Dewislen
English
Cysylltwch

Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Megan Angharad Hunter yw Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda’i nofel tu ôl i’r awyr

Cyhoeddwyd Mer 4 Awst 2021 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llenyddiaeth Cymru yn cyhoeddi mai Megan Angharad Hunter yw Prif Enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda’i nofel tu ôl i’r awyr
Heno fe gyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Megan Angharad Hunter yw prif enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, gyda’i nofel tu ôl i’r awyr (Y Lolfa), ac mai Hazel Walford Davies yw enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 gyda’i chyfrol  O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer).

Cyhoeddwyd y newyddion ar BBC Radio Cymru mewn darllediad arbennig o raglen Stiwdio ar nos Fercher 4 Awst. Yn cadw cwmni i’r gyflwynwraig Nia Roberts roedd Golygydd Golwg, Garmon Ceiro, cynrychiolydd o Llenyddiaeth Cymru a’r enillwyr eu hunain.

Fe gyhoeddwyd bod nofel Megan Angharad Hunter wedi dod i’r brig yn y categori ffuglen ar ddydd Llun 2 Awst, cyn mynd ymlaen i gipio’r teitl Llyfr y Flwyddyn 2021. Ar yr un rhaglen, cyhoeddwyd mai O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards gan Hazel Walford Davies (Gwasg Gomer) sydd yn cipio Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni, yn dilyn pleidlais agored gan ddarllenwyr Cymru.

Nofel ddoniol a thorcalonnus sy’n cynnig cipolwg ysgytwol ar fywyd oedolion ifanc na welwyd ei thebyg mewn print yn y Gymraeg o’r blaen yw tu ôl i’r awyr. Mae Anest a Deian yn y Chweched Dosbarth a phan maen nhw’n cwrdd, mae byd y ddau yn newid am byth. Dyma nofel sydd wedi ei disgrifio gan Manon Steffan Ros, cyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn ei hun, fel “y nofel orau, fwyaf pwerus i mi ei darllen ers blynyddoedd. Mae’n ysgytwol.”

Daw Megan Angharad Hunter o Ddyffryn Nantlle ac mae’n astudio Cymraeg ac Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith wedi cael ei gyhoeddi yn Y Stamp ac O’r Pedwar Gwynt, ac yn 2020 enillodd Ysgoloriaeth Awdur Newydd Llenyddiaeth Cymru. tu ôl i’r awyr yw ei nofel gyntaf.

Mae Megan yn derbyn cyfanswm o £4,000 mewn gwobr ariannol, yn ogystal â thlws wedi ei ddylunio a’i greu yn arbennig gan yr artist Angharad Pearce Jones.

Dyma’r cofiant llawn cyntaf i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Ynddo ceir portread tra gwahanol o O.M. i’r fytholeg gyfarwydd a grëwyd wedi ei farwolaeth, a gwelir ef yma yn ieuenctid ei ddydd ac yn anterth ei nerth. Rhoddir sylw dyledus i’w yrfa ac i’w fenter fawr i drawsnewid diwylliant, llenyddiaeth ac addysg Cymru. Cyflwynir yn ogystal y dyn preifat a gaethiwyd gan rym ei obsesiynau a chymhlethdodau ei gymeriad, ac a brofodd ergydion chwerw fel priod a thad. Clywir llais O.M. drwy’r gyfrol, yn ogystal â lleisiau ei wraig, ei deulu a’i ffrindiau. Mae’r cofiant pwysig hwn yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddo wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl. Fe’i cyhoeddwyd ar ganmlwyddiant marwolaeth Syr O.M. Edwards yn 2020.

Magwyd Hazel Walford Davies yng Nghwm Gwendraeth ac addysgwyd hi ym Mhrifysgolion Caerdydd a Rhydychen.  Bu’n Uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn Athro ym Mhrifysgol De Cymru, a threuliodd gyfnodau fel Athro Ymweliadol mewn nifer o brifysgolion yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Hazel yn derbyn darlun arbennig gan Alys Shutt o Nelson, Caerffili, sydd yn fyfyriwr darlunio yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn rhodd gan Golwg360, noddwyr Gwobr Barn y Bobl eleni.

Caiff y Gwobrau eu beirniadu gan banel annibynnol a benodir yn flynyddol. Yn beirniadu’r llyfrau Cymraeg eleni mae’r bardd a’r awdur Guto Dafydd; yr awdur, cyflwynydd a chyn-Bardd Plant Cymru, Anni Llŷn; yr awdur, academydd a’r darlithydd Tomos Owen; a’r comedïwr a’r awdur, Esyllt Sears.

Ar ran y panel beirniadu, meddai Anni Llŷn:

“Roedd hi wir yn fraint cael darllen cynnyrch y casgliad arbennig yma o awduron. Mae’r rhestrau byr yn ddathliad o’r meddyliau craff, treiddgar a chreadigol sydd ganddynt. Mae gan pob un o’r rhain rhywbeth o werth i’w ddweud ac maent yn gyfrolau y byddwn yn annog pawb i’w darllen. Cefais daith emosiynol yn eu cwmni, o’r torcalonnus i ryfeddu a chwerthin. Cefais fy herio a fy swyno. Cawsom drafodaethau hynod ddiddorol a bywiog wrth feirniadu. Doedd hi ddim yn hawdd dewis o blith cyhoeddiadau gwirioneddol wych ddaeth i fodolaeth yn 2020. Ond dylem i gyd ymfalchïo yng nghampau aruthrol yr awduron hyn. Llongyfarchiadau mawr iddynt.”

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Ar ran Llenyddiaeth Cymru, hoffwn longyfarch holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021, a diolch i chi am ysbrydoli ein darllenwyr yn ystod blwyddyn ble mae grym llenyddiaeth wedi bod yn bwysicach nag erioed. Argymhellaf yn fawr ymweliad â’ch siop lyfrau neu lyfrgell lleol, er mwyn darllen y llyfrau gwych yma gan ein hawduron talentog o Gymru.”

 

Enillwyr y Categorïau

Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu llyfrau mewn pedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dros yr wythnos ddiwethaf mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi deuddeg enillydd a dosbarthu cyfanswm o £14,000 i’r awduron llwyddiannus, a hynny mewn cyfres o ddarllediadau ar BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw Marged Tudur gyda’i chyfrol gyntaf Mynd (Gwasg Carreg Gwalch). Cyfrol i Dafydd Tudur, brawd Marged, yw Mynd. Mae yma golled a galar, ond cariad, yn fwy na dim byd arall, sy’n llinyn arian drwy’r cerddi hyn.

Y llyfr a ddaeth i’r brig yn y categori Plant a Phobl Ifanc yw #helynt (Gwasg Carreg Gwalch) gan Rebecca Roberts. Nofel i bobl ifanc sydd yma, ble penderfyna Rachel fynd ar antur yn nhre’r Rhyl yn hytrach na mynd adref. Yno, mae hi’n cyfarfod â Shane, dyn golygus, llawn dirgelwch sy’n gwybod rhywbeth am ei gorffennol, a Rachel yn awchu i gael y gwirionedd ganddo.

Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol yw Hazel Walford Davies gyda’i chyfrol O.M.: Cofiant Syr Owen Morgan Edwards (Gwasg Gomer). Dyma gofiant pwysig i ŵr a ddaeth, yn ystod ei oes ei hun, yn eilun ei genedl. Mae’r gyfrol hon yn ffrwyth ymchwil drwyadl, a cheir ynddi wybodaeth gwbl newydd a darganfyddiadau annisgwyl.

Roedd y categori Plant a Phobl Ifanc yn newydd y llynedd, gyda’r nod o annog cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr ac awduron creadigol; i godi proffil Cymru a’i hawduron talentog; ac i atgyfnerthu’r neges bod llenyddiaeth ar gyfer plant o’r un safon â bri ag unrhyw lenyddiaeth ar gyfer oedolion hefyd.

Enillwyr y Gwobrau Saesneg

Cyhoeddwyd enillwyr y Gwobrau Saesneg nos Wener ddiwethaf, 30 Gorffennaf, ar raglen The Arts Show BBC Radio Wales.

Catrin Kean enillodd y brif wobr, gyda’i nofel gyntaf Salt (Gwasg Gomer). Hi hefyd enillodd Wobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies. Fiona Sampson oedd enillydd y Wobr Farddoniaeth eleni gyda’i chasgliad Come Down (Corsair Poetry). Victoria Owens enillodd y Wobr Ffeithiol Greadigol gyda Lady Charlotte Guest: The Exeptional Life of a Female Industrialist (Pen & Sword). Patience Agbabi oedd enillydd y Wobr Plant a Phobl Ifanc gyda The Infinite (Canongate Books).

Enillydd y Wales Arts Review People’s Choice Award yw Salt gan Catrin Kean (Gwasg Gomer). Bydd Catrin yn derbyn dysgl addurniadol wedi ei chreu gan y gof Alan Perry, yn rhodd gan noddwyr y wobr, y Wales Arts Review.

Meddai Dawn Bowden AoS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:

“Mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi dod yn gyfle blynyddol pwysig i arddangos awduron Cymru ar lwyfan byd-eang. Mae’r detholiad o lenyddiaeth a gynigir ymhlith rhestr fer 2021, ac yn enwedig ymhlith yr enillwyr, yn rhagorol, ac yn adlewyrchu gwir gyfoeth diwylliant llenyddol Cymru ar ei orau.  Gobeithiaf y bydd darllenwyr yng Nghymru a thu hwnt yn parhau i fwynhau’r gweithiau eithriadol hyn, a dymunaf longyfarch yr holl awduron buddugol, ynghyd a’u cyhoeddwyr.”

Beirniaid y gwobrau Saesneg eleni oedd y bardd, awdur a dawnsiwr Tishani Doshi; yr athro cynradd, adolygwr a’r dylanwadwr Scott Evans; y Paralympiwr, yr aelod o Dŷ’r Arglwyddi, siaradwr ysgogol a’r darlledwr Tanni Grey-Thompson; a’r academydd, awdur ac actifydd, a chyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2003), Charlotte Williams.

Meddai Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Llongyfarchiadau gwresog i holl enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni. Rydym oll yn ymwybodol o’r effaith anferthol y mae’r pandemig wedi ei gael ar fywydau pobl ifanc a rwy’n falch tu hwnt o weld cymaint o awduron ifanc ar y rhestrau byrion – yn ogystal â’r modd y mae profiadau pobl ifanc yn ymddangos mewn ffuglen a barddoniaeth gan awduron a beirdd o bob oedran a phob cyfnod yn eu gyrfaoedd. Ac unwaith eto, mewn gweithiau ffuglen a ffeithiol-greadigol, rydym yn cael ein herio gan safbwyntiau newydd ar hanes cyfnod cythryblus a chyffrous y 19eg ganrif yng Nghymru. Ynghyd â chyfresi teledu, llyfrau sydd wedi ein cynnal a rhoi sylfaen i’n bywydau yn ystod y cyfnod dryslyd diweddar, wedi ein cadw wedi ein gwreiddio, ac yn effro i bosibiliadau newydd yn ystod cyfnod mor ansefydlog. Da chi, ewch ati i brynu rhai o’r gweithiau rhyfeddol hyn.”