Dewislen
English
Cysylltwch

Mari George a Tom Bullough yn cipio prif wobrau Llyfr y Flwyddyn 2024

Cyhoeddwyd Iau 4 Gor 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mari George a Tom Bullough yn cipio prif wobrau Llyfr y Flwyddyn 2024

Ar nos Iau 4 Gorffennaf cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024 yn Galeri Caernarfon, ac wrth i’r gorsafoedd pleidleisio groesawu eu hymwelwyr olaf o’r diwrnod, cyhoeddwyd mai Sut i Ddofi Corryn gan Mari George (Sebra) sydd wedi cipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2024 eleni, gyda Sarn Helen gan Tom Bullough (Granta) yn hawlio’r brif wobr yn y Saesneg.

Gwobr genedlaethol flynyddol yw Llyfr y Flwyddyn sy’n cael ei chynnal gennym ni, Llenyddiaeth Cymru, er mwyn dathlu a rhoi llwyfan i lenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd y noson ei harwain gan y digrifwr a’r cyflwynydd radio, Tudur Owen, ac yn ogystal â’r gynulleidfa fyw, darlledwyd y seremoni i Gymru a thu hwnt trwy ffrwd byw ar wefan AM, gyda phytiau o’r noson yn cael eu darlledu ar BBC Radio Cymru.

Roedd cyfanswm o 12 gwobr ar gael i’w hennill eleni, 4 gwobr categori yn y ddwy iaith; Barddoniaeth, Ffeithiol Greadigol, Ffuglen a Plant & Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y prif wobrau: Llyfr y Flwyddyn 2024 a Wales Book of the Year 2024. Yn ogystal cyflwynwyd gwobr Barn y Bobl gan Golwg360 a People’s Choice gan Nation.Cymru i’r llyfrau ddaeth i’r brig yn y polau piniwn.

Dyma enillwyr Cymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024:
Gwobr Ffuglen a Phrif Wobr Gymraeg Llyfr y Flwyddyn 2024
Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)

 

Y Wobr Farddoniaeth
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)

 

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)

 

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)

 

Gwobr Barn y Bobl Golwg360
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

 

Derbyniodd enillydd pob categori wobr o £1,000 a derbyniodd enillwyr y Prif Wobrau £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn, derbyniodd enillwyr y categorïau ac enillwyr Y Prif Wobrau dlws eiconig Gwobr Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a’r gof Angharad Pearce Jones.

Penodwyd panel annibynnol o feirniaid i ddarllen, trafod a dewis a dethol. Roedd y panel Cymraeg eleni yn cynnwys y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r awdur, Nici Beech; yr actor, cyfarwyddwr a’r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch arholwr Llenyddiaeth CBAC, Tudur Dylan Jones; a’r awdur ac uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.

 

Sut i Ddofi Corryn gan Mari George

Er fod Mari George yn adnabyddus iawn fel bardd, ac am ei haddasiadau o lyfrau i blant, Sut i Ddofi Corryn yw ei nofel gyntaf i oedolion. Mae’r nofel yn olrhain taith – neu deithiau – Muriel. Un yn daith lythrennol o Gymru i Guatemala ar hynt cynhwysyn allai ddod â gwellhad i’w gŵr, Ken. Mae’r daith arall yn un bersonol sy’n archwilio pryderon a gofidiau Muriel, ac yn un sy’n ei harwain at y darganfyddiad mai cariad yw’r cynhwysyn cryfaf oll.

Mae Mari George yn aelod o dîm Talwrn Aberhafren, a chanddi ddwy gyfrol o gerddi i’w henw. Er ei bod yn mentro i faes newydd gyda’r nofel hon, dywedwyd o lwyfan y seremoni wobrwyo mai “awdur aeddfed a chynnil sydd wrth y llyw”.

Darllenwch ragor am Mari George a’r gyfrol Sut i Ddofi Corryn ar ein blog.

Yn ôl beirniad Nici Beech:
“Mae’n dipyn o gyfrifoldeb i ddewis enillydd ar gyfer gwobr mor arwyddocaol, ond mae’n braf dweud ein bod, fel panel, mewn cytundeb llwyr ar yr enillydd.

Mae’r llyfr yma wedi ein diddori, wedi ein swyno ac wedi ein cyflwyno i arddull newydd yn y Gymraeg. O’r cychwyn cyntaf mae’r awdur dawnus wedi cyfleu darn rhyfeddol ac awthentig sydd yn eich dal o fewn ei byd.

Mae’n llyfr hudolus, sy’n darllen mor rhwydd ac mae cynildeb a dyfnder arbennig iddo sy’n cyffwrdd yr enaid ac yn aros yn y cof.“

Enillwyr y Wobr Saesneg:
Gwobr Ffeithiol Greadigol a Prif Wobr Saesneg Llyfr y Flwyddyn 2024
Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)

Y Wobr Farddoniaeth
Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy (Doubleday)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)

Gwobr People’s Choice nation.cymru
In Orbit, Glyn Edwards (Seren)
Darllenwch ragor am yr enillwyr Saesneg yma.

Ar y panel Saesneg eleni roedd yr awdur, newyddiadurwr a chadeirydd PEN Cymru Dylan Moore; yr awdur, Cymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol a mentor profiadol Patrice Lawrence; y nofelydd, dramodydd a chyn-enillydd Gwobr Dylan Thomas Rachel Trezise; a’r bardd, nofelydd a chyn-gadeirydd Gwobr T.S. Eliot, Pascale Petit.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr, partneriaid y wobr a’r seremoni: Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd, Bute Energy, Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru, BBC Cymru Wales, Golwg360, NationCymru, Brecon Carreg, Distyllfa Penderyn, Cwrw Llŷn a’n cyllidwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i Cwmni Da ac AM, am ffrydio’r seremoni’n fyw.