Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau newydd beiddgar

Ceir pum nofel ac un casgliad o straeon byrion ar y rhestr fer, sy’n cynnwys pedwar llyfr cyntaf a phedair menyw:
- Alligator and Other Stories gan Dima Alzayat (Picador) – casgliad o straeon byrion (Syria/yr Unol Daleithiau)
- Kingdomtide gan Rye Curtis (HarperCollins, 4th Estate) – nofel (yr Unol Daleithiau)
- The Death of Vivek Oji gan Akwaeke Emezi (Faber) – nofel (Nigeria/yr Unol Daleithiau)
- Pew gan Catherine Lacey (Granta) – nofel (yr Unol Daleithiau)
- Luster gan Raven Leilani (Picador/Farrar, Straus and Giroux) – nofel (yr Unol Daleithiau)
- My Dark Vanessa gan Kate Elizabeth Russell (HarperCollins, 4th Estate) – nofel (yr Unol Daleithiau)
Mae rhestr fer y wobr uchel ei bri, sy’n werth £20,000, yn cynnwys dwy o’r nofelau sydd wedi denu’r sylw mwyaf ers blynyddoedd: mae Raven Leilani, un o frodorion Dinas Efrog Newydd, wedi cael ei chydnabod am ei llyfr digyfaddawd a disglair Luster, cyhoeddiad cyntaf treiddgar am ystyr bod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ar ddechrau’r mileniwm yn America; ac mae Kate Elizabeth Russell wedi cael ei dewis gan y beirniaid am ei harchwiliad ysgytiol o berthynas gamdriniol a chydsyniad rhywiol yn My Dark Vanessa, nofel i ddiffinio’r oes a ddisgrifiwyd fel “pecyn llawn dynameit” gan Stephen King.
Y ddau newydd-ddyfodiad arall sy’n cystadlu yw Rye Curtis o Decsas am Kingdomtide, ei stori llawn ing a gwytnwch sy’n cyfuno naratif gafaelgar dau gymeriad bythgofiadwy â disgrifiadau byw o natur, a Dima Alzayat, a aned yn Syria ac sy’n byw ym Manceinion. Mae ei chasgliad cyntaf o straeon byrion – Alligator and Other Stories – yn cyfleu’r ymdeimlad o fod yn rhywun ‘amgen’ yn ei chynefin: fel Syriad, fel Arabes, fel mewnfudwr ac fel menyw.
Y nofelwyr eraill sydd ar y rhestr yw un o Nofelwyr Ifanc Gorau America yn ôl y cylchgrawn Granta, Catherine Lacey, am ei thrydedd nofel, Pew, chwedl anesmwyth, afaelgar a beiddgar o graff sy’n ymwneud â dieithryn distaw a geir yn cysgu yn eglwys tref fechan yn America; a’r awdures anneuaidd o dras Igbo a Thamil Akwaeke Emezi am The Death of Vivek Oji, llyfr sydd wedi gwerthu digon o gopïau i gael ei restru gan The New York Times. Dyma nofel sy’n croesi ffiniau drwy ymdrin â rhywedd, teulu a’r hunan mewn modd dwys ond tyner.
Dewiswyd y chwe llyfr ar y rhestr fer gan banel o feirniaid a gadeiriwyd gan Namita Gokhale, y llenor arobryn, y cyhoeddwr a sylfaenydd Gŵyl Lenyddiaeth Jaipur, ochr yn ochr â sylfaenydd a chyfarwyddwr Gŵyl Lenyddiaeth Bradford, Syima Aslam, y bardd Stephen Sexton, y llenor Joshua Ferris a’r nofelydd a’r academydd Francesca Rhydderch.
Datgelir enillydd eleni mewn seremoni rithwir ar 13 Mai, ar drothwy Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas.
Meddai Namita Gokhale, cadeirydd y beirniaid: “Rydym wrth ein boddau i gyflwyno rhestr fer arbennig eleni – mae’n cynnwys gwaith ysgrifennu o’r radd flaenaf gan chwe llenor ifanc eithriadol. Hoffwn roi pob un o’r llyfrau beiddgar, dyfeisgar ac unigryw hyn yn nwylo darllenwyr, a dathlu sut maent yn herio rhagdybiaethau, yn gofyn cwestiynau newydd am y ffordd rydym yn diffinio hunaniaeth a’n perthnasoedd, a’r ffordd rydym yn byw gyda’n gilydd yn y byd hwn. Llongyfarchiadau i’r llenorion hynod dalentog hyn – maent yn feistri pur ar y grefft o adrodd stori.”