Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Gefndir Incwm Isel

Cyhoeddwyd Maw 26 Hyd 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Gefndir Incwm Isel

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021

Rydym yn falch o gyhoeddi fod ail rownd ein rhaglen datblygu proffesiynol ar gyfer awduron, Cynrychioli Cymru, nawr ar agor ar gyfer ceisiadau. Yn ei ail flwyddyn, bydd y rhaglen yn cefnogi awduron o gefndiroedd incwm isel i ddatblygu eu crefft ysgrifennu creadigol a ehangu eu dealltwriaeth o’r byd cyhoeddi.

Bydd y rhaglen yn cefnogi carfan o 13 awdur trwy gynnig y canlynol:

  • Gwobr ariannol o hyd at £3,500 i helpu awduron gymryd amser i ysgrifennu, mynychu sesiynau hyfforddi a digwyddiadau llenyddol ac i’w roi tuag at gostau teithio
  • mentora un-i-un
  • gweithdai a sgyrsiau misol
  • cyfleoedd i rwydweithio, gwneud cysylltiadau newydd ac adeiladu perthnasau gydag awduron eraill
  • cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr yn y diwydiant llenyddiaeth a chyhoeddi yng Nghymru a thu hwnt

Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Mawrth 2022, ac yn rhedeg tan ddiwedd Chwefror 2023. Wedi i’r rhaglen 12 mis ddod i ben, bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i weithio gyda’r awduron a gyda phartneriaid eraill i sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a’r cyngor sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu hamcanion personol.

“Mae bod yn un o awduron Cynrychioli Cymru wedi cynyddu fy hyder yn fy ngyrfa ysgrifennu. Rwy’n deall rhagor am fy opsiynau wrth fynd i’r afael â heriau’r byd cyhoeddi, ac rydw i wedi creu nifer o gysylltiadau gwerthfawr. Mae hefyd yn lot o hwyl cael rhywle i drafod y grefft gyda phobl o’r un anian.”
Daniel Howell, aelod o grŵp awduron cyntaf Cynrychioli Cymru

Caiff yr awduron eu dewis gan banel annibynnol o bum arbenigwr ym myd llenyddiaeth, ac mae gan bob un ohonynt brofiad o’r heriau sy’n deillio o fod â chefndir incwm isel: Tanya Byrne (Cadeirydd), Connor Allen, Iola Ynyr, Emma Smith-Barton, a Niall Griffiths.

“Fel awdur brown, cwiar o gefndir incwm isel, bu raid i mi ddilyn y ffordd galetaf posib i gyrraedd lle ydw i nawr, ac rwy’n benderfynol o wneud y siwrne yn haws i awduron newydd. Felly ar ôl arwain sesiwn gydag awduron rownd gyntaf Cynrychioli Cymru llynedd, mae wir yn fraint cael gwahoddiad i gadeirio’r panel dethol eleni, ac rwy’n edrych ymlaen at ysbrydoli a hyrwyddo ysgrifennu, llyfrau a llythrennedd yng Nghymru.”
Tanya Byrne, Cadeirydd y Panel Asesu

Mae Cynrychioli Cymru yn rhaglen 12 mis a gaiff ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Datblygwyd y rhaglen er mwyn gwella cynrychiolaeth o fewn y sector lenyddol yng Nghymru. Lansiwyd y rownd gyntaf yn 2020, gyda phwyslais ar ddatblygu awduron o liw. Cliciwch yma i ddarllen rhagor.

Mae Cynrychioli Cymru wedi ei chynllunio drwy ymgynghori â chymunedau, awduron ac ymgynghorwyr sy’n rhan o rwydweithiau helaeth Llenyddiaeth Cymru, gan fynd i’r afael â’r rhwystrau presennol yn y sector. Dros y blynyddoedd nesaf bydd Llenyddiaeth Cymru yn parhau i roi pwyslais yn ei gwaith ar bobl sy’n cael eu tangynrychioli ac sydd wedi wynebu hiliaeth, ablaeth (sef dangos ffafriaeth tuag at unigolion heb anableddau), gwahaniaethu ac anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol.

“Mae llenyddiaeth yn ffurf gelfyddydol ddemocrataidd, a gall bawb elwa o’r broses o ysgrifennu neu ddarllen yn greadigol. Serch hynny, ‘dyw gyrfa lenyddol ddim ar gael i bawb. Mae ymchwil diweddar a’n canfyddiadau drwy ymgynghori ag awduron yn dangos yn glir fod anghyfartaledd economaidd yn arwain at anghydraddoldeb mewn cyfleoedd. Mae angen i ni weithio’n galed ar draws y sector i gyrraedd sefyllfa lle mae pawb yn profi’r un tegwch. Does dim all gystadlu â’r hyder naturiol y mae sicrwydd economaidd yn ei roi i rywun, ond gobeithiwn fydd y rhaglen hon yn rhoi’r adnoddau, gwybodaeth a’r cysylltiadau sydd eu hangen i’r 13 awdur i roi hwb i’w hyder a chyflawni eu gobeithion llenyddol.”
Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru

 

Cyflwyno eich cais

Gwahoddir unigolion sydd o gefndir incwm isel sy’n dymuno datblygu eu sgiliau llenyddol i ymgeisio nawr. Rhaid i ymgeiswyr fod dros 18 oed ac yn byw yng Nghymru.

Cyflwyno eich cais

Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, gan gynnwys canllawiau, cwestiynau cyffredin a gwybodaeth am sut i gyflwyno cais, cliciwch yma, neu cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau: 5.00 pm, dydd Mawrth 14 Rhagfyr 2021