Dewislen
English
Cysylltwch

Cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020

Cyhoeddwyd Mer 9 Meh 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020

Dathlu Cymru yn rowndiau terfynol Ewro 2020 trwy gyhoeddi enillwyr Cystadleuaeth Farddoniaeth Cymru Ewro 2020.

I ddathlu fod ein tîm pêl-droed cenedlaethol wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, daeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru ynghyd i lansio Cystadleuaeth Farddoniaeth ecsgliwsif Cymru Ewro 2020 yn ôl ym mis Ebrill 2021. Roedd y gystadleuaeth yn gwahodd plant Cymru i gyflwyno cerddi ar y thema hunaniaeth, am y cyfle i ennill llu o wobrau gwych.

Daeth 495 o geisiadau i law, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi mai’r ddwy fardd buddugol yw Nansi Bennett a Martha Appleby. Cyhoeddwyd y newyddion ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru yn ystod y bore.

Roedd dau o bêl-droedwyr rhyngwladol Cymru, Ben Davies a Rhys Norrington-Davies, ar y panel beirniadu, ynghyd â Gruffudd Owen (Bardd Plant Cymru), Eloise Williams (Children’s Laureate Wales), a’r gantores-gyfansoddwr Kizzy Crawford.

Mae Nansi Bennett, enillydd y gerdd Gymraeg, yn 11 mlwydd oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gymraeg Pen Y Garth, Penarth. Meddai Nansi:

‘’Doedd y gair ‘hunaniaeth’ ddim yn gyfarwydd i mi ar y dechrau, ond cawson ni drafodaeth yn y dosbarth am y pethau oedd yn bwysig i ni fel unigolion. Yr hyn wnaeth sefyll allan i fi oedd fy iaith a fy nheulu. Rydw i’n ffrindiau gorau gyda fy mam a fy nhaid felly roedd rhaid sôn amdanyn nhw. Rydw i mor hapus i ennill a bydd y crys yn cael ei fframio ar gyfer wal y gegin! Diolch i’r beirniaid am ddewis fy ngherdd i.”

Mae Martha Appleby, enillydd y gerdd Saesneg, yn 11 mlwydd oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Pontarddulais. Wrth ymateb i’r newyddion, meddai Martha:

“Dwi wrth fy modd o fod wedi ennill. Mae’r gerdd amdana i a fy mhrofiad pêl-droed i. Pan ddechreues i chwarae pêl-droed roedd yna lawer o wrthwynebiad ar y iard ysgol ac roedd rhai o’r bechgyn yn dweud wrtha i na allwn i ymuno yn y gêm a bod angen i mi chwarae ar fy mhen fy hun. Erbyn hyn, dwi’n chwarae i dîm merched a thîm cymysg Pontarddulais, ac mae’r clwb yn mynd o nerth i nerth mewn niferoedd, yn enwedig gyda’r merched.

Dwi’n caru pêl-droed, ond mae yna rai o hyd sy’n meddwl mai camp i fechgyn ydyw ac na ddylai merched gael chwarae. Mae fy ngherdd i yn adlewyrchu fy nheimladau i, a pha mor bwysig yw hi fod merched yn cael modelau rôl gwych sydd i’w gweld a’u gwerthfawrogi am eu cyrhaeddiadau chwaraeon yn hytrach na’u rhywedd. Dwi’n gobeithio y bydd merched eraill fel fi, sy’n caru chwarae pêl-droed, yn uniaethu gyda fi a fy ngherdd. Ni yw dyfodol pêl-droed ac mae’n bwysig ein bod ni’n lleisio’n barn ac yn creu newid.”

Mae Nansi a Martha yn derbyn crys pêl-droed Cymru wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, print o’u cerdd wedi’i lofnodi gan garfan Ewro 2020 Cymru, pecyn llyfrau, a gweithdy ar gyfer eu dosbarth ysgol gan Eloise neu Gruffudd.

Dywedodd Gruffudd Owen, a gyflwynodd ei gerdd fuddugol i gystadleuaeth Y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 dan y ffugenw Hal Robson-Kanu ar ôl cael ei ysbrydoli gan berfformiadau’r chwaraewr yn rowndiau terfynol Ewro 2016 UEFA: “Pleser o’r mwyaf oedd darllen cymaint o gerddi gwych gan feirdd ifanc Cymru. Roedd yma gerddi byrion, a cherddi hirach; cerddi syml a cherddi cymhleth; a phob un yn ymdrin â’r thema Hunaniaeth yn unigryw dros ben. Llongyfarchiadau mawr i Nansi a Martha, a diolch i bob un bardd – daliwch ati i ‘sgwennu!”

Roedd y gystadleuaeth yn agored i blant cynradd, ac roedd posib cyflwyno cerddi yn Gymraeg neu Saesneg. Anogwyd y plant i fod yn wreiddiol, i ysgrifennu o’r galon, i ddehongli’r thema Hunaniaeth mewn unrhyw ffordd yr oeddynt yn dymuno, ac i gofio nad oedd rhaid i’w cerddi ymwneud â phêl-droed.

Dyma barhad o’r bartneriaeth rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llenyddiaeth Cymru a welodd y sefydliadau yn cydweithio gyda disgyblion o Ysgol Gymraeg Bro Teyrnon yng Nghasnewydd yn 2019 i gyfansoddi cerdd Gymraeg ysbrydoledig ar gyfer lansiad ymgyrch ragbrofol Ewro 2021 Merched UEFA Cymru.

Dywedodd Ben Davies, un o chwaraewyr Cymru, “Roedd bod yn rhan o’r panel beirniadu gyda Rhys Norrington-Davies yn llawer mwy anodd nag oedd y ddau ohonom ni wedi ei ddychmygu oherwydd bod cymaint o gerddi anhygoel wedi cyrraedd. Nes i joio darllen drwy’r holl gerddi gwahanol a gweld cymaint o feirdd ifanc talentog sydd yng Nghymru!”

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llenyddiaethcymru.org/ewro2020

Y cerddi buddugol

Hunaniaeth
Iaith: WelshMath o Ffeil: PDFMaint: 601KB
Identity - a poem of two halves
Iaith: EnglishMath o Ffeil: PDFMaint: 645KB