Dewislen
English
Cysylltwch

Cyfleoedd mis Gorffennaf 2020

Cyhoeddwyd Maw 7 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Cyfleoedd mis Gorffennaf 2020

Dyma restr o gyfleoedd a dyddiadau cau ar gyfer awduron a sefydliadau fel ei gilydd. Ewch ati nawr i ymgeisio am rai o’r cyfleoedd gwych hyn, a chofiwch ymuno â’n cylchlythyr a’n dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram i gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd i awduron.

 

Nid Llenyddiaeth Cymru sy’n gyfrifol am yr holl gyfleoedd a restrir isod. O dan yr amgylchiadau ansicr presennol yn sgil Coronafeirws, awgrymwn eich bod yn cysylltu’n uniongyrchol â’r trefnwyr am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Galwad Agored Cylchgrawn Gwyllion

Mae Cylchgrawn Gwyllion yn chwilio am waith creadigol. Boed i chi ysgrifennu ffantasi, space operapulp fiction, straeon dirgel neu straeon antur; ewch amdani. Maent yn chwilio am ffuglen ryfedd, straeon arswyd a straeon agerstalwm yn ogystal â ffantasi llwyr, ffuglen lenyddol a gwyddonias.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://gwyllionmagazine.com/submissions/

 

Iaith yn Esblygu

Gweithdy rhad ac am ddim ar gyfer awduron ffuglen wyddonol (“SciFi”), yn ogystal â chystadleuaeth stori fer ar thema esblygiad iaith. Seán RobertsHannah Little a Catriona Silvey sydd wedi trefnu’r prosiect.

Am fwy o fanylion, ewch I https://correlation-machine.com/iaithYnEsblygu.html neu anfonwch e-bost i Seán.

 

Hamari Kahani – 11 Gorffennaf

Gweithdai ysgrifennu am ddim i blant rhwng 7-15 oed sy’n byw yng Nghaerdydd ac o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Dyma gyfle i rannu straeon am dyfu i fyny yn y ddinas a chael cynnwys gwaith mewn antholeg sydd wedi ei ddylunio. Caiff y gweithdy ei arwain gan Hammad Rind fel rhan o Gynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a gaiff eu Tangynrychioli.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.eventbrite.com/e/hamari-kahani-tickets-109444369054?aff=ebdssbeac&fbclid=IwAR3KM4ODX-0qJKUey_0ZQ1hyzR0ZfPwdNdU46O8tE5KVtvgsx4lpz4TxZA8

 

Gwobr Farddoniaeth Ryngwladol Gŵyl Farddoniaeth Ledbury 2020 – 16 Gorffennaf

Mae’r wobr hon yn gwahodd ceisiadau o gerddi gwreiddiol sydd heb eu cyhoeddi o’r blaen mewn tri chategori – Oedolion, Pobl ifanc (12-17 oed) a Phlant (11 ac iau).

Y wobr gyntaf yw £1,000 a chwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Mae cyfle i bob un o’r enillwyr gael darllen o’u gwaith yng Ngŵyl Farddoniaeth Ledbury 2021.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: http://www.poetry-festival.co.uk/ledbury-poetry-competition/

 

Plethu/Weave: Cywaith Barddoniaeth a Dawns – 17 Gorffennaf

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn gweithio ar y cyd i gomisiynu cynnwys byr newydd sy’n uno dawns a barddoniaeth o bob cwr o Gymru.

Mae’r prosiect eisoes yn mynd rhagddo gyda dawnswyr Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru; ac mae’r Cwmni nawr yn galw am fynegiannau o ddiddordeb gan ddau artist dawns annibynnol i weithio mewn cydweithrediad â bardd i greu ffilm hyd at 90 eiliad o hyd yn seiliedig ar y thema ‘harmoni’. Bydd y gerdd yn cael ei hysgrifennu ar fesur Cynghanedd, mewn unrhyw iaith sy’n berthnasol i Gymru, a bydd y ddawns yn cynnwys unawd sy’n cyfateb i’r gerdd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://ndcwales.co.uk/cy/cywaith-barddoniaeth-dawns

 

10 Stori i Wneud Gwahaniaeth – 30 Gorffennaf 2020

Mae Prosiectau Pop-Up yn comisiynu a chyhoeddi Deg Stori i Wneud Gwahaniaeth, sef 10 stori fer wreiddiol ar gyfer darllenwyr ifainc, gan ddeg awdur a deg darlunydd. Bydd 5 dylunydd adnabyddus yn dylunio llun yn seiliedig ar straeon gan 5 o egin awduron, a bydd 5 egin ddarlunwyr yn dylunio llun yn seiliedig ar straeon gan awduron adnabyddus.

https://pop-up.org.uk/uncategorized/competition-10-stories-to-make-a-difference/

 

Rhaglen Gyrsiau Digidol Tŷ Newydd – Gorffennaf ymlaen

Gobeithiwn yn wir y gallwn ail agor drysau Tŷ Newydd yn fuan, ond yn y cyfamser, mae’n hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd i awduron feithrin a datblygu eu sgiliau yn parhau. Dyma gyflwyno rhaglen o gyrsiau blasu a chyrsiau wythnos o hyd – oll trwy gyfryngau digidol.

Ewch draw i’n gwefan i bori drwy’r holl gyrsiau ac i archebu eich lle: https://www.tynewydd.cymru/blog/cyhoeddi-rhaglen-gyrsiau-digidol-ty-newydd-2020/

 

Gwobr RSL Giles St Aubyn Awards for Non-Fiction 2020 – 31 Gorffennaf

Mae’r wobr uchod bellach ar agor ac yn derbyn ceisiadau. Mae’n agored i awduron sy’n byw yn y Deyrnas Unedig neu yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae tair gwobr ar gael, gwerth £10,000, gwerth £5,000 a gwerth £2,500 – er mwyn darparu cefngoaeth ariannol i awduron newydd allu mynd ati i gwblhau eu cyfrolau cyntaf o waith ffeithiol-greadigol, yn ogystal â phrynu amser ysgrifennu gwerthfawr iddynt.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://rsliterature.org/award/rsl-giles-st-aubyn-awards-for-non-fiction/

 

Gwobr The Highland Book Prize – 19 Awst  

Mae’r Highland Book Prize, a sefydlwyd yn 2017, yn dathlu’r goreuon o blith gweithiau cyhoeddeig sy’n cydnabod talent, tirwedd ac amrywiaeth ddiwyllianol anhygoel Ucheldir yr Alban. Gall unrhyw gyhoeddwyr o’r Deyrnas Unedig gyflwyno gweithiau, ac mae modd lawrlwytho pecyn ymgeisio drwy’r wefan.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  http://www.highlandbookprize.org.uk/apply/

 

Gwobr Wales Poetry Award 2020 – 27 Tachwedd

Wedi 55 mlynedd o gyhoeddi barddoniaeth gyfoes, a hynny mewn 212 rhifyn (hyd yn hyn) o’u cylchgrawn, mae Poetry Wales yn cynnal y Wales Poetry Award am yr ail flwyddyn yn olynol. Cystadleuaeth genedlaethol i ddarganfod y goreuon o blith barddoniaeth gyfoes ryngwladol. Mae’r Wales Poetry Award yn derbyn cerddi unigol gan feirdd profiadol a beirdd newydd o Gymru a thu hwnt. Mae 3 gwobr, a 10 gwobr gamoliaeth uchel ar gael.

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://poetrywales.co.uk/award/

Literature Wales