Dewislen
English
Cysylltwch

Llên mewn Lle: Lle i Lenorion ym Methesda

Cyhoeddwyd Llu 2 Medi 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llên mewn Lle: Lle i Lenorion ym Methesda

“Yn raddol, i gyfeiliant afon Ogwen
mae’r drain yn llacio a phob
gwên yn gwneud lle i rywbeth mwy.” **

Mae’r awdur a’r bardd, Casia Wiliam, wedi ei chefnogi i sefydlu grŵp ysgrifennu creadigol newydd ym Methesda fel rhan o gynllun Llên mewn Lle. Mae’r grŵp ‘sgwennu yn cwrdd ers mis Ebrill yng Nghanolfan Cefnfaes yn y pentref ac wedi mabwysiadu’r enw ‘Diosg’ ar ôl cerdd gan Casia sy’n trafod eu profiadau hyd yma.

Caiff Llên mewn Lle ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru, ac mae’n brosiect sy’n  canolbwyntio ar gyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddatrysiadau ymarferol ar gyfer effeithiau yr argyfwng natur a hinsawdd. Mae’r prosiect ym Methesda wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Gwynedd, ac mae’n cael ei gefnogi gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.

Nod y cynllun yw datblygu lleisiau creadigol y gymuned a lleihau pryder hinsawdd trwy lenyddiaeth. Meddai Casia Wiliam:

“Yn ein sesiynau rydan ni’n defnyddio ’sgwennu a llenyddiaeth fel ffordd o ddod yn nes at fyd natur a’r amgylchedd, gan gymryd cyfle creadigol i archwilio’r hyn mae natur a’r gymuned leol yn olygu i ni. Yn y sesiynau byddwn yn edrych ar wahanol arddulliau ’sgwennu, yn edrych ar waith gwahanol lenorion, yn clywed gan arbenigwyr lleol ac yn mynd allan i fwynhau natur yr ardal. Mae yna griw da wedi dod ynghyd ac rydan ni’n cael budd mawr o ddod at ein gilydd i fwynhau, dysgu a ’sgwennu.”

Bydd y criw yn cwrdd bob yn ail ddydd Mercher yng Nghanolfan Cefnfaes ym Methesda fel arfer gan fynd allan i Barc Meurig neu lecyn gwyrdd arall yn lleol i fwynhau byd natur ac ysgrifennu. Mae mynychwyr y grŵp yn llywio trywydd sesiynau Casia, er enghraifft roedd llawer wedi mynegi diddordeb mewn enwau lleoedd ac felly fe wnaeth y Prifardd Ieuan Wyn arwain taith gerdded llenyddol i’r grŵp i Foel Faban yn ddiweddar.

Mae Casia Wiliam yn awdur a bardd prysur, yn gyn Fardd Plant Cymru ac yn ymarferydd creadigol sy’n cynnal gweithdai ysgrifennu i blant ar hyd a lled y wlad. Mae cynllun Llên mewn Lle yn cynnig cyfle iddi fagu profiad wrth weithio gydag oedolion. Mae Casia yn cael ei mentora ar y cynllun gan yr awdur a’r hwylusydd Iola Ynyr, oedd ei hun yn cynnal cynllun Llên mewn Lle yn Rhosgadfan y llynedd.

Meddai Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, “Mae llên a chreadigrwydd yn greiddiol i hunaniaeth a threftadaeth pobol Bethesda a Dyffryn Ogwen a rydym ni mor ffodus i gefnogi y prosiect hyfryd yno dan arweiniad Casia Wiliam.

“Un o amcanion y cynllun ym Methesda yw sefydlu grŵp a fydd yn gwreiddio a pharhau i gwrdd ac ymestyn y tu hwnt i hyd y prosiect yma ac wrth gydweithio gyda Phartneriaeth Ogwen a GwyrddNi rydym yn ffyddiog iawn y bydd yr egni creadigol a’r weledigaeth yn parhau.”

Mae Meleri Davies, Prif Weithredwr Partneriaeth Ogwen yn fardd lleol a hi oedd sbardun y prosiect hwn ym Methesda; meddai:

“Yn annisgwyl, merched yw holl aelodau’r grŵp sy’n brawf o egni creadigol merched lleol. Mae wedi bod mor braf gweld y prosiect yn ysgogi nifer i ailgydio yn eu sgwennu tra bo aelodau eraill wedi dechrau sgwennu am y tro cyntaf. Mae’n brosiect arbennig gyda awyrgylch a theimlad cynnes a chefnogol i bob sesiwn a dwi methu disgwyl i weld y llenorion newydd yma’n rhannu mwy o’u gwaith.”  

Un arall o’r grwpiau sy’n gweithio yn yr ardal yw mudiad GwyrddNi; mae sefydlu grŵp ysgrifennu creadigol sy’n cynnig lle saff i rannu ysgrifennu personol gyda phwyslais ar ysgrifennu am natur a’r amgylchedd ymysg blaenoriaethau Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Ogwen y mudiad. Y gobaith yw y byddant yn parhau â’r grŵp ysgrifennu pan ddaw y prosiect presennol i ben yn mis Rhagfyr.

Mae Llên mewn Lle yn gynllun cenedlaethol wedi ei ddyfeisio gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru, sy’n cynnig nawdd i awduron a hwyluswyr i greu, sefydlu, a chyflawni gweithgaredd yn eu cymuned leol. Yn 2022-2023, derbyniodd tri prosiect gefnogaeth, sef Gwledda dan ofal Iola Ynyr yn Rhosgadfan, Ffrwyth ein Tân, dan ofal Siôn Tomos Owen yn Nhreherbert a The LUMIN Syllabus dan ofal Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse yn Abertawe. Mae cynllun arall ar y gweill yn Nhyddewi a fydd yn dechrau yn yr hydref.

** Dyma gerdd gan Casia Wiliam am y grŵp ysgrifennu:

Y Diosg

Down at ein gilydd yn gwlwm.
Pawb a’u pennau’n fieri pigog –
y cyfrifoldeb o garu a gofalu am eraill.

Mae ’sgafnder yn y sgwrsio
ond gallwn deimlo brathiad
drain y naill a’r llall.

Felly dyma godi’n gwreiddiau,
datgysylltu, a chychwyn trwy’r drws.
Awn allan. I lawr yr allt

i Barc Meurig, at y giât
a dros y bont ac mae’n dechrau
digwydd: y diosg.

Yn raddol, i gyfeiliant afon Ogwen
mae’r drain yn llacio a phob
gwên yn gwneud lle i rywbeth mwy.

Camwn, gan weld yn iawn
am y tro cynta eto y llwybr, y rhedyn,
y dant y llew a’r llanast

Cwpan Starbucks, filter tips
ond daliwn i sbïo nes gweld
y crocys a llygad y dydd

a daliwn i wrando nes clywed y gog
a’r ji-binc, ac o’r diwedd
leisiau ein hunain eto.

Rhown law ar lawr a thynnu bys
hyd rysgl gan geisio gadael rhan o’n hunain yma
a mynd a rhywbeth efo ni.

Croeswn y bont eto, ac rwy’n dal yn ôl
er mwyn eu gweld yn mynd
i fyny’r allt yn un tusw lliwgar.

Casia Wiliam

Cerdd a ysgrifennwyd gan Casia ar gyfer
Cynllun Bardd y Mis BBC Radio Cymru a Barddas