Print giclée o safon uchel yn dangos y graffiti Cofiwch Dryweryn gan yr arlunydd byd-enwog Pete Fowler (sydd fwyaf adnabyddus am ei waith gyda’r Super Furry Animals).
Cafodd y graffiti enwog ei beintio i dynnu sylw at orfodi trigolion Capel Celyn o’u cartrefi er mwyn creu cronfa i gyflenwi dŵr i Lerpwl. Mae Cofiwch Dryweryn nawr yn ddelwedd eiconig o’r iaith Cymraeg ac mae’r graffiti wedi cael ei ailbeintio sawl tro dros y blynyddoedd yn dilyn fandaliaeth yn erbyn y gofeb.
Dyma brint heb fframio sy’n berffaith ar gyfer edmygwyr o waith Pete Fowler neu o’r neges mae’r darlun yn ei gynrychioli.
Caiff unrhyw elw ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd llenyddol Cymreig, er engraifft y cynllun Rhoi Llwyfan i Awduron a Gaiff eu Tangynrychioli.
235 x 325mm
Cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris.