Taith ‘Sha thre / Am adra’ Ifor ap Glyn

Ond pam cerdded mor bell?
Meddai Ifor:
“Roedd yn fwriad gen i wneud hyn yn wreiddiol cyn diwedd fy nhymor fel Bardd Cenedlaethol. Ro’n i’n lico’r syniad o berfformio mewn llefydd anghyfarwydd fel y Blue Scar Club ym Mhontrhyfyfen, neu’r Llusern Hud yn Nhywyn – ond hefyd byddai’n gyfle imi ail-ymweld â llefydd sydd Gyda rhyw arwyddocâd personol i mi. Mae Beddgelert, Blaenau, Bermo, Ponthrydfendigaid a Merthyr i gyd Gyda cysylltiadau teuluol, er enghraifft (ydw, dwi’n fwngral go iawn!).”
Mae rheswm pwysig arall am gerdded 270 o filltiroedd o Gaerdydd i Gaernarfon, fel yr esboniodd Ifor:
“Enw’r daith yw ‘Sha thre/ Am adra’ gan y bydda i’n cerdded nes cyrraedd fy nghartre yng Nghaernarfon. Ond mae miliynau o bobl yn cerdded pellterau tebyg ar hyn o bryd: o Syria i Lebanon, o Eritrea i Sudan, neu o Wcrain i Wlad Pwyl, yn y gobaith y bydd cartref iddynt ym mhen y daith.”
“Yn ogystal â chefnogi achosion lleol ar y daith hon, ro’n i’n awyddus i dynnu sylw at helyntion y bobl hyn a gallwch gefnogi gwaith Cyngor Ffoaduriaid Cymru drwy ddilyn y linc hwn: https://www.justgiving.com/page/ifor-ap-glyn-1684881984265
Am fanylion y daith wrth iddi fynd rhagddi, cadwch lygad ar gyfrif Twitter Ifor: @iforapglyn