Dewislen
English
Cysylltwch

Enillydd Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020 yn Cyhoeddi ei Gasgliad Barddoniaeth Gyntaf

Cyhoeddwyd Mer 25 Tach 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Enillydd Gwobr ‘Rising Stars’ Cymru 2020 yn Cyhoeddi ei Gasgliad Barddoniaeth Gyntaf
Mae Firefly Press wedi cyhoeddi y bydd casgliad barddoniaeth gyntaf Alex Wharton, Daydreams and JellyBeans, yn cael ei gyhoeddi ar y 28 Ionawr 2021

O fferins blewog i freuddwydion prydferth, dyma gasgliad o gerddi i’w mwynhau. Mae cerddi Alex, a gyfansoddwyd ar gyfer plant 7-11 mlwydd oed, yn ddoniol ac yn feddylgar, yn anelu at danio cynefindra a chynhwysiant, ac yn ehangu’r meddwl mewn ffyrdd dychmygus a chwilfrydig. Mae rhythm, odl, a mesur rhydd y cerddi yn golygu eu bod yn addas i’w perfformio mewn ysgol wrth geisio meithrin cariad ar iaith, darllen, hyder a hunanfynegiant.  Mae’r gyfrol wedi ei ddarlunio’n hyfryd gan y darlunydd ifanc talentog, Kary Riddell.

Ym mis Tachwedd 2019, daeth Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press ynghyd i ffurfio Gwobr Rising Stars Cymru 2020, menter newydd ar gyfer beirdd plant o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, sy’n byw yng Nghymru. Llwyddodd y wobr hon i ddarganfod talent newydd, darparu cyfleodd, a rhoi llwyfan i dri unigolyn talentog. Mae’r beirdd yn parhau i ddatblygu fel awduron ac yn llwyddo gyda chyfleoedd pellach yn dilyn y wobr. Mae’n braf gan Llenyddiaeth Cymru weld bod Alex Wharton, Rising Star 2020, wedi derbyn cytundeb cyhoeddi gyda Firefly Press ar gyfer ei gasgliad barddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, ac mae’n wych gweld bod y dyddiad cyhoeddi, 28 Ionawr 2021, wedi ei gadarnhau.

Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press nawr yn derbyn ceisiadau ar gyfer Gwobr ‘Rising Stars’ 2021. Dyma gyfle ar gyfer awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu hymarferion creadigol. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd ymgeiswyr llwyddianus Rising Stars Cymru 2021 yn derbyn gwobr ariannol, ynghyd â sesiwn mentora gydag enillydd blaenorol y wobr yn 2020, Alex Wharton. Yn ogystal, bydd y beirdd yn derbyn cyfleoedd i ddarganfod rhagor am y diwydiant llenyddol a’r diwydiant Cyhoeddi gan arbenigwyr proffesiynol Firefly Press ynghyd â chefnogaeth a chymorth parhaus gan y tîm yn Llenyddiaeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar pwy sydd yn gymwys a sut i ymgeisio am Wobr ‘Rising Stars’ 2021 ar gael yma.

Yn ôl Joshua Seigal:

“Dyma gasgliad o gerddi hyfryd a chynnes, sydd yn hanu o ddirgelwch a rhyfeddod”

Dywedodd Matt Goodfellow:

“Mae Daydreams and Jellybeans yn datgelu byd sy’n gyfoethog o natur, lliw a chynhesrwydd. Mae’r cyfuniad o eiriau a lluniau yn creu casgliad cyntaf hyderus a sicr a fydd yn cael ei fwynhau gan oedolion yn ogystal â plant.”

Uwch-arolygwr Adeiladu yw Alexander Wharton o Dorfaen, pan nad yw’n brysur yn ysgrifennu barddoniaeth ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ei waith i’w weld yn aml yn The Caterpillar, Wales Haiku Journal, Hedgerow ac I am not a silent poet. Cyd-weithiodd â The Reading Realm yn Ionawr 2020 ble ymddangosodd pump o’I gerddi ar app addysgol ITunes. Mae’n arwain nosweithiau’r Cardiff Arts free festival yn gysonyn aml yn perffomrio ei farddoniaeth mewn ysgolion, ac yn hwyluso gweithdai ysgrifennu gyda’r myfyrwyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar www.alexwhartonpoet.co.uk @alexwhartonpoet.

Magwyd Katy Riddell yn Brighton, ac mae wedi gwirioni ar dynnu lluniau ers yn ifanc. Ers graddio â BA Hons mewn Dylunio ac Animeiddiad o Brifysgol Metropolitan Manceinion, mae wedi dylunio Pongwiffy, Midnight Feasting a The International Yeti Collective. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Brighton. Mae modd ei dilyn ar Instagram ar @katyriddell_illustration.