Dewislen
English
Cysylltwch

Nadolig Plentyn yng Nghymru 2022

Cyhoeddwyd Gwe 25 Tach 2022 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Nadolig Plentyn yng Nghymru 2022
Llun: Camera Sioned / Llenyddiaeth Cymru
I nodi 70 mlynedd ers darllediad cyntaf A Child’s Christmas in Wales gan Dylan Thomas, mae Hanan Issa, Bardd Cenedlaethol Cymru wedi’i chomisiynu i ysgrifennu ymateb creadigol cyfoes i’r clasur Nadoligaidd.

Comisiynwyd y darn newydd gan Ŵyl y Gelli mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru a chafodd ei rannu am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 26 Tachwedd, ym Mhenwythnos Gaeaf Gŵyl y Gelli.

Bu Hanan Issa yn sgwrsio â Dylan Moore mewn digwyddiad yn y Gelli Gandryll, yn trafod pŵer ysbrydol barddoniaeth a threftadaeth delynegol gref Cymru.

Rhyddhawyd y comisiwn newydd ar 1 Rhagfyr 2022 mewn podlediad arbennig gan Ŵyl y Gelli ac ar sianel YouTube yr ŵyl.

“Rwy’n cymysgu Nadoligau, hafau, dathliadau Eid a gaeafau fy mhlentyndod – karma yw hynny mae’n siŵr.” – Hanan Issa

Disgrifia Bardd Cenedlaethol Cymru ei phrofiadau ei hun o Nadoligau’r gorffennol yn y comisiwn newydd, gan ystyried tybed beth fydd dyfodol ei mab.

Meddai Hanan: “Mae gwaith eiconig Dylan Thomas wedi goroesi fel stori dirion, gysurus i gynulleidfaoedd dros sawl degawd. Mae’n sôn am yr ysfa honno sydd ynom i gyd i ailgydio yn rhywbeth a gollwyd, i ail-fyw atgof hapus. Roeddwn wedi gwirioni pan gysylltodd Gŵyl y Gelli â mi i ymgymryd â’r comisiwn heriol hwn gan ei fod wedi fy ysgogi i archwilio sut yr ydym yn cadw gafael ar atgofion a delweddau o ddiniweidrwydd, yn ogystal ac edrych ar y sefyllfaoedd llai gobeithiol sy’n wynebu pobl ifanc heddiw.

Hoffwn pe gallwn ddweud bod Nadoligau, dathliadau Eid a gaeafau fy mab mor ddi-hid â’m rhai i neu rai Dylan Thomas.”

Hanan yw Bardd Cenedlaethol Cymru 2022 – 2025, ac mae hi hefyd wedi ennill Cymrodoriaeth Ryngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli 2022-23. Mae gwybodaeth am Hanan a rôl Bardd Cenedlaethol Cymru ar gael yma.

Mae Dylan Moore yn gyn-dderbynnydd y Gymrodoriaeth, yn olygydd cylchgrawn The Welsh Agenda ac yn awdur Many Rivers to Cross (Three Impostors, 2021).