Dewislen
English
Cysylltwch

Encil Awduron LHDTC+ yn Nhŷ Newydd: Ymgeisiwch Nawr

Cyhoeddwyd Gwe 2 Awst 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Encil Awduron LHDTC+ yn Nhŷ Newydd: Ymgeisiwch Nawr
Dyddiad cau ymgeisio: 12.00 pm hanner dydd dydd Gwener, 30 Awst

“I fi, roedd yr encil yn gyfle gwych ac unigryw i greu cysylltiadau gyda phobl greadigol gwiyr o ledled Cymru. Cefais gyfle i ddysgu sgiliau newydd fel sut i gynganeddu mewn awyrgylch hollol saff a chefnogol, gydag ysgogwyr roeddwn i’n medru uniaethu efo nhw. Dwi wedi gwneud ffrindia a chysylltiada newydd, a hefyd wedi cael tipyn o hwyl ar hyd y ffordd! Fyswn i’n annog unrhyw un sy’n ystyried gwneud cais am le ar yr encil i fynd amdani.” – Kayley Roberts

 

“Roedd encil ‘sgwennwyr Llyfrau Lliwgar yn brofiad arbennig. Tips a tricks gan ysgrifenwyr profiadol a chael gwneud hynny yng nghwmni LHDTC+. Doedd dim pwysau chwaith, doedd dim rhaid rhannu unrhyw waith! Go iawn, penwythnos o hwyl a chael datblygu sgiliau sgwennu’r un pryd. Ben dant, mi fuaswn yn argymell unrhyw un sy’n mwynhau sgwennu i fynd ar yr encil.” – Iwan Kellett

Mae’n bleser gan Llenyddiaeth Cymru a Llyfrau Lliwgar wahodd unigolion o’r gymuned LHDTC+ sy’n siarad Cymraeg i ymgeisio am le ar encil ysgrifennu creadigol yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae’r encil yn rhad ac am ddim, a bydd yn digwydd rhwng prynhawn Gwener 8 a phrynhawn Sul 10 Tachwedd 2024.

Mae croeso i rai sy’n gymharol newydd i’r byd ysgrifennu wneud cais, yn ogystal ag awduron ychydig yn fwy profiadol. Bydd yr encil hon yn cynnig rhaglen o weithgareddau a gweithdai i ddatblygu sgiliau ysgrifennu creadigol dan arweiniad yr awdur a’r tiwtor profiadol Mike Parker. Bydd gweithdy gwadd arbennig dan ofal y bardd a’r canwr-gyfansoddwr Melda Lois i gael blas ar grefft wahanol a gweithdy creadigol hefyd gan yr awdur ac un o sylfaenydd Llyfrau Lliwgar, Gareth Evans-Jones.

Bydd digon o gyfle i dreulio amser yn cymdeithasu a chreu rhwydwaith gefnogol a diogel o awduron i gefnogi eich taith ysgrifennu y tu hwnt i ffiniau’r penwythnos preswyl.

Clwb llyfrau LHDTC+ a sefydlwyd ym Mangor, sydd bellach â changen yng Nghaerdydd, yw Llyfrau Lliwgar. Ynghyd â chyfarfodydd misol, mae’r clwb llyfrau yn cynnal nosweithiau cymdeithasol, ac yn cymryd rhan yn gyson mewn o nifer o ddigwyddiadau Balchder, gan gynnwys Balchder Gogledd Cymru a Pride Cymru. Mae’r cyfle i ymgeisio am le ar yr encil hwn ar agor i awduron o bob cwr o Gymru.

Dyma fydd y trydydd tro i Llyfrau Lliwgar gydweithio â Llenyddiaeth Cymru i gynnal encil ysgrifennu creadigol yn Nhŷ Newydd.

Yn 2022, Elgan Rhys, Bethan Marlow a Llŷr Titus oedd yr ysgogwyr creadigol, a Megan Angharad Hunter yn awdur gwadd. Yn dilyn y penwythnos hwnnw, cyflwynodd sawl un a fynychodd yr encil eu gwaith i’w cynnwys yn y flodeugerdd LHDTC+ gyntaf yn y Gymraeg a gyhoeddwyd gan Gyhoeddiadau Barddas, Curiadau (2023).

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliwyd yr encil am yr eildro gyda Llio Maddocks a Leo Drayton yn ysgogwyr creadigol, a Mendez yn awdur gwadd. Yn sgil y penwythnos hwnnw, daeth cyfle i’r mynychwyr gyfrannu gwaith ar gyfer zine newydd sbon o’r enw rhych newydd a gyhoeddwyd yn Chwefror 2024.

I ddarllen Cwestiynau Cyffredin am y cyfle hwn, darllen gwybodaeth am yr ysgogwyr creadigol, ac i ymgeisio am le, ewch draw i’r dudalen brosiect.