Dewislen
English
Cysylltwch

Llên mewn Lle | Lit in Place: Archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth

Cyhoeddwyd Maw 18 Hyd 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llên mewn Lle | Lit in Place: Archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi tri phrosiect peilot llenyddol newydd, mewn partneriaeth â WWF Cymru.

Mae ein llenyddiaeth yma yng Nghymru wedi ei wreiddio’n ddwfn yn y tirwedd, ac rydyn ni’n credu yn gryf mewn grym creadigrwydd i addysgu, archwilio, a herio pynciau mawr fel yr argyfwng hinsawdd a natur. Ym mis Awst 2022, fe wnaethom wahodd amrywiaeth o artistiaid i ddychymygu a datblygu syniadau am brosiectau ysgrifennu creadigol sy’n archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur gyda chymuned o’u dewis. Mae tri o’r prosiectau wedi eu dewis i dderbyn nawdd i gael eu gwireddu gan Llenyddiaeth Cymru a WWF trwy Llên mewn Lle. Nod y prosiectau hyn yw datblygu cymunedau gwydn drwy archwilio a deall eu eco-systemau lleol. Bydd y prosiectau hefyd yn cyfrannu at drafodaethau ehangach ar ddod o hyd i atebion ymarferol i wrthsefyll effeithiau andwyol yr argyfwng hinsawdd a natur.

Y Prosiectau

Ffrwyth ein Tân:

Bydd yr artist Siôn Tomos Owen yn gweithio gyda’r grŵp sy’n mynychu sesiynau Therapi Coedwigol Croeso i’r Goedwig yn Nhreherbert i greu dyddiadur gair-a-llun sy’n dogfennu’r modd y mae’r grŵp yn cysylltu â natur. Mae Therapi Coedwigol yn cynnig cyfle i gyfranogwyr fynd i’r afael â materion yn ymwneud â llesiant ac iechyd meddwl trwy weithgareddau amrywiol mewn natur, a hynny bob wythnos.

Bydd Siôn yn cynnal sesiynau adrodd stori, ysgrifennu creadigol a darlunio rheolaidd, gan weithio tuag at greu’r dyddiadur gweledol hwn a fydd yn archwilio’r effeithiau positif y gall yr amgylchedd ei gael ar iechyd meddwl. Bydd yn cefnogi’r grŵp i gyfleu eu syniadau yn ogystal â mynegi pethau sydd, efallai, wedi eu hanwybyddu yn y gorffennol.

The LUMIN Syllabus:

Nod y LUMIN Syllabus, sy’n cael ei redeg gan Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, ac mewn partneriaeth â Ways of Working, yw archwilio’r cysylltiadau rhwng yr argyfwng hinsawdd a natur a gwladychiaeth. Bydd y LUMIN Syllabus yn cefnogi pobl o liw a’r rheini o gefndir incwm isel yn ardal Abertawe i greu a chyhoeddi ymatebion i’r argyfwng hinsawdd a natur o’r gorffennol, y presennol, a’r dyfodol. Bydd gweithdai yn cael eu cynnal mewn gerddi cymunedol, caffis, ac orielau lleol. Bydd y cyfranogwyr yn cael eu grymuso i ffurfio atebion ar lefel leol.

Gwledda:

Bydd yr awdur a gweithiwr creadigol Iola Ynyr yn cynnal cyfres o weithdai dan y teitl Gwledda. Gan weithio gyda chymuned ehangach Ysgol Rhosgadfan yng Ngwynedd, nod y prosiect yw i gynnig maeth i gyfranogwyr trwy weithgareddau ysgrifennu creadigol a meithrin sgiliau garddio a thyfu. Byddant yn cwrdd ar dir Ysgol Rhosgadfan, yn y cwt, yr ardd lysiau, y berllan a’r ardd wyllt sydd y tu hwnt i’r adeilad ei hun, gan dynnu ysbrydoliaeth o’r newidiadau yn y byd naturiol.

Gyda’i gilydd, byddant yn gweithio tuag at greu pamffled o waith ysgrifenedig dienw, a phenllanw Gwledda fydd gwledd yn neuadd yr ysgol lle ceir darlleniadau o’r gweithiau, a phryd o fwyd yn defnyddio cynnyrch o’r tir.

Nod Gwledda yw cynyddu hunan-werth cyfranogwyr, adeiladu eu hyder i gymryd risgiau creadigol, a hyrwyddo llesiant sydd wedi gwreiddio yn y tir.

Cefnogir y prosiect hwn gan GwyrddNi, Ysgol Rhosgadfan ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.

I ddarllen mwy am y prosiectau uchod, a’r hwyluswyr, ewch i dudalen brosiect Llên mewn Lle.