Gwobr Llyfr y Flwyddyn – Y Broses Gyflwyno
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gyhoeddi bod cyfnod derbyn llyfrau ar gyfer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2024 nawr ar agor. Gwahoddir cyhoeddwyr ac awduron hunan-gyhoeddedig i wirio’r Meini Prawf Cymhwysedd isod a chyflwyno unrhyw lyfrau cymwys a gyhoeddwyd yn ystod 2023.
Dyddiad Cau Cyflwyno: 20 Tachwedd 2023*
*Mae llyfrau sydd wedi eu cyhoeddi hyd at 31 Rhagfyr 2023 yn gymwys ar gyfer Gwobr 2024. Os nad oes modd cyflwyno’r llyfr erbyn y dyddiad cau, sicrhewch eich bod yn cysylltu gyda ni.
Gallwn ddarparu copîau print bras a/neu dyslecsia gyfeillgar o’r dogfennau isod. Cysylltwch â ni ar post@llenyddiaethcymru.org a gallwn eu rhannu â chi.

