Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Ardd – Ieuenctid Tysul

Cyhoeddwyd Llu 21 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr Ardd – Ieuenctid Tysul
Dyma flog rhif 3 o 4 am ein prosiect, Yr Ardd. Darllenwch y gyfres gyfan trwy ddilyn y dolenni isod.

 

Ieuenctid Tysul, 12 Medi 2024

Yn yr ail sesiwn gyda’r criw o Ieuenctid Tysul, roedd oedran y cyfranogwyr yn amrywio o 12 i tua 18 oed, gyda rhyw bymtheg ohonyn nhw i gyd. Cwrddon ni yn y cwtsh, ac ro’n i’n gallu synhwyro’r egni a’r awch, a’r lle’n fwrlwm. Diwedd y dydd oedd hi, ac roedd y criw eisiau lle i fod yng nghwmni ei gilydd, i ymlacio a gadael fynd. Pan ddywedais i y bydden ni’n gwneud rhywfaint o greu ac ychydig o ysgrifennu, roedd ’na ychydig o amharodrwydd i ddechrau – roedden nhw wedi cael digon o ysgrifennu a dysgu yn yr ysgol – ac roedd hynny’n hollol ddealladwy, roedden nhw eisiau ymlacio. Ond rhoddais lyfr a phensil i bob un ohonyn nhw, rhag ofn eu bod nhw am ysgrifennu rhywbeth i lawr, tynnu llun neu ddwdlo.

Gan ein bod ni yn yr ardd, dechreuon ni drwy edrych tu mewn i’n hunain, ar sut roedden ni’n teimlo. Cymeron ni ein tymheredd personol ac edrych ar sut roedden ni’n teimlo tu mewn ar ôl y diwrnod roedden ni wedi’i gael. Roedd hwn yn lle da i ddechrau, a buan sylweddolais i bod hwn yn gyfle i siarad yn lle sgwennu, roedd yn gyfle i fod gyda’n gilydd a chyfnewid straeon, siarad gyda’n gilydd. Cefais i gymaint o fwynhad yn clywed sut oedden nhw, pwy oedden nhw, a hefyd am eu perthynas gyda’r lle hyfryd yma. Roedd y bobl ifanc yma’n dod i’r Ardd i ganfod eu lle, i gymysgu gyda ffrindiau, i wneud cysylltiadau, i ymlacio ac i fod yn deulu. Mae’n lle da i fagu nerth ac ymlacio, mae’n hafan iechyd meddwl wych. Maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n berchen ar yr Ardd, ac maen nhw’n teimlo’n gwbl gartrefol yma. O, ac mae’n lle penigamp i gael pizza a barbeciws, obvs.

Treulion ni ychydig o amser yn archwilio, yn ymlwybro yn yr Ardd yn casglu planhigion, cerrig, dail, ffrwythau, beth bynnag hoffen ni, a dod â nhw ’nôl i greu bwrdd natur byrfyfyr yn y cwtsh. Gallai’r pethau yma fod yn ysbrydoliaeth i’n syniadau a’n sgwennu.

Yna, buon ni’n taflu syniadau am yr Ardd a beth mae’r lle yn ei olygu i’r bobl ifanc; dyma oedd dechrau ein cerdd am y lle, ond hefyd amdanyn nhw. Defnyddiais fy siart troi i gasglu meddyliau a theimladau. Yn sydyn, doedd hyn ddim yn teimlo fel gwaith cartref na’r ysgol, roedd yn teimlo fel hunanfynegiant. Mae’r Ardd wedi’i gwreiddio ynddyn nhw, ac yn tyfu tu mewn i bob un ohonynt. Roedd yn dipyn o beth i’w weld a’i glywed. Ro’n i’n teimlo’n freintiedig cael bod yn rhan o’r peth am un noson. Ar y diwedd, arhoson nhw’n llawer hirach na’r sesiwn, doedd neb eisiau gadael.

Ces i amser hyfryd gyda’r criw ifanc ac egnïol yma, fe greon ni gerdd ac fe ges i gwtsh neu ddau yn y fargen! Dyna be fydden i’n ei alw’n llwyddiant ysgubol.

 

Something out of nothing 

Even when there’s nothing, there is always something, 

even though the day may be stormy it is always clear at midnight, 

it can be sunny inside because this day was full of excitement and joy, 

and sometimes, weithiau, the hardest plants to reach 

are the ones that are more beautiful than any of the others.  

 

And in Yr Ardd with its Hollywodd sign, 

the dandelion family of flowers collected in a bunch 

look like a river with streams breaking off in different directions 

dant y llew yn felyn fel yr haul.  

 

A feather passing fluttery in the wind, pluen bert yn dawnsio, 

probably dropped by a passing flamingo or a dragon.  

All around us are round stupid leaves, these leaves you see – y dail – are not smart.  

and bits of wood, darnau pren, hanging about waiting to be used as mallets or sticks. 

 

The barbecue is the best,  

we gather round the fire and the atmosphere warms us, 

mae’r tân a’r cwmni’n gynnes. 

Sometimes there is music, always there is laughter and chwerthin.  

And it’s peaceful here – tawel  

it’s a good place to think, to meddwl, 

this is a small piece of land, of tir 

quiet like the eye of the storm, 

a sanctuary, ein hafan ni. 

– Ieuenctid Tysul

Darllenwch flogiau eraill gan Elinor am Yr Ardd: Tyfu’n Geiriau, Y Ganolfan Deuluoedd, a Gwirfoddolwyr a Dysgwyr Cymraeg.