Noddwyr Newydd i Wobr Llyfr y Flwyddyn 2022
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gyhoeddi partneriaeth newydd rhwng Prifysgol Bangor a Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2022.
Rhoddir Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor i’r gwaith ffuglen gorau yn yr iaith Gymraeg a gyhoeddwyd y flwyddyn flaenorol. Rhoddir Gwobr Barddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor i’r llyfr barddoniaeth gorau yn y Saesneg.
Mae gan Brifysgol Bangor draddodiad hir o feithrin dawn lenyddol, yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae llawer o awduron gwych wedi dysgu neu astudio yn y brifysgol, gan gynnwys pump cyn-enillydd teitl Llyfr y Flwyddyn, Angharad Price, Alys Conran, Ifan Morgan Jones, Jerry Hunter a Gerwyn Williams.
Rydym yn gwerthfawrogi cefnogaeth Prifysgol Bangor yn fawr ac edrychwn ymlaen at gydweithio i ddathlu diwylliant llenyddol Cymru.
Dywedodd Yr Athro Ruth McElroy, Athro yn y Diwydiannau Creadigol a Phennaeth Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau Prifysgol Bangor:
“Mae’n fraint noddi’r gwobrau hyn a chyfrannu at amlygu a dathlu llenorion y dyfodol, yn ogystal â rhoi’r cyfle i astudio trysorau ein llenyddiaethau.”
Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr flynyddol sy’n dathlu llenorion talentog Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae cyfanswm o deuddeg gwobr, gan gynnwys y brif enillydd a fydd yn hawlio teitl Llyfr y Flwyddyn 2022.
Bydd enillwyr Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor a Gwobr Barddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor ymhlith y rhai fydd yn cystadlu am y teitl hwn.
Unwaith eto eleni bydd Ymddiriedolaeth Rhys Davies yn noddi’r categori Ffuglen Saesneg. Darganfyddwch fwy am holl bartneriaid a noddwyr Llyfr y Flwyddyn yma.
Mae’r broses feirniadu yn mynd rhagddi. Panel Beirniadu gwobrau Cymraeg eleni yw’r darlledwr Mirain Iwerydd, sy’n cyflwyno’r Sioe Frecwast dydd Sul ar BBC Radio Cymru 2, y cyflwynydd a cholofnydd Melanie Owen, yr academydd, golygydd ac awdur Llên Cymru Siwan Rosser, a’r cyfarwyddwr, bardd ac awdur Gwion Hallam. Darganfyddwch fwy am feirniaid gwobr eleni yma.
Dyddiadau pwysig
Bydd y teitlau sydd ar restr fer y gwobrau Cymraeg, gan gynnwys Gwobr Ffuglen Cymraeg@PrifysgolBangor yn cael eu cyhoeddi ar nos Lun 20 Mehefin ar Stiwdio, BBC Radio Cymru. Bydd rhestr fer y gwobrau Saesneg, gan gynnwys y Gwobr Barddoniaeth Saesneg@PrifysgolBangor, yn cael ei chyhoeddi ar The Arts Show, BBC Radio Wales, ar nos Wener 1 Gorffennaf.
Fel arfer bydd cyfle i ddarllenwyr dweud eu dweud drwy bleidleisio yng ngwobrau annibynnol Barn y Bobl ar wefannau Golwg360 a Wales Arts Review yn dilyn cyhoeddi’r rhestr fer.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Llyfr y Flwyddyn a dyddiadau pwysig gwobr 2022 cliciwch yma.