Dewislen
English
Cysylltwch

Diosg: Dathlu grŵp ysgrifennu sydd wedi gwreiddio ym Methesda

Cyhoeddwyd Mer 21 Mai 2025 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Diosg: Dathlu grŵp ysgrifennu sydd wedi gwreiddio ym Methesda
Cydnabyddiaeth Llun: Elin Gruffydd
Bu dathliad arbennig ym Methesda yn ddiweddar i gydnabod gwaith grŵp ysgrifennu creadigol Diosg a throsglwyddo ei ofal i’r gymuned yn Nyffryn Ogwen. Roedd y digwyddiad hefyd yn gyfle i ddadorchuddio comisiwn celf newydd gan Catrin Williams a ysbrydolwyd gan y grŵp a’u gwaith.

Ar ddydd Sadwrn braf ym mis Mawrth, daeth awduron a llên-garwyr ynghyd yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda i weld y celf newydd am y tro cyntaf ac i ddathlu’r ymdeimlad o gynhesrwydd a chefnogaeth mae’r grŵp sgwennu wedi ei greu rhwng ei aelodau.

 

Grŵp Sgwennu Diosg

Yr awdur a’r bardd, Casia Wiliam, sefydlodd y grŵp ysgrifennu creadigol ym Methesda fel rhan on cynllun Llên mewn Lle, sy’n cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu, a chyflawni gweithgaredd yn eu cymuned leol. Nod y prosiect yn ehangach yw cefnogi cymunedau i archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur yn eu hardal nhw drwy gyfrwng llenyddiaeth.

Mae’r grŵp ym Methesda yn cwrdd ers mis Ebrill 2024 yng Nghanolfan Cefnfaes yn y pentref, a mabwysiadwyd yr enw ‘Diosg’ ar ôl cerdd gan Casia sy’n trafod profiadau’r grŵp. Sbardun y prosiect oedd y bardd Meleri Davies, oedd yn Brif Weithredwr Partneriaeth Ogwen ym Methesda ar y pryd, a daeth y cwmni hwnnw, ynghyd a GwyrddNi Dyffryn Ogwen, yn bartneriaid naturiol i’r cynllun.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru“Mae llên a chreadigrwydd yn greiddiol i hunaniaeth a threftadaeth pobol Bethesda a Dyffryn Ogwen a rydym ni mor ffodus i gefnogi’r prosiect hyfryd hwn yn yr ardal dan arweiniad Casia Wiliam.

“Un o amcanion y cynllun ym Methesda oedd sefydlu grŵp a fydd yn gwreiddio a pharhau i gwrdd, gan ymestyn y tu hwnt i’r hedyn a blannwyd trwy Llên mewn Lle. Wrth gydweithio gyda Phartneriaeth Ogwen a GwyrddNi, roedden ni’n ffyddiog iawn y byddai’r egni creadigol a’r weledigaeth yn parhau.”

 

Meddai Casia Wiliam:

“Dros y flwyddyn a fu mae grŵp sgwennu Diosg wedi cwrdd bob pythefnos ym Methesda, er mwyn archwilio gwahanol fathau o sgwennu, ac archwilio’r fro. Roedd y sesiynau’n rhoi ffenest fach i’r aelodau gamu nôl o brysurdeb bywyd, i ganolbwyntio ar fynegi eu hunain yn greadigol tra’n cael cyfle i ddod i adnabod yr ardal o’u cwmpas yn well, yn lwybrau cerdded, corneli cudd a safleoedd hanesyddol.

“Mae wedi bod yn brofiad arbennig gweld y criw yn datblygu, gan dyfu mewn hyder, datblygu eu dulliau sgwennu, dod i adnabod ambell le newydd o fewn eu milltir sgwâr ac asio fel criw hefyd. Mae grŵp Diosg wedi crisialu i mi pa mor bwysig yw creadigrwydd pan mae’n dod at lesiant, a theimlo cyswllt â’n bro er mwyn wynebu heriau newid hinsawdd.” 

Bydd grŵp sgwennu Diosg yn parhau i gwrdd bob yn ail ddydd Mercher yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, gan fynd allan am dro i lecynnau gwyrdd lleol i fwynhau byd natur ac ysgrifennu.

Mynychwyr y grŵp fydd yn arwain y sesiynau o hyn allan; cynhaliwyd sesiwn hyfforddiant ar hwyluso gweithdai i’r criw wedi ei arwain gan Casia a Iola Ynyr ac mae’r drefn newydd wedi dechrau gwreiddio’n dda yn barod.

 

Comisiwn celf

Fel rhan o gynllun Llên mewn Lle, mae gweithiau celf yn cael eu comisiynu a’u rhoi yn anrheg i’r cymunedau. Maent yn cael eu harwain gan syniadau a chreadigrwydd y grwpiau dan sylw. Yn anrheg i grŵp Diosg, mae’r artist Catrin Williams wedi creu dau furlun. Mae’r cyntaf yn cynnwys cerdd gyfansawdd wedi ei chyfansoddi gan y grŵp, a’r ail furlun yn ddarn chwareus a rhyngweithiol sy’n cynnwys geiriau ar ddarnau o felcro er mwyn annog pobl i greu cerddi eu hunain a chael hwyl gyda geiriau.

Meddai Catrin Williams:

“Pleser mawr oedd bod yn rhan o’r broses o greu dau gywaith creadigol hefo criw Diosg. Er her y comisiwn, roedd y cynhesrwydd a’r croeso a dderbyniais drwy eu creadigrwydd yn werthfawr iawn i mi fel artist llawrydd.” 

Bydd y mudiad GwyrddNi; yn cefnogi’r gymuned i barhau â’r grŵp sgwennu o hyn allan. Mae sefydlu grŵp ysgrifennu creadigol sy’n cynnig lle saff i rannu ysgrifennu personol gyda phwyslais ar ysgrifennu am natur a’r amgylchedd ymysg blaenoriaethau eu Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Ogwen.

Meddai Chris Roberts, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi – Dyffryn Ogwen:

“Mae wedi bod yn wych gweld y grŵp yn dod at ei gilydd fel rhan o Llên Mewn Lle. Mae’r criw yn amlwg yn cael llawer o fudd ac ysbrydoliaeth creadigol o ddod at ei gilydd yn rheolaidd. Rydym yn falch o allu cefnogi’r criw i barhau i gwrdd. Mae wastad croeso i bobl newydd ymuno, a does dim rhaid ymrwymo i ddod I bob sesiwn. Cysylltwch â mi yn Partneriaeth Ogwen am fwy o wybodaeth.”

 

Caiff Llên mewn Lle ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru. Mae prosiectau y cynllun wedi eu cynnal yn Rhosgadfan, Treherbert ac Abertawe, gydag un arall ar y gweill yn Nhyddewi ar hyn o bryd.

Dywedodd Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru: “Llongyfarchiadau mawr i Casia a holl aelodau Diosg ar lwyddiant y grŵp, gwych yw gweld ffrwyth llafur cariad sy’n denu ysbrydoliaeth, nerth a lles gan y byd natur a’r amgylchedd o’u cwmpas. Mae cysylltiad ddwfn y Cymry â’r tir a môr o’n cwmpas yn graidd i nifer fawr o’n gweithiau creadigol a’n diwylliant ers canrifoedd, a thrwy’r cynllun hwn rydyn ni’n annog parhad y cysylltiad yma a’i ddatblygu i adlewyrchu’r Gymru sydd ohoni.

Mae natur yn rhoi cymaint inni, o’r bwyd yr ydym yn ei fwyta i’r aer yr ydym yn ei anadlu, mae’n ein cadw ni yn iach ac yn ffynnu. Ond weithiau, rydyn ni’n anghofio bod natur angen ychydig o help wrthym ni hefyd, felly, tra ein bod ni’n gadael i natur wneud gwyrthiau i’n lles a’n creadigrwydd, dylem gofio cefnogi ein byd naturiol anhygoel yn ei dro. Oherwydd pan fyddwn ni’n adfer natur, mae natur yn ein hadfer ni.”

Derbyniodd y prosiect ym Methesda nawdd gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Gwynedd, a caiff ei gefnogi gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.

Mae Casia Wiliam yn awdur a bardd prysur, yn gyn Fardd Plant Cymru ac yn ymarferydd creadigol sy’n cynnal gweithdai ysgrifennu i blant ar hyd a lled y wlad. Mae cynllun Llên mewn Lle yn cynnig cyfle iddi fagu profiad wrth weithio gydag oedolion. Cafodd Casia ei mentora ar y cynllun gan yr awdur a’r hwylusydd Iola Ynyr, oedd ei hun yn cynnal cynllun Llên mewn Lle yn Rhosgadfan y llynedd.