Dewislen
English
Cysylltwch

Yr Ardd – Y Ganolfan Deuluoedd

Cyhoeddwyd Llu 21 Hyd 2024 - Gan Llenyddiaeth Cymru
Yr Ardd – Y Ganolfan Deuluoedd
Dyma flog rhif 2 o 4 am ein prosiect, Yr Ardd. Darllenwch y gyfres gyfan trwy ddilyn y dolenni isod.
Y Ganolfan Deuluoedd, 29 Awst 2024

Cynhaliwyd y sesiwn gyntaf gyda theuluoedd yn y Ganolfan Deuluoedd. Croesawon ni sawl teulu ar y diwrnod, a chawson ni gwmni hyfryd chwech o blant oedran cyn ysgol oedd ar dân i archwilio’r ardd a siarad am eu profiadau.

Rhoddais lyfr sgriblo bach a phensil i bob un ohonyn nhw rhag ofn, ro’n i’n barod i gael fy arwain gan y plant, a ffwrdd â ni! Dechreuais drwy siarad am y tywydd, eu hoff dywydd a hefyd pe bai’r tywydd yn byw ynddyn nhw, pa fath o dywydd fyddai e. Siaradon ni am y synhwyrau a sut gallwn ni ddefnyddio’r pum synnwyr pan fyddwn ni ym myd natur i gael amser gwych.

Yna aethon ni am dro o gwmpas yr ardd i weld beth allen ni ei weld, a mam bach! Am bethau welon ni! Buon ni’n gwneud bwyd yn y gegin fwd, yn chwarae yn y tŷ helyg, yn eistedd wrth y pwll yn sbïo ar bryfed y dŵr, yn edrych ar badiau lili ac yn meddwl am lyffantod a phenbyliaid, pysgod ac adar. Treulion ni ychydig o amser yn y polydwnnel yn arogli persawr y tomatos ac yn rhyfeddu at faint y courgettes. Cawson ni eistedd i arlunio hefyd – llun o aderyn oedd wedi gwneud baw mawr oedd fy ffefryn i. A chawson ni redeg yn wyllt o gwmpas y llwybrau, dringo pethau, a mwynhau bod yno. Roedd hi’n wych.

Yna, daethon ni ’nôl at ein gilydd yn y cwtsh yn y canol. Gosodais i siart fflip fach a gofyn i bawb beth oedden nhw’n ei gofio am y diwrnod, beth oedden nhw wedi’i brofi a’i deimlo? Ysgrifennon ni bopeth ar y siart ac yn sydyn, drwy rannu atgofion, roedd ganddon ni gerdd arbennig oedd wir yn adlewyrchu ein diwrnod hyfryd gyda’n gilydd. Cefais dusw o flodau gwyllt hyfryd wedi’u pigo’r diwrnod hwnnw hefyd.

 

A day in Yr Ardd 

It doesn’t matter what the weather’s like outside

sometimes it’s raining or sunny,

the sky full of clouds like feathers

or snow making everything magic,

the garden is pretty, full of lovely things.

 

We saw fruit and vegetables growing,

growing quickly and slowly,

growing all the time,

changing,

growing like us.

 

Tomatoes taste like summer if you like them

or like ‘bleugh’ if you don’t.

Courgettes grow as big as your arm and heavier,

they’re speckled green, camouflaged.

Birds like coming here to eat seeds and Mr Snail,

they come to meet Dewi the deer and Haf the hare,

and have a good chat when we’re not looking.

 

We are happy here,

we love cooking in the mud kitchen

exploring through the willow tunnel

out to the pond with the cup and saucer leaves

and the waterboatmen skating lazily.

 

This is Yr Ardd – it is green, it is growing.

 

Darllenwch flogiau eraill Elinor am Yr Ardd: Tyfu’n Geiriau, Ieuenctid Tysul, Gwirfoddolwyr a Dysgwyr Cymraeg.