Dewislen
English
Cysylltwch

Prosiect Plethu/Weave yn creu barddoniaeth a ffilm o symudiadau ingol i adlewyrchu rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth Draws-Atlantig

Cyhoeddwyd Sul 23 Awst 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Prosiect Plethu/Weave yn creu barddoniaeth a ffilm o symudiadau ingol i adlewyrchu rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth Draws-Atlantig
Y Bardd Marvin Thompson a'r Dawnsiwr Ed Myhill

Ar ddydd Sul 23 Awst, yng nghyswllt Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Fasnach Gaethwasiaeth a’i Diddymu, cyhoeddodd Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru (CDCCymru) a Llenyddiaeth Cymru eu ffilm fer nesaf o’u prosiect barddoniaeth a dawns, Plethu/Weave, sy’n canolbwyntio ar ran Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth Draws-Atlantig.

Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Fasnach Gaethwasiaeth a’i Diddymu, a sefydlwyd gan UNESCO, yn flynyddol ledled y byd ar ddydd Sul 23 Awst, gan gynnig cyfle i fyfyrio ar y cyd ar oblygiadau hanesyddol caethwasiaeth.

Fel rhan o brosiect cywaith digidol traws-gelfyddydol newydd CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru, Plethu/Weave, bydd Marvin Thompson, bardd Du o Gymru, ac Ed Myhill, dawnsiwr CDCCymru sydd o dras Gwyn Prydeining yn archwilio rhan Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth draws-Atlantig. Mae Triptych, sy’n cael ei rhyddhau ar ddydd Iau 3 Medi, yn defnyddio geiriau Marvin ynghyd â sain a symudiadau newydd gan y dawnsiwr Ed Myhill i gyfleu’r anghyfiawnder hyn mewn llythyr barddonol grymus.

Dywedodd y bardd Marvin Thompson, “Mae Ed Myhill a minnau wedi creu ffilm wedi’i hysbrydoli gan fy ngherdd ‘Triptych.’ Mae’r gerdd hon yn ymateb i blac yn Aberhonddu sy’n coffau masnachwr caethweision. Cymerodd Ed Myhill adran gyntaf ‘Triptych,’ neges agored i Gyngor Tref Aberhonddu, a’i hailgymysgu dros drac sain a gyfansoddodd. Mae’r ffilm yn ymgorffori lluniau o gaeau corn, y môr a symudiad ein cyrff i ymhelaethu ar themâu o gaethiwo a distrywio ecolegol.”

Triptych yw’r trydydd fideo o blith wyth gan brosiect Plethu/Weave CDCCymru a Llenyddiaeth Cymru. Mae’r prosiect digidol newydd hwn yn paru dawnswyr o CDCCymru a’r sector annibynnol gyda rhai o beirdd a gomisiynwyd gan Llenyddiaeth Cymru gyda’r nod o greu wyth ffilm fer unigol yn ystod y cyfnod clo.

Dangoswyd y ddwy ffilm gyntaf, Hirddydd gan Mererid Hopwood a Tim Volleman ac Ust gan Ifor Ap Glyn a Faye Tan fel rhan o Ŵyl AmGen yr Eisteddfod Genedlaethol ddechrau Awst, ac maent bellach ar gael i’w gwylio ar wefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol CDCCymru / Llenyddiaeth Cymru.

Meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, “Gall llenyddiaeth a’r celfyddydau ein harwain tuag at ddealltwriaeth well o faterion cymhleth a phwysig. Drwy farddoniaeth a dawns, mae Marvin Thompson ac Ed Myhill yn archwilio’n agored a gonest ran Cymru yn y fasnach gaethwasiaeth Draws-Atlantig, ac mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o gefnogi’r gwaith hwn mewn partneriaeth â CDCCymru. Mae Diwrnod Rhyngwladol Cofio’r Fasnach Gaethwasiaeth a’i Diddymu yn achlysur lle dylai pawb ledled y byd – gan gynnwys dinasyddion Cymru – oedi i fyfyrio ar erchyllterau’r gorffennol.”

Meddai Paul Kaynes, Prif Weithredwr CDCCymru, “Mae ‘dawns’ yn ffurf ar gelfyddyd sy’n dibynnu ar gydweithrediadau dwfn – gyda choreograffwyr, cyfansoddwyr, dylunwyr ac yn aml gyda llenorion. Mae dau artist o Gymru – bardd a dawnsiwr – yn cydweithio i wneud gwaith ar gyfer Cymru, ac am Gymru, gan ein hatgoffa o’n gorffennol yn y fasnach gaethweision Drawsiwerydd ac yn ein herio i fyfyrio ar ymgyrch Bywydau Du o Bwys, ddoe a heddiw. Mae pŵer y gwaith maen nhw wedi’i wneud yn glod iddyn nhw fel artistiaid, a pherthnasedd eu pwnc”

Bydd Triptych yn cael ei darlledu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol CDCCymru / Llenyddiaeth Cymru o ddydd Iau 3 Medi ymlaen, ac fe fydd y ffi;m ar gael i’w gwylio am hyd at 12 mis. Bydd y pum ffilm fer nesaf sy’n rhano Plethu/Weave yn cael eu darlledu ar-lein pob pythefnos fel rhan o raglen ddigidol KiN:Ar-lein CDCCymru.

Marvin Thompson
Ganwyd Marvin Thompson yn Llundain i rieni o Jamaica. Mae ganddo MA mewn Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Middlesex, ac ar hyn o bryd mae’n dysgu Saesneg i blant ysgol uwchradd yng nghymoedd y De. Roedd yn un o dri bardd a ddewiswyd gan The Poetry School a Nine Arches Press ar gyfer ‘Primers Volume 2: Mentoring Scheme’. Mae adolygwyr wedi disgrifio gwaith Marvin fel cynnyrch ‘dramatig’, ‘egnïol’ a ‘meistrolgar’. Mae hefyd wedi cyhoeddi yn The Poetry Review, Poetry Wales a Red (Peepal Tree Press).

Yn 2017, cafodd Marvin Thompson y drydedd wobr yng nghystadleuaeth barddoniaeth ryngwladol Ambit Magazine. Yn 2019, cafodd ‘The Many Reincarnations of Gerald, Oswald Archibald Thompson’, sef cerdd ryfel mewn arddull realaeth fodern, ei chyflwyno gan y Long Poem Magazine am Wobr Forward am y Gerdd Orau. Road Trip yw casgliad cyntaf Marvin, wedi ei gyhoeddi gan Peepal Tree Press

Ed Myhill
Yn wreiddiol o Lundain, cafodd ei fagu yn Leeds a hyfforddodd yn Ysgol Uwchradd Hammond yng Nghaer, ac yna treuliodd dair blynedd yn y Rambert School of Ballet and Contemporary Dance. Ymunodd â CDCCymru fel prentis yn ystod Hydref 2015 ac mae nawr yn ddawnsiwr llawn amser gyda’r Cwmni. Bu’n teithio’n helaeth ar draws y DU a thramor gan gynnwys gwaith gan Alexander Ekman, Roy Assaf a Marcos Morau.

 

Gallwch wylio Triptych, ffilm fer Marvin ac Ed, isod:

Uncategorized @cy