Dewislen
English
Cysylltwch

Rhaglen Darllenwyr Ifanc y National Literacy Trust

Cyhoeddwyd Llu 20 Gor 2020 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Rhaglen Darllenwyr Ifanc y National Literacy Trust
National Literacy Trust's Young Readers Programme

Cynllun newydd yn cyflwyno llyfrau ac adnoddau llythrennedd i blant difreintiedig yn ardal Abertawe

Mae Rhaglen Darllenwyr Ifanc y National Literacy Trust wedi derbyn nawdd gan Gronfa Cymorth Covid-19 y Moondance Foundation sy’n cefnogi gweithgareddau elusennol yng Nghymru yn ystod argyfwng Covid-19. Mae’r cynllun yn rhoi llyfrau newydd yn rhad ac am ddim i gannoedd o ddisgyblion cynradd difreintiedig yn ardal Abertawe, er mwyn cefnogi eu dysgu ac i’w galluogi i ddarllen er pleser.

Bydd y Rhaglen Darllenwyr Ifanc yn cefnogi 240 o blant mewn pedair ysgol gynradd yn Abertawe: Waun Wen, Townhill, Portmead ac Ysgol Gynradd Gymunedol Clwyd. Bydd 60 disgybl o bob ysgol yn derbyn dau lyfr newydd sbon i’w cadw, law yn llaw â mynediad at e-Lyfrau amrywiol i ehangu casgliad llyfrgell yr ysgol. Bydd pob disgybl hefyd yn derbyn pecyn yn llawn gweithgareddau darllen, ysgrifennu a chrefftau hwyliog i’w cwblhau adref. Mae’n bosib mae dyma fydd y llyfrau cyntaf erioed i ambell un eu meddu.

Mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru, elusen sydd yn gweithio i ysbrydoli cymunedau, datblygu awduron a dathlu diwylliant llenyddol Cymru, mae’r National Literacy Trust yn cydweithio â dau fardd talentog er mwyn trosglwyddo’r straeon hyn yn fyw i’r plant. Mae’r awduron Taylor Edmonds ac Alex Wharton wedi recordio dwy stori gyffrous fel rhan o gyfres adrodd stori digidol Clwb Stori Darllenwyr Ifanc. Daeth gwaith Taylor ac Alex i’r amlwg yn gynharach eleni fel rhan o Wobr Rising Stars Cymru; cynllun newydd ar y cyd rhwng Llenyddiaeth Cymru a Gwasg Firefly oedd yn agored i feirdd o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig sydd yn byw yng Nghymru.

Mae ymchwil gan y National Literacy Trust yn dangos fod plant sydd â llyfrau eu hunain yn gwneud yn well yn yr ysgol ac yn profi gwell lefelau llesiant meddwl. Er hyn, dyw 1 o bob 11 plentyn difreintiedig yng Nghymru ddim yn berchen ar lyfr eu hunain. Yn dilyn cyfnod hir i ffwrdd o’r ysgol o ganlyniad i COVID-19, a thra bo llyfrgelloedd yn dal ynghau, mae sicrhau bod llyfrau’n cyrraedd dwylo’r rheiny sydd eu hangen fwyaf yn bwysicach nag erioed.

Ers dros 20 mlynedd, mae Rhaglen Darllenwyr Ifanc y National Literacy Trust wedi ymrwymo i ysbrydoli plant o gymunedau difreintiedig ar draws y DU, ac i’w cynorthwyo i syrthio mewn cariad â darllen trwy gyfres o weithgareddau hwyliog ble gall blant ddewis llyfrau newydd sbon i’w cadw; profi ymweliad gan awdur; sesiynau adrodd stori a digwyddiadau llenyddol.

Dywedodd Nick Oram, Rheolwr Rhaglen Darllenwyr Ifanc y National Literacy Trust:

“Rydym yn hynod ddiolchgar ein bod wedi derbyn nawdd gan Gronfa Cymorth Covid-19 y Moondance Foundation er mwyn sicrhau bod gan cannoedd o blant Abertawe fynediad at lyfrau newydd a chyffrous i gefnogi eu dysgu ac i’w diddanu tra bod yr ysgolion ar gau. Rydym hefyd wrth ein boddau o gael cyd-weithio â thîm gwych Llenyddiaeth Cymru er mwyn cynhyrchu fideos adrodd stori yng nghwmni dau fardd Cymreig ysbrydoledig. Mae’n hollbwysig fod y cymorth hwn yn cyrraedd y plant hynny sydd ein hangen fwyaf yn ystod y cyfnod hwn.”

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru:

“Mae Llenyddiaeth Cymru’n hynod falch o gydweithio â’r National Literacy Trust i hwyluso’r Rhaglen Darllenwyr Ifanc yn Abertawe. Mae llenyddiaeth i bawb, ac mae ganddo rym i drawsnewid bywydau. Mae annog mwynhau darllen o oedran ifanc yn allweddol er mwyn cyflawni hynny ac mae Llenyddiaeth Cymru yn arbennig o falch y bydd disgyblion cynradd ardal Abertawe yn gallu mwynhau gwaith dau o feirdd ifanc Cymru, Taylor Edmonds ac Alex Wharton. Mae’r ddau yn cyfansoddi cerddi gwych a hoffus i blant ac maent eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu gwaith trwy Wobr Rising Stars Cymru. Mae’r rhain yn dalentau eithriadol sydd yn sicr o ysbrydoli a thanio dychymyg plant o bob oed.”  

Am ragor o wybodaeth am y Rhaglen Darllenwyr Ifanc, ewch i: literacytrust.org.uk/programmes/young-readers-programme/

Plant a Phobl Ifanc