Dewislen
English
Cysylltwch

Dewch i ddysgu mwy am ein Cadeirydd newydd – Steve Dimmick

Cyhoeddwyd Gwe 11 Gor 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Dewch i ddysgu mwy am ein Cadeirydd newydd – Steve Dimmick
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi mai Steve Dimmick yw ein Cadeirydd newydd.

Yng nghyfarfod diweddaraf y Bwrdd Rheoli, cafwyd pleidlais unfrydol gan yr Ymddiriedolwyr i benodi Steve Dimmick yn Gadeirydd i Llenyddiaeth Cymru. Mae Steve yn olynu Dr Cathryn Charnell-White, sydd wedi dal y rôl ers 2021.

Mae Steve yn arwain Bwrdd Rheoli o 14 o Ymddiriedolwyr, pob un o gefndiroedd proffesiynol a chreadigol amrywiol, sy’n cyfrannu sgiliau a gwybodaeth hanfodol i lunio ein gweithgaredd a’n strategaeth.

Am ragor o wybodaeth am Fwrdd Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru, ewch i: Bwrdd Rheoli – Llenyddiaeth Cymru

 

Rhagor o wybodaeth am ein Cadeirydd

Mae Steve Dimmick yn fachgen o Blaina. Ei dad, sefydlydd Poems and Pints ym Mlaenau Gwent, wnaeth ysbrydoli ei gariad at eiriau. Mae Steve yn rhedeg clwb llyfrau CardiffRead, clwb darllen a thrafod mwyaf hirhoedlog y ddinas. Yn rhinwedd y rôl hon mae wedi croesawu pobl fel Manon Steffan Ros, Chris Power, Owen Sheers, Belinda Bauer, Lemn Sissay a llawer mwy trwy ddrysau Llyfrgell Treganna. O ddydd i ddydd, mae’n dad i dri o blant, ac yn eistedd fel Rhiant-Lywodraethwr yn Ysgol Plasmawr. Mae Steve hefyd wedi bod yn Ymddiriedolwr gyda National Theatre Wales, gan eu helpu i drosglwyddo i Welsh National Theatre dan arweiniad Michael Sheen, yn dilyn colli cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i NTW.

Ac yntau’n hoff o ieithoedd, cyrhaeddodd Steve rownd derfynol Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn yn 2018. Fel Cyfarwyddwr Masnachol Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, cylch gwaith Steve yw Gwneud Bywydau Pobl yn Well; rhywbeth y mae’n gobeithio ei gyflawni fel Ymddiriedolwr gyda Llenyddiaeth Cymru.

 

Fe wnaethon ni eistedd i lawr am sgwrs gyda Steve i ddysgu mwy amdano a’i obeithion ar gyfer ei gyfnod fel Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru.


Beth mae bod yn Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn ei olygu i chi?

Mae bod yn Gadeirydd Llenyddiaeth Cymru yn golygu cyfrifoldeb, atebolrwydd a chyfle: i wneud y gwaith hyd eithaf fy ngallu, mewn gwasanaeth i’n hawduron, i fod yn dryloyw lle fod angen gwelliant ac i helpu i lywio’r sefydliad yn ei flaen. Yn ystod cyfnod o drawsnewid i Gymru a llenyddiaeth, gyda chynnydd o 50% yn nifer yr aelodau yn ein seithfed Senedd y flwyddyn nesaf, a’r dylanwad a’r drafodaeth gynyddol ynghylch Deallusrwydd Artiffisial, bydd digon i’w ystyried wrth i ni barhau â’n gwaith yn darganfod, cefnogi a hyrwyddo ein hawduron.


Pa dri gair sy’n disgrifio Llenyddiaeth Cymru orau?

Dylanwadol, effeithiol, cefnogol.


Yn eich barn chi, beth yw’r cyfleoedd – neu’r heriau – mwyaf sy’n wynebu’r sefydliad yn y 12 mis nesaf?

Nid yw blwyddyn yn amser hir! Rwy’n meddwl y bydd anfon bardd gyda Thîm Merched FAW i’w Ewros cyntaf yr haf hwn fod y cyntaf o nifer o bartneriaethau rhwng ein hawduron a phartneriaid i arddangos gallu llenyddol Cymru i’r byd. O ran heriau, er ein bod wedi cymryd camau sylweddol yn ddiweddar i  amrywio ffrydiau refeniw, mae llawer mwy i’w wneud o hyd.

Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r bwrdd a’r swyddogion gweithredol i barhau â’r gwaith hwn, gan roi gwytnwch i’r sefydliad wrth inni ddechrau diffinio ein gweledigaeth strategol ar gyfer 2027-2032.


Pa rinweddau ydych chi’n meddwl sy’n hanfodol i adeiladu Bwrdd cryf ac effeithiol ar gyfer elusen fodern?

Unigolion cydweithredol, didwyll a chwilfrydig. Mae’n hanfodol fod gan ein haelodau wir angerdd dros yr elusen a’i diben, dylent fod empathetig ag yn gwbl ymwybodol o’u dyletswyddau statudol. I fod yn wirioneddol effeithiol, rhaid i aelodau fod yn barod i herio a chael eu herio yn ôl, gan sicrhau bod safbwyntiau amrywiol yn cael ystyriaeth briodol.


Allwch chi rannu adeg falch pan welsoch chi effaith gwaith eich elusen yn uniongyrchol?

Dwi newydd gyrraedd nôl o ychydig ddyddiau yn un o drysorau cenedlaethol Cymru: Gŵyl y Gelli. Tra yno, cefais glywed gan garfanau ein rhaglen LLIF diweddar (gyda’n ffrindiau yn EUNIC) ac Awduron wrth eu Gwaith (mewn partneriaeth â Gŵyl y Gelli). Roedd y ddau ddigwyddiad yn arddangos gwaith ysgrifennu’r awduron o’r pythefnos dwys gyda’i gilydd, ochr yn ochr, wrth iddyn nhw ddatblygu eu crefft dan warchodaeth mentoriaid a hyfforddwyr gwadd. Yn dilyn un o’r digwyddiadau, roeddwn i’n sgwrsio gyda rhai o gyn-garfan Awduron wrth eu Gwaith, cyfranogwyr o bron i ddegawd yn ôl yn eu haduniad blynyddol! Naw mlynedd ar ôl y gefnogaeth a ddarparwyd gennym, roeddent yn parhau i gefnogi ei gilydd, gan fynychu priodasau a chael tatŵs ar y cyd yn cofnodi eu profiad ar y rhaglen. Mewn byd o ganlyniadau a chynnyrch, nid wyf wedi gweld ‘cyfranogwyr yn incio’u hun ag enw’r rhaglen’ fel metrig, ond efallai y dylai fod!


Beth yw eich hoff lyfr neu ddarn o lenyddiaeth, a pham?

Cerddi fy Nhad. Bu farw Dad ychydig cyn geni ein plentyn cyntaf – Awst 8fed, 2006. Ar ôl streic y glowyr a chau pyllau, aeth Dad o un swydd i’r llall i gael deupen y llinyn ynghyd. Roedd codi’r gorlan a dod o hyd i gysur wrth ysgrifennu yn falm i’w enaid. Mae ei holl sgriblo a’r fersiynau teipiedig (a wnaeth Mam yn ystod ei hegwyl cinio yn y swyddfa) gyda fi. Maent yn adlewyrchu cymaint o fywyd Dad: ei gariad at Mam, ei angerdd dros natur, ei ddirmyg tuag at gyfalafiaeth, ei gred yng Nghymru, ei synnwyr o ddigrifwch, ac wrth gwrs, ei angerdd dros rym geiriau. Rwy’n gobeithio, fel Cadeirydd, y gallaf helpu llawer o bobl eraill i ysgrifennu eu straeon.