Dewislen
English
Cysylltwch

Cynrychioli Cymru: Lansio rhaglen 2024

Cyhoeddwyd Maw 16 Ebr 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cynrychioli Cymru: Lansio rhaglen 2024
Mae hi’n adeg yna o’r flwyddyn unwaith eto! Mae 14 o awduron ar fin cychwyn ar ein rhaglen datblygu broffesiynol, Cynrychioli Cymru. Cafodd yr awduron eu dewis gan banel asesu annibynnol yn dilyn galwad agored yn ystod Hydref 2023 a ddenodd dros 100 o geisiadau.

Rhaglen Cynrychioli Cymru:

Rhaglen 12 mis yw Cynrychioli Cymru sy’n cael ei hariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy’r Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Sefydliad Foyle. Y tro hwn, mae’r rhaglen – sydd ar gyfer awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector llenyddiaeth Gymraeg – yn canolbwyntio’n benodol ar ddatblygu gweithiau newydd ar gyfer cynulleidfa sy’n oedolion.

Mae’r cynllun yn cynnig ystod drawiadol o weithgareddau a chefnogaeth ymarferol i awduron. Bydd pob awdur yn derbyn ysgoloriaeth o £3,000 ynghyd â £300 ar gyfer treuliau, sydd wedi llwyddo i gefnogi awduron ar hyd y blynyddoedd diwethaf i gwrdd â darpar asiantau, mynychu gwyliau llenyddol yng Nghymru a thu hwnt, cefnogi cyflwyniadau i gystadlaethau amrywiol a mynychu encilion ysgrifennu. Bydd pob awdur hefyd yn cael ei baru â mentor o’u dewis, a fydd yn cynnig adborth ac arweiniad pwrpasol ar eu llawysgrifau yn ogystal â’u gyrfa ehangach fel awdur.

Yn ogystal, bydd Llenyddiaeth Cymru yn darparu sesiynau amrywiol yn llawn gwybodaeth i helpu’r awduron i feithrin doniau, datblygiad a’u gyrfaoedd. Dros y 12 mis nesaf, bydd yr awduron yn mwynhau cyrsiau preswyl, dosbarthiadau meistr ac ystafelloedd darllen sydd wedi eu cynllunio i gefnogi eu datblygiad. Byddant yn gwneud cysylltiadau newydd o fewn y diwydiant yn ogystal â dod yn ddarllenwyr beirniadol i’w gilydd.

Ar ôl i’r rhaglen 12 mis ddod i ben, bydd cefnogaeth barhaus ar gael i’r garfan i sicrhau bod ganddynt fynediad at gyngor, adnoddau a’r offer sy’n angenrheidiol i gyrraedd eu nodau.

Caiff Cynrychioli Cymru ei gyd-gynllunio gyda’r awduron, a’r sesiynau yn cael eu teilwra yn unol â nodau’r unigolion. Rydym yn ymdrechu i wrando ar adborth gan yr awduron sy’n cymryd rhan yn Cynrychioli Cymru bob blwyddyn, gan sicrhau fod y rhaglen mor ddefnyddiol â phosib i bob aelod o’r garfan.

Mae awduron blaenorol ar raglen Cynrychioli Cymru wedi parhau i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy ennill cynrychiolaeth asiantau, cyhoeddi llyfrau, cyrraedd rhestrau byrion cystadlaethau ysgrifennu cenedlaethol ac wedi dod yn arweinwyr mewn rolau cenedlaethol megis Bardd Cenedlaethol Cymru, Bardd Plant Cymru a Children’s Laureate Wales.

I glywed mwy am brofiadau’r tair carfan flaenorol, ewch i adran ‘Gair o brofiad’ ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.

Carfan 2024/25

O Wrecsam i Fachynlleth, Pontypridd i Gaerdydd, mae aelodau’r garfan eleni wedi’u lleoli ar draws Cymru. Maent yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres megis ffeithiol greadigol, ffuglen, barddoniaeth lafar (spoken word) a barddoniaeth ac yn archwilio themâu megis hunaniaeth, perthynas a hanes.
Mae pob awdur yn dod â phersbectif unigryw a chreadigol gyda nhw, a fydd yn annog, herio a chefnogi datblygiad eu hunain a’u cyd-awduron ar y rhaglen.

Ewch i ddysgu am bob awdur ar dudalen prosiect Cynrychioli Cymru.

Dros y 12 mis nesaf, bydd y garfan yn ceisio cyflawni eu nodau unigol, sydd eleni yn amrywio o orffen eu llawysgrif, meithrin cysylltiadau ag awduron eraill, datblygu gweithdai a chael gwell dealltwriaeth o’r gwahanol lwybrau i’w cyhoeddi.

Bydd pedwar o’r pedwar ar ddeg o awduron yn datblygu gwaith newydd yn y Gymraeg yn ystod y flwyddyn. Os bydd ganddynt ddiddordeb, bydd yr awduron eraill yn cael y cyfle i ddatblygu a gwella eu sgiliau Cymraeg ochr yn ochr â’r rhaglen graidd o weithdai a digwyddiadau, diolch i’n partneriaeth â’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi cefnogi awduron ar ein rhaglenni Datblygu Awduron dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Bydd y 14 awdur yn cwrdd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ar gyfer eu dosbarth meistr preswyl cyntaf a gynhelir yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ym mis Mai.

Y cyfle nesaf i gymryd rhan

Bydd yr alwad agored ar gyfer pumed rownd Cynrychioli Cymru yn cael ei lansio yn ystod Haf 2024. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a chofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr i fod y cyntaf i wybod! Bydd ffocws y rownd nesaf o Cynrychioli Cymru yn cael ei gyhoeddi wedi proses ymgynghori.

Yn y cyfamser, fel rhan o’n hymdrech barhaus i gefnogi datblygiad holl awduron Cymru, bydd detholiad o weithdai yn agored i’r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn.
Mae’r sesiynau cyhoeddus yn rhad ac am ddim ac yn cael eu cynnal arlein. Byddwn yn eu cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn ar ein cyfryngau cymdeithasol, cylchlythyr a thudalen gwefan Cynrychioli Cymru. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio, yn dilyn ac yn arbed y dudalen!

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ac i ddysgu mwy am bob awdur, ewch i dudalen we Cynrychioli Cymru.