Dewislen
English
Cysylltwch

Llythyr Agored gan Fardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales

Cyhoeddwyd Llu 26 Ion 2026 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Llythyr Agored gan Fardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales

Ar ddydd Llun 26 Ionawr, cyhoeddodd Nicola Davies, Children’s Laureate Wales, a Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru, lythyr agored yn cymell y Llywodraeth bresennol a’r Llywodraeth sydd i ddod i gymryd camau sy’n ymateb i’r cwymp dramatig yn lefelau llythrennedd a darllen er pleser ymysg plant a phobl ifanc, a hynny ar frys. Gellir ei ddarllen isod.


Mae argyfwng yn digwydd yn ein hysgolion. Mae cyfleoedd bywyd pobl ifanc yng Nghymru yn cael eu mygu gan system addysg sydd o dan bwysau annioddefol. Mae’r ystadegau’n adrodd y stori. Mae cyrhaeddiad addysgol (a fesurir gan PISA ar draws pob pwnc) yn is yng Nghymru nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU, ac wedi gostwng yn syfrdanol ers 2018. Wrth wraidd y stori hon y mae safonau llythrennedd gwael, gyda’r safonau darllen drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gwaethygu hyd yn oed yn fwy sylweddol na’r Saesneg ers 2020.

Er gwaethaf y cyfoeth o dystiolaeth sy’n cefnogi bod darllen er pleser yn ddangosydd gwell o sut y bydd rhywun yn llwyddo’n academaidd yn y dyfodol na statws economaidd-gymdeithasol, dim ond 1 o bob 4 o blant 8-18 oed yng Nghymru sy’n nodi eu bod yn mwynhau darllen. Mae’n ffaith syfrdanol bod llyfrgelloedd yn orfodol mewn carchardai, ond nid mewn ysgolion; nid oes unrhyw fath o lyfrgell mewn un o bob pedair ysgol yng Nghymru, heb sôn am lyfrgellydd. Dylai llyfrau fod yn weladwy, ar gael ac yn hawdd eu cyrraedd. Os nad ydynt, all plant ddim darllen.

Dyw hyn oll ddim yn newyddion wrth gwrs. Mae’r llywodraeth yn ymwybodol iawn o’r anghenion, ac wedi dechrau mynd i’r afael â’r broblem. Er enghraifft, mae’r £8.2m o gyllid diweddar a addawyd dros y 3 blynedd nesaf ar gyfer CAL:ON yn ddechrau. Ond eto, mae’r sefyllfa i ysgolion yn parhau i fod yn anodd gyda chyllidebau yn tynhau ac ni allant ddod o hyd i arian ar gyfer llyfrau na llyfrgelloedd. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus hefyd yn cau ac mae darllen ymysg plant yn pylu.

Fel y Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales presennol, rhan o’n cyfrifoldeb yw hyrwyddo lleisiau plant ledled Cymru a’u helpu i archwilio pwy ydynt drwy ddarllen ac ysgrifennu. Rydym yn gweld yr effaith gadarnhaol y gall llyfrau ac awduron eu cael ar feddyliau ifanc yn uniongyrchol.

Nid ni yn unig sy’n cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifri. Fel Beirdd Plant, mae’n fraint gennym gydweithio ag athrawon, cyhoeddwyr a sefydliadau sy’n ymroddedig i wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru drwy ymgysylltiad plant â darllen ac ysgrifennu.

Er enghraifft, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn rhedeg y rhaglen Caru Darllen Ysgolion a gwobrau Tir na n-Og. Eleni bydd Gwobr Tir na n-Og yn dathlu ei ben-blwydd yn hanner cant, ond nid oes modd ariannu cynllun y sefydliad i ddarparu pecyn llyfrau o 50 o lyfrau i bob ysgol yng Nghymru. Gyda bron i 20% o blant yng Nghymru heb lyfr yn eu cartref, mae’n amlwg iawn y gallasai’r llyfrau hyn wneud gwahaniaeth hollbwysig.

Ac yna mae Llenyddiaeth Cymru – sy’n gweinyddu ac yn ariannu prosiectau’r Beirdd Cenedlaethol, gan gynnwys ein swyddi ni – yn eiriolwyr allweddol dros rym effaith awduron yn ymweld ag ysgolion. Yn 2023, cynhaliwyd menter beilot awdur preswyl yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail gyda chanlyniadau syfrdanol. Nid yn unig y dangosodd y gwerthusiad fod safonau ysgrifennu’r plant wedi gwella, ond dangosodd effaith gadarnhaol ar bresenoldeb a chyrhaeddiad plant mewn blwyddyn ysgol gyfan.

Mae’r Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol (National Literacy Trust) yn gweithio yn ne Cymru a thrwy eu Rhaglen Darllenwyr Ifanc, wedi darparu llyfrau i 6,300 o blant ysgol gynradd yn ystod y pum mlynedd diwethaf ac wedi creu gofod llyfrgell i 95 o ysgolion yng Nghymru. Ond dim ond cyfran fach o’r plant a’r ysgolion sydd angen llyfrau a llyfrgelloedd y mae hyn yn eu cyrraedd.

Mae mentrau ar-lein fel Darllen Co yn gam ymlaen i lyfrau Cymraeg yn yr ysgol gan eu bod yn e-lyfrau y gellir eu cyrchu o gartref ar unrhyw ddyfais. Mae’r llyfrau hyn hefyd gan awduron cyfoes (rhai sy’n fyw!), wedi’u darlunio, ac yn ymwneud â thrends cyfredol, gyda’r elfen ddigidol yn cyffroi ac yn annog plant i ddarllen – ar sgrin, ie, ond o leiaf y maen nhw’n darllen.

Gyda’i gilydd, mae’r sefydliadau a’r mentrau hyn, ynghyd ag athrawon, awduron a llyfrgellwyr ymroddedig, eisoes yn gwneud gwaith gwych yn erbyn amodau heriol. Ond mae’r hyn y gallent ei gyflawni yn cael ei rwystro’n barhaus gan doriadau i gyllidebau a chyllidebu ansefydlog.

Felly, ar ddechrau Blwyddyn Genedlaethol Darllen, rydym yn galw ar y Llywodraeth bresennol a’r Llywodraeth sydd i ddod, i fuddsoddi o ddifri yn nyfodol ein pobl ifanc drwy:

  • ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n cael ei llywio gan ymchwil ac arbenigedd y rhai sy’n gweithio yn y maes yng Nghymru a gwledydd dwyieithog eraill, a chyllid sefydlog, hirdymor i’w gweithredu;
  • warantu llyfrgell ym mhob ysgol – gyda chyllid priodol iddynt gael eu cyflenwi â llyfrau Cymraeg a Saesneg sy’n cyffroi ac yn ennyn diddordeb plant, ac i groesawu ymweliadau awduron

Yn ogystal, rydym yn gwahodd pawb i helpu i adeiladu diwylliant cenedlaethol o ddarllen, a hynny’n syml trwy ddarllen eich hunain. Fel oedolion gallwn ddangos grym darllen ac ysgrifennu a helpu i agor y drws i bobl ifanc, i’r hyfrydwch, y rhyfeddod a’r dysg sy’n aros amdanynt rhwng pob clawr.

Yn gywir,

Nicola Davies, Children’s Laureate Wales
a Siôn Tomos Owen, Bardd Plant Cymru

 

Llofnodwyr Cefnogol:

Mei Mac,
Menna Elfyn,
Ceri Wyn Jones,
Tudur Dylan Jones,
Ifor ap Glyn,
Eurig Salisbury,
Aneirin Karadog,
Anni Llŷn,
Casia Wiliam,
Nia Morais,
Alex Wharton,
Connor Allen,
Eloise Williams.

 

 

Bardd Plant Cymru