Tafwyl Digidol: 20 Mlynedd o Bardd Plant Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch iawn o fod yn rhan o arlwy digidol Tafwyl eleni er mwyn dathlu 20 Mlynedd o Bardd Plant Cymru. Ymunwch â Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru ar gyfer sgwrs a cherddi yng nghwmni Bardd Plant Cymru, Gruffudd Eifion Owen a’r cyn feirdd plant, Casia Wiliam ac Ifor ap Glyn.
Mae cynllun Bardd Plant Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn ugain mlwydd oed eleni. Braf yw cychwyn ar y dathliadau yn Tafwyl gyda sgwrs hwyliog yn sôn am brofiadau’r tri bardd – y da, y drwg, a’r doniol.
Bydd y sgwrs yn fyw ar wefan Tafwyl am 12 hanner dydd, dydd Sadwrn 20 Mehefin ac ar gael i’w wylio ar-alw.
Partneriaid cynllun Bardd Plant Cymru yw Llenyddiaeth Cymru, Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.