Dewislen
English
Cysylltwch

Mae Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 wedi ei chyhoeddi!

Cyhoeddwyd Sul 12 Mai 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Mae Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 wedi ei chyhoeddi!
Wedi misoedd lawer yn darllen trwy gynnyrch llenyddol 2023, mae dau banel beirniadu annibynnol wedi dewis eu rhestrau byrion ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024.

Bob blwyddyn, mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pedwar categori yn y ddwy iaith – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gydag un o’r enillwyr categori yn mynd ymlaen i ennill y Brif Wobr a hawlio’r teitl Llyfr y Flwyddyn.

Heddiw, dydd Sul 12 Mai, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru, datgelwyd y Rhestr Fer Gymraeg, a hynny yn fyw yng nghwmni’r panel beirniadu, a Chyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn.

Cyhoeddwyd y Rhestr Fer Saesneg ar raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales heddiw, lle cafwyd sgwrs rhwng Claire Furlong, Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru a Dylan Moore, un o feirniaid y gwobrau Saesneg.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru: “Am wledd o restrau byrion sydd wedi eu dewis gan y beirniaid eleni. Pedwar llyfr ar hugain gan awduron profiadol a rhai newydd, pob un yn cyflwyno agwedd wahanol ar lenyddiaeth Cymru. Amhosib yw crynhoi cymaint o lyfrau, a chymaint o awduron mewn un dyfyniad – felly dyma eich annog i’w darllen, bob un! Llongyfarchiadau i awduron y rhestrau byrion i gyd am eich camp ac am ein diddanu. Edrychwn ymlaen i’ch gweld chi oll yn Seremoni Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn y Galeri, Caernarfon ym mis Gorffennaf.”

Y Rhestr Fer Gymraeg

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai’r cyfrolau canlynol sydd wedi eu dethol ar gyfer Rhestr Fer Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024:

Y Wobr Farddoniaeth
Mae Bywyd Yma, Guto Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch)
Mymryn Rhyddid, Gruffudd Owen (Barddas)
Y Traeth o Dan y Stryd, Hywel Griffiths (Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cranogwen, Jane Aaron (Gwasg Prifysgol Cymru)
Y Delyn Aur, Malachy Owain Edwards (Gwasg y Bwthyn)
Trothwy, Iwan Rhys (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen
Anfadwaith, Llŷr Titus (Y Lolfa)
Sut i Ddofi Corryn, Mari George (Sebra)
Raffl, Aled Jones Williams (Gwasg Carreg Gwalch)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
Jac a’r Angel, Daf James (Y Lolfa)
Y Nendyrau, Seran Dolma (Gwasg y Bwthyn)
Astronot yn yr Atig, Megan Angharad Hunter (Y Lolfa)

Y Beirniaid

Penodir panel o feirniaid bob blwyddyn i ddarllen, trafod a dewis a dethol. Mae’r panel Cymraeg eleni yn cynnwys y cynhyrchydd, cyfarwyddwr a’r awdur, Nici Beech; yr actor, cyfarwyddwr a’r awdur, Hanna Jarman; y bardd ac uwch arholwr Llenyddiaeth CBAC Tudur Dylan Jones; a’r awdur ac uwch-ddarlithydd Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhiannon Marks.

Ar ran y panel Cymraeg, dywedodd Rhiannon Marks:
“Mae’n fraint cael bod yn un o’r beirniaid ar gyfer cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni. Roedd hi’n flwyddyn gyffrous o ran cyhoeddiadau ar draws pob categori a braf oedd gweld bod y fath gyfoeth o lyfrau Cymraeg wedi eu cyhoeddi yn y flwyddyn ddiwethaf. Cefais flas amheuthun ar ddarllen y cnwd o destunau a oedd yn gymwys i’r gystadleuaeth eleni a chryn fwynhad wrth drafod yn helaeth gyda’r tri beirniad arall. Gobeithio y bydd darllenwyr Cymraeg yn cytuno bod y rhestr fer yn adlewyrchu’r amrywiaeth o destunau llenyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yng Nghymru, ac y bydd sawl llyfr o blith y rhain yn apelio.”

Y Rhestr Fer Saesneg

Y Wobr Farddoniaeth
 I Think We’re Alone Now, Abigail Parry (Bloodaxe Books)
Cowboy, Kandace Siobhan Walker (Cheerio Publishing)
In Orbit, Glyn Edwards (Seren)

Gwobr Ffeithiol Greadigol
Sarn Helen, Tom Bullough (Granta Publications)
Birdsplaining: A Natural History, Jasmine Donahaye (New Welsh Rarebyte)
Spring Rain, Marc Hamer (Harvill Secker)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies
Stray Dogs, Richard John Parfitt (Third Man Books)
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone, Alex McCarthy ( Neon Roses, Rachel Dawson (John Murray)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc Bute Energy
 Where the River Takes Us, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)
Brilliant Black British History, Atinuke (Bloomsbury Children’s Books)
Skrimsli, Nicola Davies (Firefly Press)

Ar y panel Saesneg eleni mae’r awdur, newyddiadurwr a chadeirydd PEN Cymru Dylan Moore; yr awdur, Cymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol a mentor profiadol Patrice Lawrence; y nofelydd, dramodydd a chyn enillydd Gwobr Dylan Thomas Rachel Trezise; a’r bardd, nofelydd a chyn-gadeirydd Gwobr T.S. Eliot Pascale Petit.

 

Dyddiadau i’r dyddiadur…

I ddarganfod rhagor am y cyfrolau a’r awduron ar y Rhestr Fer, ewch i dudalen brosiect Llyfr y Flwyddyn.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen at gynnal digwyddiad i ddathlu rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yng Ngŵyl y Gelli eleni ar nos Lun, 27 Mai. Mi fydd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, yn cael cwmni 4 o’r awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer. Archebwch eich tocyn ar wefan Gŵyl y Gelli.

Beth nesaf

Bydd seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn cael ei chynnal ar nos Iau, 4 Gorffennaf yn Galeri Caernarfon. Bydd 12 gwobr a chyfanswm o £14,000 yn cael eu rhannu ymysg yr awduron, £1,000 yr un i’r enillwyr categori a £3,000 yn ychwanegol i enillwyr y brif wobr yn y ddwy iaith. Yn ogystal, bydd yr awduron llwyddiannus yn derbyn tlysau eiconig Llyfr y Flwyddyn wedi eu dylunio yn arbennig gan yr artist talentog, Angharad Pearce Jones.

Bydd tocynnau i’r seremoni ar werth o’r Galeri o 12 Mai ymlaen.

Noddir Gwobr Barn y Bobl gan Golwg360 ac fe noddir y People’s Choice Award gan Nation Cymru. Ewch draw i’ch siop lyfrau neu llyfrgell leol nawr er mwyn cael gafael ar gopi o’r llyfrau ar y rhestr fer cyn mynd ati i bleidleisio dros eich ffefryn ar eu gwefannau.

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn cael ei noddi gan lu o noddwyr hael a chefnogol, gan gynnwys Prif Noddwr y Wobr Saesneg, Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth Prifysgol Caerdydd.  Ewch draw i’n gwefan i gael cipolwg yn ogystal â phori trwy’r holl wybodaeth am y beirniaid, rhestr fer, y seremoni a’r cyn-enillwyr.

Dilynwch ni ar Instagram @llyfr_y_flwyddyn_wboty er mwyn bod gyda’r cyntaf i glywed cyhoeddiadau a newyddion diweddaraf am brosiect Llyfr y Flwyddyn.