Dewislen
English
Cysylltwch

Galwad Agored: Gwobr Rising Stars Cymru 2021

Cyhoeddwyd Iau 8 Hyd 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Galwad Agored: Gwobr Rising Stars Cymru 2021

Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn falch iawn o gyhoeddi ein bod yn derbyn ceisiadau ar gyfer ail rownd Gwobr Rising Stars Cymru 2021, menter unigryw sy’n adnabod a datblygu beirdd plant talentog o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrif ethnig sydd wedi eu lleoli yng Nghymru, gyda’r bwriad o gyhoeddi blodeugerdd o’u gwaith.

Ym mis Tachwedd 2019, daeth Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press ynghyd i ffurfio Gwobr Rising Stars Cymru 2020, menter newydd ar gyfer beirdd plant o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig, sy’n byw yng Nghymru. Llwyddodd y wobr hon i ddarganfod talent newydd, darparu cyfleodd, a rhoi llwyfan i dri unigolyn talentog. Mae’r beirdd yn parhau i ddatblygu fel awduron ac yn llwyddo gyda chyfleoedd pellach yn dilyn y wobr. Enghraifft wych yw Alex Wharton, Rising Star 2020, a lwyddodd i gael cytundeb cyhoeddi gyda Firefly Press ar gyfer ei gasgliad barddoniaeth i blant, Daydreams and Jellybeans, sydd i’w gyhoeddi yng ngwanwyn 2021.

“Dwi’n hynod ddiolchgar o dderbyn y wobr yma, dwi’n teimlo ei fod yn gydnabyddiaeth i’m hangerdd a’m hymroddiad o ysgrifennu barddoniaeth i blant. Mae eisoes wedi agor drysau i gyfle arbennig i mi gan y bydd y bobl hyfryd yn Firefly yn cyhoeddi fy nghasgliad cyntaf Daydreams and Jellybeans y flwyddyn nesaf. Dylai cerddi gael eu rhannu, a dylai eu geiriau ganfod y rheiny sydd eu hangen – mae’r wobr wedi rhoi llwyfan ehangach i fy ngeiriau i. Mae’n gyffrous a dwi’n hynod o ddiolchgar.” Alex Wharton, enillydd Gwobr Rising Stars Cymru 2020

Roedd Gwobr Rising Stars Cymru 2020 yn rhagweld y byddai’r awduron llwyddiannus yn cael eu hystyried i gyhoeddi eu gwaith fel rhan o Flodeugerdd Rising Stars Cymru. Yn dilyn cais llwyddiannus am gefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru, bydd Firefly Press yn cyhoeddi’r Flodeugerdd yn gynnar yn 2022. Mae Llenyddiaeth Cymru a Firefly Press yn nawr yn chwilio am 5 bardd talentog arall i elwa o’r cynllun hwn.

Dyma gyfle ar gyfer awduron sydd ar gychwyn eu gyrfaoedd i ddatblygu eu hymarferion creadigol. Dros gyfnod o flwyddyn, bydd ymgeiswyr llwyddianus Rising Stars Cymru 2021 yn derbyn gwobr ariannol, ynghyd â sesiwn mentora gydag enillydd blaenorol y wobr yn 2020, Alex Wharton. Yn ogystal, bydd y beirdd yn derbyn cyfleoedd i ddarganfod rhagor am y diwydiant llenyddol a’r diwydiant Cyhoeddi gan arbenigwyr proffesiynol Firefly Press yngŷd â chefnogaeth a chymorth parhaus gan y tîm yn Llenyddiaeth Cymru.

 

Beth sydd ar gael?

Caiff hyd at 5 awdur eu dewis ar gyfer Gwobr Rising Stars Cymru 2021, a byddant yn derbyn:

  • Gwobr ariannol o £100 yr un*
  • Cyfle i ymuno gyda gweddill yr ymgeiswyr llwyddiannus mewn sesiwn mentora 2 awr o hyd gydag Alex Wharton, ennillydd Gwobr Rising Stars Cymru 2020
  • Y posibilrwydd o gael detholiad o’u gwaith wedi ei gyhoeddi fel rhan o Flodeugerdd Rising Stars Cymru
  • Gweithdy grŵp gyda’r cyhoeddwyr Firefly Press, ynglŷn â’r diwydiant cyhoeddi
  • Sesiwn hyfforddiant grŵp gyda Llenyddiaeth Cymru, yn canolbwyntio ar gyfleoedd datblygu awduron

*Gyda chefnogaeth ariannol trwy garedigrwydd Quarto Translations

“Yn union fel na all un iaith brofi holl ystod y profiad dynol, ni all un awdur gael monopoli ar y ffordd yr ydym ni’n gweld y byd. Mae straeon fel rhwyd, a po fwyaf eang y medrwn ni daflu’r rhwyd honno, po fwyaf y cysylltiadau y cawn. Dyma pam fod Quarto Translations mor falch o noddi Gwobr Rising Stars Cymru.” Robin Bennett, Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr, Quarto Translations

Pwy sy’n gymwys i ymgeisio?

Beirdd neu ddarlunwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig sy’n ysgrifennu neu’n darlunio ar gyfer plant 7-11 mlwydd oed. Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru, dros 18 mlwydd oed a heb eu cyhoeddi.

 

Sut i ymgeisio

I ymgeisio, islwythwch y pecyn gwybodaeth sydd ar gael isod. Mae’n darparu rhagor o wybodaeth a chanllawiau, yn ogystal ag egluro sut mae mynd ati i ymgeisio.

 

Y dyddiad cau

Y dyddiad cau yw 5.00 pm, dydd Mawrth 8 Rhagfyr 2020. Yn anffodus, ni fyddwn yn ystyried unrhyw geisiadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad cau.

 

Pe bai gennych unrhyw gwestiwn, neu os am drafod eich cais cyn ymgeisio, cysylltwch â Llenyddiaeth Cymru: post@llenyddiaethcymru.org

Pecyn Gwybodaeth - Gwobr Rising Stars Cymru 2021

Pecyn Gwybodaeth - Gwobr Rising Stars Cymru 2021 (Word)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 992KB
Pecyn Gwybodaeth - Gwobr Rising Stars Cymru 2021 (Pdf)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 254KB
Pecyn Gwybodaeth - Gwobr Rising Stars Cymru 2021 (Word - Print Bras)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: WordMaint: 991KB
Pecyn Gwybodaeth - Gwobr Rising Stars Cymru 2021 (Pdf - Print Bras)
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 298KB