Dewislen
English
Cysylltwch

PLETHU/WEAVE: Cywaith Traws-gelfyddyd Barddoniaeth a Dawns

Cyhoeddwyd Iau 25 Meh 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
PLETHU/WEAVE: Cywaith Traws-gelfyddyd Barddoniaeth a Dawns

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gydweithio gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ar brosiect ffilm traws-gelfyddyd yr haf hwn. Bydd Plethu/Weave yn dod â beirdd a dawnswyr ynghyd i greu ffilmiau byr cyffrous i’w rhannu ar-lein yn ystod y cyfnod clo.

Bydd wyth bardd yn cael eu comisiynu gan Llenyddiaeth Cymru i greu cerddi gwreiddiol fel rhan o’r prosiect digidol newydd hwn. Yna, caiff y beirdd eu paru gyda dawnswyr trwy rwydweithiau Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a’r sector annibynnol, i greu wyth o gyweithiau arbennig trwy gyfrwng ffilm fer.

I lansio’r prosiect, mae dau o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru eisoes wedi cadarnhau eu rhan yn y cywaith, Bardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn a’r Prifardd Mererid Hopwood. Mae’r ddau eisoes wedi eu paru â dawnswyr CDCCymru i greu’r ddau ddarn cyntaf o’r gyfres. Dros yr wythnosau nesaf bydd y beirdd a’r dawnswyr yn cydweithio â’i gilydd i greu a rhannu ffilm gyda chynulleidfaoedd ar-lein. Bydd ffilm newydd yn cael ei darlledu bob pythefnos o 3 Awst ymlaen, a hynny drwy sianeli AM, Facebook a YouTube Llenyddiaeth Cymru a CDCCymru.

Mae CDCCymru hefyd yn chwilio am ddau ddawnsiwr llawrydd i fod yn rhan o’r cywaith hwn. Gellir dod o hyd i fanylion ynglŷn â sut mae cyflwyno syniadau ar ndcwales.co.uk. Y dyddiad cau ar gyfer cynigion yw 17 Gorffennaf gyda’r broses greu yn cychwyn ar 31 Awst.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect hyfryd hwn gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, ac yn edrych ymlaen at weld cynnyrch gorffenedig pob un o’r partneriaethau arbennig hyn. Mae dathlu diwylliant Cymru yn un o brif nodau Llenyddiaeth Cymru a pa ffordd well o wneud hynny na thrwy greu a rhannu’r cyweithiau creadigol hyn rhwng artistiaid talentog cyfoes Cymru, a fydd yn siŵr o brocio, diddanu a chyffwrdd cynulleidfaoedd newydd a phresennol llenyddiaeth a dawns.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyswllt CDCCymru, Lee Johnston, “Gall barddoniaeth a dawns, yn eu ffurfiau eu hunain, gynnig gobaith, cysur, ac ysbrydoliaeth. Rwyf wedi cyffroi ein bod yn gweithio â Llenyddiaeth Cymru i ddwyn y ddwy ffurf ar gelfyddyd ynghyd a chreu gweithiau pwerus llawn symudiadau ac ystyriaethau. Rwyf hefyd yn falch bod y prosiect yn ymgysylltu ag artistiaid dawns annibynnol o Gymru, ac edrychaf ymlaen at yr ehangder hwn o bersbectif a chyfraniad artistig.”

Edrychwn ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth a chynnwys y prosiect hwn dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.