Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Ardd – Gwirfoddolwyr a Dysgwyr Cymraeg

Cyhoeddwyd Llu 21 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr Ardd – Gwirfoddolwyr a Dysgwyr Cymraeg
Dyma flog rhif 4 o 4 am ein prosiect, Yr Ardd. Darllenwch y gyfres gyfan trwy ddilyn y dolenni isod.

 

Gwirfoddolwyr yr Ardd a dysgwyr Cymraeg, 14 Medi 2024

Mae’r Ardd yn dibynnu ar gymuned o wirfoddolwyr, gyda llawer ohonyn nhw’n ddysgwyr Cymraeg. Mae’r bobl yma wedi tyfu gyda’r Ardd; maen nhw wedi’i gweld hi’n newid ac yn datblygu dros y misoedd, ac yn eu tro maen nhw wedi ymwreiddio yn y lle fel pawb arall. Fyddai’r Ardd ddim beth yw hi hebddyn nhw. Felly, fe ddaethon ni at ein gilydd ar fore Sul i fod yn yr Ardd ac i feddwl am y lle a’r bobl, gydag addewid o gawl cynnes a chacennau blasus ar y diwedd. Roedd croeso iddyn nhw weithio yn Gymraeg neu yn Saesneg, beth bynnag oedd fwyaf cyfforddus iddyn nhw.

Cafodd pob un o’r criw bach ddaeth at ei gilydd un o fy llyfrau nodiadau chwedlonol, i nodi unrhyw syniadau neu wneud ychydig o sgwennu neu fraslunio, beth bynnag oedd yn apelio.

Dechreuon ni drwy siarad am yr ardd a’n taith iddi. Roedd yn gyfle i ddod i nabod ein gilydd. O ble roedden ni wedi dod i gyrraedd yma? Roedd gan bawb rywbeth i’w ddweud am y lle; sut roedd yn gwneud i ni deimlo, beth roedden ni’n ei gymryd o’r lle, a drwy rannu cawson ni ffenest ar bob un ohonon ni, oedd yn teimlo fel braint. Roedd yr ardd yn rhoi lle diogel i ni fod yn agored, ac roedden ni’n teimlo ein bod ni’n cael ein cynnal yma.

Fe wnaethon ni ymarfer ysgrifennu creadigol bach i lacio. Roedd rhaid i ni feddwl am y canlynol: pe baen ni’n blanhigyn neu’n flodyn, pa blanhigyn neu flodyn fydden ni? I ddechrau, ro’n i’n meddwl mai ymarfer bach fyddai’n ein harwain ni i rywle arall fyddai hwn, ond roedd yn ddarganfyddiad gwirioneddol emosiynol ynddo’i hunan. Roedden ni i gyd yn uniaethu â phlanhigion penodol oherwydd rhinweddau penodol, a weithiau roedden ni’n gweld ein hunain mewn golau negyddol, ond yn y lle yma o dwf a meithrin, buan y byddai hyn yn cael ei ail-fframio gan eraill a oedd yn gosod cyd-destun i bethau ac yn gweld elfennau eraill mwy cadarnhaol ym mhob un ohonon ni. Roedd hi’n deimlad mor braf cael profi’r rhwydwaith yna o wybodaeth. Drwy fynd â’r bobl a’r planhigion, a’u cydblethu, fe greon ni symbiosis yn cynrychioli’r Ardd – yn sicr, pobl a lle yw’r ardd yma.

Roedd y tywydd yn oeri, ac fe aethon ni ’nôl i’r sied am bowlenaid o gawl maethlon a chacen – parhaodd y sgwrs dros ginio. Siaradon ni am enwau Cymraeg ar blanhigion a geiriau penodol oedd wedi taro tant yn ystod y sesiwn.

Ar ôl cinio, fe glymon ni dagiau papur gyda rhai o’r geiriau allweddol wedi’u hysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg arnyn nhw, ar y tŷ helyg gan ddefnyddio cortyn gardd. Mewn amser, byddan nhw’n malurio ac yn diflannu, gan adael natur i wneud ei gwaith yn yr Ardd.

Alla i ddim aros i fynd ’nôl a gweld y lle’n fuan.

 

A garden chorus of plants 

Today, I am ivy, iorwg.  

I am tenacious, a parasite,  

I grow because, I grow despite. 

But I make things beautiful with curled leaves like gems  

turning gardens into shining green treasure, 

tŷ gwyrdd yn yr ardd.  

 

Heddiw, coeden olewydden ydw i, I am an olive tree, 

wedi bodoli ers canrifoedd, ancient, 

mae gen i wreiddiau sy’n tyfu’n ddwfn, with deep roots, 

rwy’n addasu ble bynnag ydw i, I adapt, 

rwy’n vulnerable, yn fregus, ond yn gryf, I grow. 

 

Today, I am brambles, mieri, 

I stay out on the edges, growing on the sides,  

I am protective and yet I bear dark fruit,  

I am spiky but sweet.  

 

Heddiw, draenen ydw i, thorns,  

yn boen i lawer,  

draenen mewn ystlys hyd yn oed, a thorn in the side maybe, 

ond rwy’n gwarchod, yn cadw,  

yn gysgod, yn dwyn ffrwyth,  

I support and sustain. 

 

Heddiw, capan cornicyll ydw i, a lapwing’s hat or nasturtium, 

trailing along the ground, 

flashes of colour, lliw tân, here and there, enough to make folk smile 

and a peppery taste to warm the tongue.  

Today I make the garden feel good  

and I feel good in the garden. 

 

Today, I am willow, helygen,  

I’m quick-growing, scrubby, a survivor 

and weed-like I turn up everywhere – dyma fi 

I am rooted in this place – fan hyn 

a hybrid, a mixture of many things, 

and in the wind, my leaves sing. 

– Gwirfoddolwyr Yr Ardd 

 

Darllenwch flogiau eraill gan Elinor am Yr Ardd: Tyfu’n Geiriau, Canolfan Deuluoedd, ac Ieuenctid Tysul.