Dewislen
English
Cysylltwch

Dathlu pen-blwydd Cranogwen gyda cherdd fideo newydd

Cyhoeddwyd Maw 9 Ion 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dathlu pen-blwydd Cranogwen gyda cherdd fideo newydd
Hanan Issa a Casi Wyn.
Mae Llenyddiaeth Cymru, mewn partneriaeth gyda S4C a Rondo, wedi rhannu cerdd fideo newydd i nodi penblwydd Cranogwen (Sarah Jane Rees, 1839 – 1916).

Mae ‘Dywed, beth oedd ei chyfrinach?’ yn gerdd gomisiwn gan Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru, a Casi Wyn, Bardd Plant Cymru 2021 – 2023. Perfformiwyd y cywaith dwyieithog ganddynt ar 10 Mehefin 2023 pan ddadorchuddiwyd cerflun Cranogwen yn Llangrannog – dathliad o’r diwrnod arbennig hwnnw sydd i’w weld yn y fideo.

Comisiynwyd y gerdd gan Llenyddiaeth Cymru i ddathlu tri pheth, sef y cerflun newydd, cyfraniad Cranogwen yn greadigol ac yn codi llais dros hawliau merched yng Nghymru, a gwaith clodwiw gwirfoddolwyr mudiad Cerflun Cymunedol Cranogwen yn gwireddu’r uchelgais o godi cofeb i’r bardd o Langrannog.

Dyma’r trydydd cerflun a gomisiynwyd gan Monumental Welsh Women o ‘fenyw go iawn’ i’w chodi mewn man cyhoeddus awyr agored yng Nghymru ac mae’n ddathliad creadigol ac uchelgeisiol sydd yn adleisio elfennau o gyraeddiadau arloesol a niferus Cranogwen. Cranogwen oedd y ferch gyntaf i ennill gwobr barddol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Mae’r cerflun gan y cerflunydd Sebastien Boyesen i’w weld yng nghanol Llangrannog, yn yr ardd gymunedol ar ei newydd wedd, nepell o’r lle claddwyd Sarah Jane Rees ym mynwent yr Eglwys.

Darllenwch y gerdd yma.