Dewislen
English
Cysylltwch

Encil Sgiliau Sgriptio Llenyddiaeth Cymru a Theatr y Sherman

Cyhoeddwyd Gwe 17 Meh 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Encil Sgiliau Sgriptio Llenyddiaeth Cymru a Theatr y Sherman

11 o ddramodwyr yn mynychu cyfle datblygu rhad ac am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Yn ôl ym mis Ebrill 2022, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru a Theatr y Sherman alwad agored i ddramodwyr sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y byd llenyddiaeth a’r diwydiant theatr i ymgeisio am gyfle i gymryd rhan mewn encil arbennig yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd er mwyn datblygu eu sgiliau sgriptio ar gyfer y llwyfan.

Roedd y cyfle yn agored i egin awduron sy’n cael eu tangynrychioli o fewn y byd llenyddol a theatr.

Yn ystod yr encil, buont yn cymryd rhan mewn gweithdai grŵp i ddatblygu eu crefft, gan gynnwys datblygu syniadau gwreiddiol eu hunain a’u gosod ym myd y ddrama. Cafwyd sesiynau ar sut i greu cymeriadau a deialog credadwy, creu strwythur i gario’r stori, ac archwilio – ac efallai gwthio – ffiniau’r ddrama lwyfan. Cafodd pob awdur hefyd gyfarfod un-i-un gyda’r tiwtoriaid, Branwen Davies ac Alice Eklund, i drafod eu gwaith a’u datblygiad fel awduron.

Cynhaliwyd sesiynau rhithiol hefyd gyda dau o’r diwydiant: Sita Thomas, Cyfarwyddwr Artistig cwmni theatr Fio ac Alistair Wilkinson, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol WoLab.

 

Y Dramodwyr

Cyfansoddwr ag awdur o Lincolnshire yw Kat Stephenson (They/Them/Nhw). Mae’n byw yng Nghaerdydd, ac yn astudio cyfansoddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama. Mae Kat yn ysgrifennu cerddi a dramâu, ac yn ymddiddori mewn theatr – fel awdur, ac fel cyfansoddwr. Fel awdur awtistig, mae Kat yn ymdrechu i gynrychioli a cyfathrebu eu profiadau drwy eu gwaith ysgrifennu, ac mae’n gwerthfawrogi y pŵer y gall geiriau a straeon eu cael, nid dim ond i ddiddanu, ond i ddyrchafu lleisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn aml. 

 

Actor ac awdur o Brestatyn yw Sophie Warren (She/Her/Hi), sydd ar hyn o bryd yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n dysgu Cymraeg, ac ers graddio fel actor o’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, mae hi wedi gweithio yn y byd theatr a teledu yng Nghymru a dros y ffin yn Llundain. Cwblhaodd gwrs hyfforddi golygu sgript yn ddiweddar gyda Sgil Cymru a’r BBC Writers Room, a bu’n ddigon ffodus o gael gweithio â chwmnïoedd yn cynnwys The Other Room, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol, Chapter Arts Centre ac OSO Arts, ac bu yn ysgrifennu i Ŵyl Sprint y Camden People’s Theatre y llynedd. 

 

Daw Tom Halton o Ben-y-bont ar Ogwr, a graddiodd yn ddiweddar o LIPA gyda BA (Anrhydedd) mewn Actio. Wrth hyfforddi, mae Tom wedi cynhyrchu sawl darn o ysgrifennu yn cynnwys Subliminal, drama radio wedi ei gynhyrchu gan ei gwmni Alternative Facts and Two Seeds; Same Soil fel rhan o’r 24hr Play Project, tra hefyd yn datblygu drama lawn a sgript sgrin tair rhan wedi ei seilio ar ei brofiadau LHDTC+ ei hun. Mae Tom yn teimlo’n angerddol dros greu mwy o waith ysgrifennu cwîar o fewn y theatr yng Nghymru a rhoi llais i straeon sy’n cael eu tangynrychioli drwy gyfryngau technolegol a chyffrous. 

 

Awdur ac actor yw Rhys Warrington, a ddaw yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin. Fel dramodydd, agorodd ei ddrama gyntaf, BLUE, yn Ionawr 2019 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Cynhyrchwyd y ddrama gan Gynrychiadau Chippy Lane. Yn dilyn BLUE, mae Rhys wedi bod yn gweithio ar ffilm gyda’r cynhyrchydd Joe Stephenson (Chicken, McKellen: Playing the Part) am fywyd y llofrudd Dean Corll, oedd yn byw yn Nhecsas yn y 1970au. Ochr yn ochr â hyn, mae wedi bod yn gweithio ar ddrama newydd o’r enw Fossils gyda’r cynhyrchydd Francesca Goodridge yn y Royal Exchange ym Manceinion. Cyrhaeddodd Rhys restr hir Awdur Preswyl BBC Wales 2020 a’r World Productions Writers Award 2021. Cyhoeddir Rhys gan Methuen. 

 

Mae Emily Garside yn awdur ar bob math o bethau. Treuliodd Emily sawl mlynedd fel academydd a darlithydd, yn cychwyn gyda Doethuriaeth ar ymateb theatrig i’r argyfwng AIDS, ac esblygiad y theatr LHDTC. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar ddau lyfr sy’n berthnasol i’w hymchwil. Mae’n arbenigo ar ysgrifennu am ddiwylliant cwîar. Fel newyddiadurwr, mae’n cyfrannu yn gyson i’r The Queer Review, ac mae wedi ysgrifennu i’r American Theatre, Slate, BBC a The Stage. 

 

Graddiodd Harrison Scott-Smith â gradd mewn action o LIPA yn 2020. Ymysg ei waith ysgrifennu y mae Anything is Popsicle, Out-Rage-Us (Sherman Theatre). Mae ei waith actio yn cynnwys Ben, Hushabye Mountain (Theatr Hope Mill); Queerway (Cynyrchiadau Leeway); Harry, Closure (BBC Cymru). Gyda’i waith actio llais cyrraeddodd rownd derfynol Ysgoloriaeth Carleton Hobbs y BBC. Mae Harrison yn angerddol dros adrodd straeon Cymreig, cwîar sydd yn aml yn cynnwys mytholeg ag elfennau gothig. Mae Harrison wrth ei fodd yn bod yn rhan o encil Tŷ Newydd, ac mae’n edrych mlaen i ddysgu i’r profiad a cwrdd ag awduron gwych o Gymru. Instagram/ Twitter – @harrisunsmith 

 

Mae Del Hughes, sy’n frodor o Abertawe, yn awdur ac yn optimist tragwyddol – yn argyhoeddedig, un diwrnod, y bydd hi’n creu drama sy’n deilwng o’r llwyfan. Yn edmygydd theatr ers erioed, mae ei phrosiect dramatig cyfredol, Three Women, yn dragicomedi sy’n cymryd ysbrydoliaeth o chwedlau a hanes Cymru, gan archwilio cysyniadau’r fenywaidd ddwyfol a’r achubiaeth. Ers cwblhau MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, mae hi wedi’i chyhoeddi yn Frequency House Poetry Slam Anthology ac mae’n golofnydd cyson i Nation.Cymru. Mae hi’n fam-(i)-gi, yn yfwr te bythol ac wrth ei bodd â Revels blas coffi. 

 

Awdur a chynhyrchydd yw Daisy Major (Hi/Nhw) sy’n byw yn Sir Ddinbych. Ar ôl syrthio mewn cariad â theatr mewn grŵp ieuenctid dan ofal Theatr Clwyd, aeth Daisy yn ei blaen i astudio Drama ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl. Ers graddio, mae wedi sefydlu eu cwmni theatr eu hun, On We Go, ac wedi sefydlu digwyddiad theatr LHDTC+, The Rainbow Spotlight. Mae gan Daisy ddiddordeb penodol mewn adrodd straeon sy’n canolbwyntio ar fenywod a’r gymuned LHDTC+. Yn ddiweddar, aeth Daisy i NSDF 22 gyda sioe fel rhan o’u rhaglen LAB, a threulio ambell ddyddiau mewn R&D gydau drama gyntaf, Wandering. 

 

Hanesydd o Geredigion yw Mair Jones (hi/honna) sydd ag MA yn Hanes Cymru. Mae’n ysgrifennu barddoniaeth, storïau ac yn rhannu hanesion grwpiau lleiafrifol Cymru ar-lein. Ysgrifennodd flogiau i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Amgueddfa Cymru yn ogystal â barddoniaeth i lyfrynnau lleol. Ar ôl bod yn rhan o grŵp ysgrifennu yn Aberystwyth, bu Mair yn arwain gweithdai ysgrifennu ffuglen hanesyddol ac ar hanes Cymru. Ysgrifennu sgript ffilm fer i brosiect Iris in the Community, a drama fer a gafodd ei pherfformio gan gwmni theatr Dirty Protest yn yr Eisteddfod Genedlaethol. 

 

Cychwynodd Sophie Marie ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol gyda syniad am nofel, ond ar ôl arbrofi â sawl modiwl gwahanol, canfyddodd mai sgriptiau oedd yn mynd â’i bryd. Mae hi wedi cyhoeddi straeon byrion, ond ei llwyddiant pennaf oedd y cynhyrchiad o’i drama radio, Inside Me. Mae Sophie y arbrofi â’r genre comedi, ac mae’n cynllunio ysgrifennu sitcom ar gyfer ei thraethawd hir. Mae hi eisiau gweld mwy o bobl fel hi mewn dramâu, a bydd felly’n sicrhau fod cymeriadau du yn ymddangos yn ei sgriptiau.  

 

Mae Lowri Morgan yn ddramodrwraig ac actor cwîr yn wreiddiol o Gaernarfon ond yn bellach yn byw yng Nghaerdydd. Pan yn 19 cafodd Lowri ei dewis ar gyfer Grŵp Dramodwyr Newydd Theatr Genedlaethol Cymru a dyna oedd y catalydd ar gyfer ei gyrfa yn y diwydiant theatr. Blwyddyn diwethaf cafodd drama cyntaf Lowri Cuddio ei gynhyrchu gyda Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Ers dechrau ysgrifennu 5 mlynedd yn ôl mae Lowri wedi gweithio ar amryw o gomisiynau a projectau gwahanol gyda Theatr Genedlaethol Cymru, Dirty Protest, Frân Wen ac yn fwy diweddar Rondo Media. 

 

Mae Charles O’Rourke (fo/nhw) yn ddarllenydd sgript ac yn awdur cwîar a niwroamrywiol. Mae nhw wedi gweithio fel darllenydd sgript i’r Liverpool Everyman, Theatr Clwyd, a 4Stories i Channel 4. Cyn cychwyn darllen sgriptiau, treuliodd amser fel labrwr, ac yn ymgyrchu dros hawliau cwîar, ac hefyd yn cyfieithu Llenyddiaeth. Mae’n ymddiddori mewn straeon dosbarth gweithiol cwîar, anabl sydd ag elfennau o gomedi, y goruwchnaturiol ac/neu gwyddonias. Mae ar hyn o bryd yn ysgrifennu stori ysbryd. 

Literature Wales