Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn apwyntio dwy Brif Weithredwr newydd

Cyhoeddwyd Llu 5 Medi 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn apwyntio dwy Brif Weithredwr newydd

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi apwyntiad Leusa Llewelyn a Claire Furlong yn gyd-Brif Weithredwyr i’r sefydliad.

Yn dilyn proses recriwtio allanol, penodwyd Claire Furlong yn Gyfarwyddwr Gweithredol a Leusa Llewelyn yn Gyfarwyddwr Artistig. Bydd y ddwy yn canolbwyntio ar elfennau gwahanol o waith strategol Llenyddiaeth Cymru tra’n cydweithio’n agos i sicrhau gweledigaeth gyfannol y cwmni sydd yn grymuso, yn gwella ac yn cyfoethogi bywydau drwy lenyddiaeth.

Byddant yn dechrau ar y gwaith yn swyddogol 1 Medi 2022, gan arwain y tîm cyfan a chydweithio â’r sector a phartneriaid allweddol i wireddu Cynllun Strategol 2022-25 Llenyddiaeth Cymru.

Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth a sefydlwyd yn 2011 o dan arweiniad Lleucu Siencyn. Mae Llenyddiaeth Cymru yn elusen gofrestredig, a caiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Cathryn Charnell-White, Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru: “Mae penodi Leusa a Claire i lywio Llenyddiaeth Cymru yn ddatblygiad artistig, gweinyddol, a democrataidd blaengar i’r cwmni. Mae ganddynt ymrwymiad dwfn i’r egwyddorion a ymgorfforir yn ein Cynllun Strategol cyfredol, a syniadau ffres a fydd yn sicrhau bod grym llenyddiaeth yn parhau i ysbrydoli awduron a chymunedau ar draws Cymru. Ar ran y Bwrdd, dyma eu llongyfarch yn wresog a dymuno’n dda iddynt wrth iddynt ddechrau ar y gwaith.”

 

Dywedodd Phil George, Cadeirydd, Cyngor Celfyddydau Cymru: “Rwyf wrth fy modd fod Leusa a Claire wedi eu hapwyntio yn gyd-Brif Weithredwyr i Llenyddiaeth Cymru. Maent yn dod â gwledd o brofiad gyda nhw i’r rolau hyn, a hynny o’r sector llenyddiaeth a thu hwnt. Yn bwysicaf oll, maent yn llawn brwdfrydedd am waith cyfoethog, heriol ac amrywiol awduron Cymru, a chanddynt ysfa gref i ddatblygu lleisiau newydd. Mae’r ddwy yn rhannu cred Cyngor Celfyddydau Cymru fod angen i’r celfyddydau fod yn ganolog i fywyd a llesiant y genedl; yn rhywbeth byw y gall cymunedau ledled y wlad ei fwynhau. Rwy’n gwybod y byddant yn egnïol a medrus yn y modd y byddant yn adeiladu ar etifeddiaeth arbennig eu rhagflaenydd, Lleucu Siencyn. Llongyfarchiadau mawr i chi’ch dwy.”

Daw Leusa yn wreiddiol o Lanuwchllyn ac mae wedi ymgartrefu bellach yng Nghwm-y-glo. Derbyniodd radd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth, a gradd ymchwil MPhil o’r un brifysgol am astudiaeth o lyfrau taith yn y Gymraeg. Symudodd i Gaerdydd yn 2011 er mwyn ymuno â Llenyddiaeth Cymru fel Swyddog Plant a Phobl Ifainc, a hynny ar ddiwrnod cyntaf y sefydliad. Dychwelodd i’r gogledd yn 2015 fel Pennaeth Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Llenyddiaeth Cymru, Tŷ Newydd. Mae Leusa yn un o Ymddiriedolwyr Theatr Clwyd, ac yn ei hamser rhydd, mae’n cadw gwenyn ac ym mwynhau cerdded mynyddoedd Eryri.

Dywedodd Leusa Llewelyn: “Mae cael camu i rôl Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru yn fraint aruthrol i mi, a hynny dros ddegawd wedi i mi ymuno â’r sefydliad fel cyw-swyddog yn syth o’r brifysgol. Llenyddiaeth yw fy myd, ac mae’n teimlo fel yr anrhydedd mwyaf un i gael y cyfle i arwain y sefydliad llenyddol cenedlaethol sy’n bodoli i ddatblygu mwy o awduron sy’n cynrychioli’r hyn sy’n gwneud Cymru yn wych ac yn unigryw, i arddel ein traddodiad llenyddol, ac i ddefnyddio grym iachaol ysgrifennu creadigol i gyfrannu at lesiant ein cymunedau.

Fe fydd yn bleser llwyr cael rhannu’r swydd â Claire. Rwy’n edmygu ei chraffter a’i meddwl miniog, ac edrychaf ymlaen at gael cydweithio i flaenoriaethu’r llu o syniadau sydd gennym a’u rhoi ar waith yn brosiectau twt, trawsnewidiol. Rydym ni ein dwy yn edrych ymlaen yn arw i gychwyn ar yr her.”

Ymunodd Claire â thîm Llenyddiaeth Cymru yn 2021 fel Dirprwy Brif Weithredwr, ar ôl 15 mlynedd yn y diwydiant cerddoriaeth yn Lloegr lle bu’n datblygu llwybrau addysg a chynlluniau datblygu talent yn y byd jazz. Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd a daw â llawer o brofiad o’r tu allan i’r byd llenyddiaeth i’r tîm. Mae hi’n byw ym Mrechfa yn Sir Gaerfyrddin ac yn ddysgwr Cymraeg brwd. Yn ei hamser sbâr bydd hi fel arfer i’w gweld yn beicio yn ei choedwig leol, neu wedi ymgolli mewn llyfr.

Meddai Claire Furlong: “Mae’n fraint i mi gymryd y llyw fel Cyfarwyddwr Gweithredol, ac rwyf wrth fy modd yn cael gwneud hynny wrth ochr Leusa Llewelyn, rhywun y mae gen i barch aruthrol ati am ei hangerdd ddigymar a’i dealltwriaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Chymreig.

Ers i mi ymuno â thîm arbennig Llenyddiaeth Cymru, mae’r awduron gwych sydd yma yng Nghymru wedi gwneud cryn argraff arnaf, ynghyd â’r gwahanol brofiadau o Gymreictod y maent yn eu cynrychioli. Rwy’n llawn cyffro wrth fynd ati i helpu datblygu a rhoi llwyfan i’r talentau arbennig hyn – yng Nghymru a thu hwnt.

Gyda’n gilydd, mae gan Leusa a minnau weledigaeth fentrus o sin lenyddol ffyniannus yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill ar draws y sector i wireddu’n darlun o Gymru lle mae llenyddiaeth yn grymuso, gwella ac yn cyfoethogi bywydau.”