Dewislen
English
Cysylltwch

Datganiad Llyfr y Flwyddyn – 04.06.2020

Cyhoeddwyd Llu 8 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Datganiad Llyfr y Flwyddyn – 04.06.2020

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn un o brif ddigwyddiadau’r calendr llenyddol yng Nghymru. Fel trefnwyr, ein blaenoriaeth yw sicrhau mai canolbwynt y drafodaeth yw awduron talentog Cymru, a bod modd i gymuned a diwydiant llenyddol Cymru elwa o’r gydnabyddiaeth i’r gweithiau hyn. Bydd y cyfarfod i bennu’r rhestr fer yn digwydd yn fuan, ac edrychwn ymlaen at rannu’r cyhoeddiad cyffrous hwn ar ddydd Mercher 1 Gorffennaf 2020, cyn cyhoeddi enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn tua diwedd Gorffennaf 2020.

Mae ein gwerthoedd yn egwyddorion sydd yn rhan annatod o bwy ydym ni fel sefydliad. Mae disgwyl i bawb sydd yn ymwneud â Llenyddiaeth Cymru – boed yn staff, Cyfarwyddwyr, cleientiaid, tiwtoriaid, gwirfoddolwyr neu aelodau panel – barchu a chydymffurfio â’r gwerthoedd hynny. Credwn fod gan bawb yr hawl i ryddid barn, fodd bynnag yn ein barn ni, credwn fod un o’r unigolion hynny sydd wedi eu penodi yn un o feirniaid Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi arddangos ymddygiad sydd yn niweidiol i’n gwerthoedd a’n buddiannau fel sefydliad yn ystod gweithgarwch ar-lein diweddar trwy ei ddefnydd o iaith ymosodol.

Gan hynny, gofynnwyd i Martin Shipton gamu o’r neilltu o’i rôl fel beirniad Llyfr y Flwyddyn, a hoffem ddiolch iddo am ei waith a’i gyfraniad tuag at Wobr Llyfr y Flwyddyn yn ystod y misoedd diwethaf.