Pair o Ddaioni Llenyddol!
Bwriad prosiect Y Pair yw creu llyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên a fydd yn adnodd ar gyfer arweinwyr gweithdai llesiant creadigol yn y gymuned drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hefyd yn hyrwyddo a dathlu gwaith beirdd a llenorion sy’n ymdrin â llesiant fel thema. Ar hyn o bryd, gellid dod o hyd i ddyfyniadau byr ar y dudalen Instagram , gyda’r gronfa ar-lein yn cael ei lansio maes o law.
Mae’r prosiect hwn yn deillio o syniad gan y bardd Grug Muse o garfan Sgwennu’n Well – cynllun datblygu gan Llenyddiaeth Cymru i ymarferwyr llenyddol. Roedd Grug yn dweud y byddai’n ddefnyddiol i hwyluswyr creadigol gael ffordd hawdd o ddod o hyd i lenyddiaeth Gymraeg perthnasol i faes llesiant er mwyn cefnogi eu gwaith o greu a chynnal gweithdai a phrosiectau cymunedol.
Helpwch ni i lenwi’r Pair!
Mae Llenyddiaeth Cymru yn galw am gymorth i greu’r lyfryddiaeth ddigidol o weithiau llên Cymraeg sy’n ymdrin â llesiant.
Gwahoddwn lên-garwyr i gyfrannu dyfyniad(au) drwy lenwi ffurflen arlein rhwydd. Bydd yr holl ddyfyniadau yn cael eu catalogio mewn taenlen syml.
Pan caiff yr adnodd gyfan ei lansio, bydd modd:
- Chwilio am ddarn o lenyddiaeth ar thema e.e. galar, y tymhorau neu byd natur
- Dod o hyd i gofnod gyda dyfyniad byr yn flas o’r darn llên
- Mynd i’r llyfrgell, y siop lyfrau neu at yr adnodd ar-lein i ddod o hyd i’r darn o lenyddiaeth cyflawn er mwyn ei ddefnyddio mewn gweithdy. **Rhaid sicrhau fod rheolau hawlfraint yn cael eu parchu.
Gyda’r bardd a’r awdur Siân Melangell Dafydd yn olygydd ar y casgliad, mae hwn yn gychwyn cyffrous i egin-brosiect a allai esgor ar gasgliad defnyddiol tu hwnt.
Egin-brosiect ydi Y Pair, ond y gobaith yw datblygu’r gronfa maes o law.