Dewislen
English
Cysylltwch

Lansio cynllun newydd i ddatblygu cyw-gynganeddwyr

Cyhoeddwyd Iau 16 Tach 2023 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Lansio cynllun newydd i ddatblygu cyw-gynganeddwyr
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi cynllun newydd i feirdd Cymraeg sydd am ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr. Mae Pencerdd yn gynllun ar y cyd gan Llenyddiaeth Cymru a Barddas, ac mae’r ddau sefydliad yn gwahodd beirdd eiddgar i anfon eu ceisiadau nawr.
Dyddiad Cau: 1.00pm, Dydd Mercher 3 Ionawr 2024

Nod cynllun Pencerdd yw rhoi hwb i feirdd newydd y Gerdd Dafod gan feithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.

Mae’n raglen beilot rhad ac am ddim blwyddyn o hyd, sydd yn rhoi cyfle i bum bardd sy’n gynganeddwyr newydd neu lled-newydd i ddechrau dysgu’r grefft o ddifri. Byddant yn mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd yn mis Mawrth 2024  dan arweiniad Rhys Iorwerth a Manon Awst, cyn cael eu paru gydag athro barddol am flwyddyn i dderbyn sesiynau mentora un-i-un. Bydd y garfan hefyd yn derbyn cyfres o weithdai digidol dros flwyddyn y cynllun, yn ogystal â bod yn rhan o rwydwaith gefnogol fydd yn rhannu gwybodaeth am eisteddfodau lleol a chyfleoedd eraill perthnasol.

Yn gyfnewid am fod ar y cynllun, bydd Llenyddiaeth Cymru yn gofyn i’r beirdd rannu eu dysg o fewn eu cymuned eu hunain ar ddiwedd y cyfnod, boed yn gymuned ddaearyddol mewn pentref neu dref neu’n gymuned rithiol o eneidiau hoff gytûn. Mae rhwydd hynt i’r beirdd gynnig eu syniadau eu hunain, neu gall Barddas a Llenyddiaeth Cymru roi rhai syniadau iddynt. Enghreifftiau posib fyddai cynnal gweithdy yn eu clwb ffermwyr ifanc lleol, neu stondin benillion mewn gŵyl Pride, trefnu talwrn neu gyhoeddi erthygl neu flog i ysbrydoli beirdd eraill.

Bydd yr alwad am Ddisgyblion cyntaf Pencerdd yn agor ar 16 Tachwedd 2023 ac yn cau ar 3 Ionawr 2024. Mae’r cynllun yn agored i unrhyw fardd dros 18 oed sy’n newydd neu lled-newydd i’r grefft o gynganeddu. Gallwch ddysgu mwy am y cynllun ar dudalen Pencerdd ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

Mae cynllun Pencerdd yn cael ei gyhoeddi ar 500 mlwyddiant Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1523, ble aethpwyd ati i bennu rheolau Cerdd Dafod. Bydd Cymdeithas Barddas yn cynnal Gŵyl Gerallt eleni yng Nghaerwys i nodi’r achlysur arbennig ar benwythnos 24 Tachwedd. Mae’r delyn ar logo Pencerdd yn cofio telyn fach arian Eisteddfod Caerwys a pharhad ein traddodiad barddol arbennig. Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o bartneru gyda Chymdeithas Cerdd Dafod, Barddas ar y cynllun newydd cyffrous hwn.

Dywedodd Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru:

“Mae gwaith anhygoel eisoes yn digwydd ar lawr gwlad i gynnal dosbarthiadau cynganeddu mewn tafarndai a neuaddau pentref. Rydym yn edrych ymlaen i gydweithio â’r arbenigwyr draw yn Barddas i ychwanegu cyfle arall i unigolion fentro i fyd unigryw y gynghanedd. Bydd pwyslais yn cael ei roi ar ddatblygu lleisiau newydd, cynnig cefnogaeth hir-dymor, a chreu cymuned newydd o gynganeddwyr brwd i annog ei gilydd ac i gymryd rhan yn niwylliant barddol Cymru.” 

Meddai Aneirin Karadog o Gymdeithas Barddas:

Mae cynllun Pencerdd yn gyfle unigryw i do o feirdd ddatblygu eu crefft ym maes y gynghanedd gyda meistri’r Canu Caeth. Mae hyn yn ychwanegiad pwysig wrth i ni geisio sicrhau bod cerdd dafod nid yn unig yn parhau at y dyfodol ond hefyd yn cael ei thrin gan feirdd cywrain eu crefft sydd â meistrolaeth lwyr ohoni. Mae hefyd yn gyfle i wneud byd y canu caeth yn fwy cynhwysol ac mae’n fraint i Barddas gael bod yn cyd-weithio gyda Llenyddiaeth Cymru ar hyn.”

Y gobaith yw y byddcynllun Pencerdd yn cael ei gynnal yn flynyddol, felly os ydych chi ar dân eisiau dysgu cynganeddu, ond heb ddim clem eto, fe allech chi ymuno â gwersi lleol, neu ar-lein gan wybod y bydd modd ymgeisio unwaith eto yn 2024. Cofiwch bod cyfres o wyth o wersi cynganeddu rhad ac am ddim i ddechreuwyr gan Aneirin Karadog i’w cael ar wefan Llenyddiaeth Cymru fel man cychwyn i’ch ysbrydoli!