Dewislen
English
Cysylltwch

Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-25

Cyhoeddwyd Mer 6 Gor 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Hanan Issa yw Bardd Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-25
Hawlfraint llun: Camera Sioned / Llenyddiaeth Cymru 
Mae Llenyddiaeth Cymru yn hynod falch o gyhoeddi mai Hanan Issa fydd Bardd Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2022-25.  

Bydd Hanan, bardd y mae ei “dweud fel rhuban sy’n plethu ieithoedd a diwylliannau,” yn ymgymryd â rôl heriol a mawreddog Bardd Cenedlaethol Cymru am y tair blynedd nesaf, gan gynrychioli a dathlu ysgrifennu o Gymru gartref a thramor. Fel Bardd Cenedlaethol Cymru, bydd yn cynrychioli diwylliannau ac ieithoedd amrywiol Cymru ac yn gweithio fel llysgennad dros bobl Cymru. Bydd yn mynd i’r afael â materion pwysicaf ein hoes trwy farddoniaeth, yn dod â barddoniaeth i gynulleidfaoedd newydd, ac yn annog eraill i ddefnyddio eu llais creadigol i ysbrydoli newid cadarnhaol.  

Dywedodd Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip:  

Mae’n bleser mawr gennyf groesawu Hanan Issa i rôl Bardd Cenedlaethol Cymru. Bydd hi’n gweithredu fel llysgennad diwylliannol dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at glywed ei cherddi a sut y mae’n ymateb i ddigwyddiadau yn ystod ei chyfnod yn y swydd.” 

Mae Hanan yn fardd, gwneuthurwr ffilm ac artist Iraci-Gymreig y mae ei gweithiau diweddar yn cynnwys ei chasgliad barddoniaeth My Body Can House Two Hearts (Burning Eye Books, 2019) a’i chyfraniad i Welsh (Plural): Essays on the Future of Wales (Repeater Books, 2022). Cyd-sefydlodd y noson meic agored Where I’m Coming From yng Nghaerdydd ac mae hi wedi gweithio gyda’r Bush Theatre, Channel 4 a Ffilm Cymru / BBC Cymru. Roedd hi hefyd yn aelod o’r garfan gyntaf o awduron a gymerodd ran yn rhaglen Llenyddiaeth Cymru, Cynrychioli Cymru, yn 2021.  

Dywedodd Hanan Issa 

“Mae barddoniaeth yn bodoli yn esgyrn y wlad. Rwyf am i bobl adnabod Cymru fel gwlad sy’n llawn creadigrwydd: gwlad beirdd a chantorion sydd â chymaint i’w gynnig i’r celfyddydau. Hoffwn barhau â gwaith gwych fy rhagflaenwyr yn hyrwyddo Cymru, Cymreictod, a’r Gymraeg y tu allan i ffiniau’r wlad. Yn fwy na dim, rwyf am ddal diddordeb ac ysbrydoliaeth pobl fel eu bod yn gweld eu hunain mewn barddoniaeth o Gymru gan annog ymdeimlad llawer mwy agored o beth yw Cymreictod.” 

Hanan fydd y pumed bardd i ymgymryd â’r rôl hon, gan ddilyn yn ôl traed Ifor ap Glyn, Gillian Clarke, Gwyn Thomas a Gwyneth Lewis. Cafodd ei dewis yn Fardd Cenedlaethol Cymru yn dilyn galwad gyhoeddus am enwebiadau a phroses ddethol helaeth. 

Ar ran y panel dethol, dywedodd Ashok Ahir: 

“Roedd yn rhaid i’r panel ddewis rhwng ystod amrywiol o arddulliau a lleisiau barddonol ac roedd yn wych gweld y lefel uchel o dalent sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae hwn yn apwyntiad hynod gyffrous. Mae Hanan yn llais traws-gymunedol sy’n siarad gyda phob rhan o’r wlad. Bydd hi’n llysgennad gwych i genedl amrywiol ei diwylliant ac eangfrydig.” 

Dywedodd y panelydd Casia Wiliam, cyn Bardd Plant Cymru: 

“Dyma fardd sy’n ysgrifennu’n eang, ei dweud fel rhuban sy’n plethu ieithoedd a diwylliannau, yn ehangu’r meddwl ac yn hogi’r llygaid. Os nad ydach chi’n gyfarwydd â’i gwaith eisoes ewch i chwilio amdano y munud yma. Dwi methu aros i weld beth fydd Hanan yn gyflawni yn y swydd.”  

Mae Llenyddiaeth Cymru yn edrych ymlaen at weithio gyda Hanan yn ystod ei chyfnod fel Bardd Cenedlaethol Cymru 2022-25 wrth iddi ailddyfeisio’r rôl ei hun. Rydym yn gyffrous i weld sut y bydd Hanan yn adlewyrchu ac yn cyfrannu at ein sgwrs genedlaethol yn ystod ei chyfnod fel ein Bardd Cenedlaethol. 

Mae rhagor o wybodaeth am Hanan a rôl Bardd Cenedlaethol Cymru ar gael yma.