Llyfr y Flwyddyn 2025 – Agor i geisiadau
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno: Dydd Llun 25 Tachwedd 2024
* Os nad oes modd cyflwyno llyfr erbyn y dyddiad cau, cysylltwch â ni i drafod cyn 25 Tachwedd 2024.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol a gynhelir yn flynyddol i ddathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae deuddeg gwobr, gyda chyfanswm o £14,000 ar gael i’r awduron llwyddiannus. Yn y ddwy iaith mae pedwar enillydd categori, un enillydd Barn y Bobl ac un prif enillydd.
Mae Llyfr y Flwyddyn wedi cael ei drefnu gan Llenyddiaeth Cymru ers 2004, ac yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron mwyaf adnabyddus Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Mae’r Wobr yn rhan annatod o’n gweithgaredd, ac yn cyfrannu tuag at ein strategaeth o ddathlu a chynrychioli diwylliant, awduron a threftadaeth lenyddol Cymru. Mae’r wobr yn rhoi llwyfan allweddol i awduron sy’n cyhoeddi cyfrolau am y tro cyntaf, yn ogystal â chydnabod rhai o awduron amlycaf Cymru.
Caiff y llyfrau eu gwobrwyo ar draws pedair categori – Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, gyda’r rhestr fer ac yna’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn nhymor yr haf yn 2025. Byddwn yn cyhoeddi lleoliad a threfniadau seremoni byw 2025 yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Mae ceisiadau nawr ar agor ar gyfer gwobr 2025. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r Meini Prawf Cymhwysedd isod a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2024. Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi hyd at 31 Rhagfyr 2024 yn gymwys ar gyfer Gwobr 2025. Os nad oes modd cyflwyno’r llyfr erbyn y dyddiad cau, sicrhewch eich bod yn cysylltu gyda ni am sgwrs.
Er mwyn lleihau effaith amgylcheddol y wobr, rydym yn gofyn i gyhoeddwyr am un copi caled yn y lle cyntaf ynghyd â chopïau PDF neu eLyfr o bob cyfrol a gyflwynir. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am hyd at 6 copi caled ychwanegol o’r llyfr i gynorthwyo’r broses feirniadu neu i farchnata’r wobr.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y Pecyn Ymgeisio, gan gynnwys disgrifiadau categori, cymhwyster awdur a thelerau ac amodau – sicrhewch eich bod yn cael golwg manwl ar rhain cyn cyflwyno llyfr. Os ydych yn ansicr a yw llyfr yn gymwys ai peidio, cysylltwch â thîm y gwobrau ar LLYF-WBOTY@llenyddiaethcymru.org
Yn 2024, cipiodd Mari George deitl Llyfr y Flwyddyn 2024 gyda’i nofel Sut i ddofi Corryn (Sebra), a Tom Bullough oedd y prif enillydd Saesneg, yn derbyn y teitl am ei lyfr Sarn Helen (Granta Publications).
Cewch ragor o wybodaeth am enillwyr y gorffennol ac am y llyfrau sydd wedi cyrraedd y rhestrau byrion ar hyd y blynyddoedd yma: Archif Llyfr y Flwyddyn.
Mae’r holl wybodaeth angenrheidiol ynglŷn â chyflwyno cyfrolau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2025, gan gynnwys y Meini Prawf Cymhwysedd, Telerau ac Amodau a’r Ffurflen Gais ar gael yma.