Dewislen
English
Cysylltwch
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
Llyfrau

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig

£20
Clear Selection

Cyd-olygyddion: John Davies, Nigel Jenkins, Menna Baines, a Peredur I. Lynch

Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yw’r cyfeirlyfr Cymreig mwyaf cynhwysfawr i’w gyhoeddi er y 19g. Rhwng ei gloriau ceir cofnodau am yr holl bobl a lleoedd ynghyd â’r holl ddigwyddiadau sydd wedi cyfrannu at greu cyfoeth diwylliannol, hanesyddol a daearyddol Cymru. Dyma’r tro cyntaf I’r cyfan o’r deunydd hwn gael ei dynnu ynghyd mewn un gyfrol. Gyda thros 3,300 o gofnodau wedi’u llunio gan bron 400 o gyfranwyr a thros 500 o luniau lliw a du a gwyn, mae cyhoeddi’r gyfrol hon, ynghyd â’i chymar Saesneg The Welsh Academy Encyclopedia of Wales, yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol ac yn ffrwyth degawd o waith ymchwil, ysgrifennu a golygu.

Cludiant i’r DU yn unig. Ar gyfer cludiant rhyngwladol, e-bostiwch post@literaturewales.org am ddyfynbris.

 

Iaith

Saesneg, Cymraeg