Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Ardd – Tyfu’n Geiriau

Cyhoeddwyd Llu 21 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr Ardd – Tyfu’n Geiriau
Ysgrifennwyd y blog hwn gan y bardd a’r hwylusydd, Elinor Wyn Reynolds, sy’n adrodd hanes prosiect ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd ganddi yn Llandysul yn Awst a Medi 2024. Trefnwyd y prosiect gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Gardd Gymunedol Yr Ardd, Llandysul, a gyda chyllid o £3,010 gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Gorllewin Coedwig Brechfa.
Cliciwch y dolenni i ddarllen holl flogiau Elinor a’r cerddi a grewyd gan y Ganolfan Deuluoedd, Ieuenctid Tysul, a’r Gwirfoddolwyr a Dysgwyr.

 

Ymweliad cyntaf

Dw i wrth fy modd â gerddi, felly roedd cael fy ngwahodd i arwain prosiect oedd yn byw mewn gardd yn freuddwyd i fi. Y syniad oedd y bydden i’n arwain cyfres o weithdai ysgrifennu gyda gwahanol grwpiau dros gyfnod byr yn yr Ardd, gan ddefnyddio natur ac amgylchedd yr Ardd fel ysbrydoliaeth. Roedden ni am fod yn tyfu geiriau a bod yn greadigol. Ro’n i’n edrych ymlaen at fy ymweliad cyntaf.

Darn bach o frysgdir anghofiedig ger Llandysul yw’r Ardd, ar y ffin rhwng Sir Gâr a Cheredigion. Ond am le anhygoel. Roedd fy ymweliad cyntaf ar ddiwrnod braf o haf. Ro’n i wedi cael cyfarwyddiadau sut i gyrraedd. Ro’n i’n lled-gyfarwydd â Llandysul, a finnau wedi gweithio yno o’r blaen, ond allwn i ddim dychmygu ble allai’r lle yma fod.

Pan gyrhaeddais i, allwn i ddim credu mor dwt roedd yr Ardd yn swatio yn y dre. Rydych chi’n troi oddi ar y brif ffordd i fyny stryd fach, gan ddilyn arwyddion am Yr Ardd. Wedi i chi barcio, mae angen cerdded ar hyd lôn sy’n cylchu o dan y ffordd, drwy dwnnel a fyddai’n ddigon i blesio Alice in Wonderland, ac yna cewch ryfeddu ar y tir wrth i’r ardd agor o’ch blaenau, fel rhodd anghofiedig.

Triongl o dir yw’r Ardd, sy’n raddol ddisgyn i lawr at yr afon, a draw ar yr ochr arall mae’r ffordd osgoi yn arnofio uwchben ffin yr ardd, gan arwain lan tuag at Lanfihangel-ar-arth a Phencader; bron fel petai wedi’i phlygu i mewn o dan sêm y ffordd, fel origami.

Ar ôl cyrraedd, dilynais lwybr tuag at y sied, sydd wastad yn syniad da mewn gardd, achos dyna ble byddwch chi’n siŵr o ddod o hyd i rywun sy’n gwybod beth yw beth. A dyma lle cwrddais i ag Elizabeth, sy’n sicr yn gwybod beth yw beth – mae hi wedi bod yn gweithio fel cydlynydd yr Ardd ers dros flwyddyn bellach. Yn gyntaf oll, roedd hi’n bryd eistedd i lawr a chael paned o de, i gael cyfle i ddod i ddeall hyd a lle’r gofod. O’n mainc yn rhan wyllt yr ardd, roedd modd i ni weld y gofod cyfan, gyda llwybrau’n rhwydweithio o gwmpas yr ardd fel gwythiennau, yn creu gwahanol barthau ar gyfer gwahanol bethau. Felly, dewch gyda fi ar daith drwy’r Ardd.

Ar hyd rhan waelod yr ardd, rwy’n sylwi ar gegin fwd gyda gorsafoedd coginio pren a hen sosbenni. Ardderchog! Mae’n edrych fel lle gwych i wneud pastai mwd. Hefyd yn rhan isaf yr ardd mae tŷ helyg a thwnnel, yn wyrdd ac yn wyllt, ac fel petai’n newid ac yn addasu bob dydd. Mae’r tŷ helyg yn sefyll mewn perllan ifanc gyda charw helyg (Dewi) yn goruchwylio popeth. Ac fel gem yn disgleirio yn yr haul, yn y gornel bellaf mae pwll newydd ei osod, yn barod i fod yn gartref i bob math o anifeiliaid a phlanhigion.

Yn y polydwnnel, lle mae’n gynnes ac yn arogli fel y ddaear, fel pethau gwyrddion, mae tomatos, pupur, ciwcymbyr, a courgettes yn brysur yn byrstio o’u hadau ac yn hawlio’r lle fel eu lle nhw. Maen nhw i weld yn tyfu ar gyflymder brawychus – dw i wedi fy syfrdanu.

Wrth i fi edrych lan tua’r bancyn uwchlaw, mae’r arwydd lliw melyn briallu sy’n darllen YR ARDD – fel pe bai’n swatio ym mryniau Hollywood – yn tywynnu fel yr haul, gyda Haf y sgwarnog a’i chlust lipa ddireidus yn eistedd oddi tano mewn nyth fieri, yn mwynhau’r pelydrau gwresog. Dw i’n dweud wrth fy hunan, mae hwn yn lle da, sydd wedi gwreiddio a thyfu’n organig, ac er ei bod yn fenter gymharol newydd, mae’n teimlo fel pe bai wedi bod yma erioed.

Ar hyd un ochr i’r gofod mae gwelyau uwch lle mae toreth o ffrwythau a llysiau, ac yng nghanol yr Ardd mae yna loches ag ochr agored – cwtsh bach – gyda meinciau, gorsaf baratoi bwyd, lle tân a barbeciw. Dyma lle mae pawb yn cwrdd, dyma galon yr Ardd.

Dywedwyd wrtha i bod y bobl sy’n defnyddio’r Ardd yn dod o bob rhan o’r gymuned leol, yn deuluoedd a phlant, yn bobl ifanc, yn wirfoddolwyr. Byddwn i’n gwneud gweithdai ysgrifennu gyda thri gwahanol grŵp: plant cyn oed ysgol a’u teuluoedd, pobl ifanc yn eu harddegau sy’n mynd i’r ganolfan ieuenctid, a demograffeg hŷn o wirfoddolwyr a dysgwyr Cymraeg. Maen nhw i gyd yn teimlo fel pe baen nhw’n berchen ar ran o’r lle arbennig yma, y darn yma o dir, byd cyfan sy’n byw, yn anadlu, yn tyfu yng nghysgod y drosffordd. Gadewais i’r lle hyfryd yma ar ôl fy ymweliad cyntaf yn teimlo’n llawn emosiwn.

 

Ail ymweliad

Ro’n i’n meddwl y dylen i ymweld â’r Ardd unwaith eto, i wneud yn siŵr fy mod i wedi dod i’w nabod yn iawn. Cyn mynd yno, cefais sgwrs wych ar Zoom gyda Iola Ynyr (am fenyw anhygoel), sy’n ymarferydd ac yn hwylusydd sy’n gweithio gyda gwahanol grwpiau o bobl, gan eu helpu i ddod i ddeall eu hunain yn well a theimlo cysylltiad â’r tir a lle maen nhw yn y broses. Mae Iola’n helpu pobl i fod yn greadigol a hefyd i fyfyrio a chysylltu.

Tywysodd Iola fi drwy fy nisgwyliadau ar gyfer y gweithdai, a fy mharatoi ar gyfer yr annisgwyl. Roedd hi’n sesiwn wych, gan fy mharatoi ar gyfer beth bynnag oedd i ddod. Fe sgwrsion ni, fe chwarddon ni, ac fe grion ni, wrth i ni rannu ein profiadau. Dywedais i fy mod i’n gobeithio gwneud cysylltiad gyda phobl yno, a phe baen ni’n gweld ein gilydd ar y stryd flynyddoedd yn ddiweddarach, y bydden ni’n gallu edrych ar ein gilydd, gwenu, a gwybod bod ganddon ni brofiad rydyn ni wedi’i rannu. Helpodd Iola fi i feddwl am ymarferoldeb gweithio’n greadigol gyda phobl yn yr awyr agored. Siaradon ni am sut y byddai’r lle yma, lle bydden ni’n cynnal y gweithdai, yn lle diogel lle mae pawb yn cael eu derbyn a’u parchu, lle does dim barnu, a lle gallwn ddod at ein gilydd i rannu a mwynhau cwmni’n gilydd.

Pan alwais i heibio i weld yr Ardd unwaith eto, roedd Elizabeth yno, a chawson ni gyfle i eistedd a sgwrsio dros baned o de, dim ond y ddwy ohonon ni. Ces weld a theimlo beth yw ei gweledigaeth hi ar gyfer y lle. Dywedodd wrtha i am y mwynhad mae hi’n ei gael o weithio gyda chymunedau, ac o weld pethau’n newid a thyfu. Mae hi mor ddiolchgar am y cyfeillgarwch mae hi wedi’i ffurfio, ac am y gymuned sydd wedi gwreiddio yno. Ro’n i’n teimlo cymaint o groeso ganddi hi ac Eirwyn, y ci defaid Cymreig.

Roedd yr ardd wedi tyfu ers fy ymweliad diwethaf, roedd hi wedi newid ac roedd hi’n esblygu. Roedd ’na bethau newydd yn digwydd, roedd pethau’n datblygu (am ryw reswm, ro’n i wedi fy synnu gan hynny i ddechrau!). Ond nawr ro’n i’n gallu deall y ffordd mae’r lle yma’n mynd o dan eich croen, ro’n i’n ei deimlo. Ac ro’n i’n teimlo fel pe bawn i’n rhan fach o’r ardd yma hefyd.

 

Paratoi ar gyfer y gweithdai

Ro’n i’n gwybod, hyd yn oed pe baen ni’n gweithio tu allan, y byddai angen i ni allu ysgrifennu, darlunio neu wneud beth bynnag hoffen ni wrth fynd, felly penderfynais wneud llyfrau nodiadau o ddarnau sgrap o bapur lliw a chortyn gardd. Gallai’r cyfranogwyr fynd â nhw adre ar ddiwedd pob sesiwn.

Ac am un prynhawn therapiwtig cyn y sesiynau, roedd ’na weithdy bach creu llyfrau nodiadau yn digwydd yn fy nghegin. Ro’n i fel corrach bach diwyd yn creu llyfr nodiadau. Mwynheais i mas draw. Defnyddiais ddarnau o bapur ro’n i wedi’u cadw ar gyfer sefyllfa o’r fath.

Ro’n i wedi penderfynu’n fras beth ro’n i’n gobeithio ei gyflawni ym mhob sesiwn, gan wybod y byddai pob grŵp yn amrywio o ran oedran. Ro’n i am i bob set o gyfranogwyr fod wedi meddwl am yr ardd a’u lle ynddi yn ystod ein sesiwn, ac ar ôl cael ein hysbrydoli, gallen ni rannu ein syniadau ac ysgrifennu darn ar y cyd tua diwedd pob sesiwn. Fe gedwais ychydig o amser i gael mwynhau bod yn yr ardd hefyd, a chael amser braf.

Felly gyda’r llyfrau nodiadau, pensiliau a chynllun bras, es i i’r ardd i gwrdd â phobl.

 

Sylwadau i gloi

Beth ddysgais i gan yr Ardd? Eich bod chi’n gallu tyfu gardd yn unrhyw le, cyhyd â’ch bod chi’n tendio arni ac yn gofalu amdani, bydd yn rhoi toreth o bethau i chi yn gyfnewid. Pan fyddwch chi’n trin gardd, mae’n eich helpu chi’n ôl, gan feithrin eich corff, eich meddwl a’ch enaid. Dysgais hefyd nad darn o dir yn unig yw gardd, ond y bobl hefyd; rydyn ni wedi cysylltu â’n gilydd ac i gyd yn rhan o we’r byd eang.