2024.

Cefnogaeth i Ymgeiswyr

Fel rhan o’r broses ymgeisio, gofynnir i awduron gyflwyno sampl o’u gwaith creadigol. Caiff cyflwyniadau fideo o waith creadigol eu derbyn hefyd.

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y broses ymgeisio yn hygyrch a chroesawgar. Os hoffech chi sgwrsio ag aelod o staff cyn gwneud cais, anfonwch e-bost at Llenyddiaeth Cymru at post@llenyddiaethcymru.org  neu ffoniwch ni am sgwrs anffurfiol ar 01766 522 811 (Swyddfa Tŷ Newydd) neu 029 2047 2266 (Swyddfa Caerdydd). Neu gallwch gysylltu â ni dros ein sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn hapus i drafod y rhaglen, a’r broses ymgeisio gyda chi – ac i drafod ai Cynrychioli Cymru yw’r rhaglen gywir i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa.

Bydd staff Llenyddiaeth Cymru hefyd ar gael i ateb eich cwestiynau yn ystod dau sesiwn digidol anffurfiol rhwng 6.00 pm – 7.00 pm ar ddydd Iau 29 Awst a dydd Mawrth 10 Medi 2024. Cliciwch ar y dyddiadau i archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite.