Ydych chi’n fardd neu’n awdur sydd eisiau datblygu eich sgiliau wrth gyflwyno gweithgareddau ysgrifennu creadigol yn eich cymuned leol? Ydych chi’n credu yng ngrym llenyddiaeth a natur i ysbrydoli, gwella a chyfoethogi bywydau? Yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi!
Mae Sgwennu’n Well | Writing Well yn raglen datblygu proffesiynol 15 mis o hyd gyda chefnogaeth ôl-ofal ar gyfer grŵp o hwyluswyr, yn benodol ym maes Iechyd a Llesiant a Natur. Dylai’r cyfranogwyr fod ar gychwyn neu ganol eu gyrfa gyda lleiafswm o flwyddyn o brofiad yn hwyluso prosiectau yn y gymuned.
Dyma raglen mewn dwy ran, ac mae chwe lle ar gael. Mae rhan un yn cynnig hyfforddiant dwys gyda’r nod o wella’r sgiliau sydd eu hangen i hwyluso gweithgareddau llenyddol yn y gymuned, a bydd rhan dau yn cefnogi’r garfan o hwyluswyr i greu a chyflwyno prosiectau cyfranogi sydd o fudd i iechyd a llesiant y cyfranogwyr. Bydd natur yn rhan o thema’r cynllun eleni – gan edrych ar sut y gall natur chwarae rhan bwysig wrth annog llesiant ac ysbrydoli creadigrwydd.
Dyddiad cau: 5.00pm, Dydd Iau 13 Mawrth 2025.
Beth sydd ar gael?
- Cwrs preswyl tri diwrnod wedi ei arwain gan clare potter a Jill Teague yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, dydd Gwener 25 – Dydd Sul 27 Ebrill 2025.
- Cyfres o bedair sesiwn hyfforddi ar-lein gyda hwyluswyr profiadol ac arbenigwyr ar y celfyddydau ar gyfer iechyd a llesiant. (Mai a Mehefin 2025)
- Ysgoloriaeth o £1,000 i helpu gyda mynychu gweithgareddau craidd y rhaglen
- Pedair sesiwn un-i-un gyda mentor personol. Gallai’r sesiynau hyn fod yn gyfarfodydd ar-lein, neu’n gyfleoedd i chi gysgodi eich mentor mewn sesiynau hwyluso. (Ebrill 2025-Gorffennaf 2026)
- Cronfa o £3,000 i ddatblygu, cyflawni a gwerthuso prosiect hwyluso bychain (prosiect i’w gyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2026)
- Cefnogaeth i werthuso a dogfennu eich prosiect. (Ebrill – Gorffennaf 2026)
Bydd y tri mis cyntaf yn cynnig cyfleoedd i fireinio sgiliau mewn meysydd fel datblygu a rheoli prosiectau, rhedeg cyllidebau, casglu a chyfathrebu effaith eich gwaith, diogelu grwpiau, codi arian – a mwy. Bydd y grŵp hefyd yn archwilio theori ac ymarfer cynnal prosiectau llenyddiaeth er mwyn iechyd a llesiant ar gyfer amrywiaeth eang o gyfranogwyr mewn lleoliadau amrywiol.
Yn dilyn y rhaglen hyfforddi tri-mis gychwynnol, a thri mis o gynllunio, y bwriad yw cynnig cronfa o gyllid i hwyluswyr i gyflawni prosiectau y maent wedi’u dylunio a’u cynllunio yn ystod camau cychwynnol y rhaglen. Bydd staff Llenyddiaeth Cymru, a mentoriaid profiadol wrth law i helpu gyda’r datblygiad a’r cyflwyno. Bydd y prosiectau peilot hyn yn fan cychwyn i gynnig hyder a chipolwg ar sut i fentro ar yrfa fel hwylusydd llenyddol yng Nghymru.
Bydd y rhaglen yn dechrau ym mis Ebrill 2025 ac yn rhedeg tan fis Gorffennaf 2026.
Cymhwysedd
Mae’r rhaglen ar agor i’r rhai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 15 mis. Noder nad yw myfyrwyr llawn amser yn gymwys, a byddwn ond yn derbyn ymgeiswyr ar un o raglenni datblygu a mentora Llenyddiaeth Cymru yn 2025-26.
Rydym yn awyddus i annog ceisiadau gan unigolion heb gynrychiolaeth deg yn y sector creadigol, a chan ymgeiswyr sydd wedi wynebu rhwystrau a gwahaniaethu oherwydd cefndir ethnig, anabledd neu brofiad o gefndir incwm isel. Yn benodol, rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, unigolion anabl neu’r rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor, ac unigolion dosbarth gweithiol. Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno’n ddwyieithog, a bydd o leiaf 50% o’r lleoedd sydd ar gael yn cael eu dyrannu i hwyluswyr Cymraeg.
Bydd angen i’r ymgeiswyr:
- Ymrwymo i gymryd rhan yn yr holl ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnir fel rhan o’r rhaglen, yn cynnwys y cwrs preswyl yn Nhŷ Newydd (25-27 Ebrill 2025)
- Bod â rhywfaint o brofiad o redeg gweithdai ysgrifennu creadigol neu lenyddiaeth ar gyfer iechyd a llesiant mewn ysgolion, cymunedau neu leoliadau iechyd – nodwch enghreifftiau yn eich cais.
- Bod yn angerddol am botensial llenyddiaeth a gweithgareddau llenyddol i gefnogi iechyd a llesiant unigolion a chymunedau.
- Bod â gweledigaeth uchelgeisiol o sut y byddant yn defnyddio eu sgiliau a grym llenyddiaeth i ysbrydoli, gwella a bywiogi bywydau.
YMGEISIWCH NAWR
Addewid Llenyddiaeth Cymru
Mynediad: Rydym wedi ymrwymo i ddarparu ar gyfer anghenion mynediad pob ymgeisydd. Gofynnwn i chi ddweud wrthym beth sydd ei angen arnoch fel y gallwn sicrhau y gallwch gael mynediad i’r broses ymgeisio a’i llywio’n ddiogel ac yn gyfforddus.
Hyfforddiant a Diogelu: Bydd Llenyddiaeth Cymru yn trefnu hyfforddiant diogelu ac yn parhau i gefnogi’r hwyluswyr gyda’r elfen bwysig hon drwy gydol y rhaglen. Mae llesiant yr hwyluswyr eu hunain hefyd yn flaenoriaeth i Llenyddiaeth Cymru, a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda chydlynydd y prosiect i roi cefnogaeth a thrafod unrhyw bryderon.
Amrywiaeth: Rydym yn angerddol yn ein nod i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth ac anghydraddoldebau o fewn y celfyddydau. Bydd gennym ddiddordeb arbennig felly mewn derbyn ceisiadau gan unigolion sy’n ystyried eu bod yn cael eu tangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru. Am arweiniad pellach, gweler y Cwestiynau Cyffredin.
Yr Argyfwng Hinsawdd: Un o flaenoriaethau Llenyddiaeth Cymru yw’r taclo’r argyfwng hinsawdd. Ein nod yw defnyddio pŵer creadigol geiriau i addysgu, herio ac ysbrydoli newid hirdymor yn y maes hwn. Rydym hefyd yn anelu at sicrhau bod ein holl brosiectau yn cael eu rhedeg mewn ffordd ecogyfeillgar. Bydd hyn yn ystyriaeth pan fyddwn yn asesu ceisiadau, er enghraifft efallai y byddwn yn chwilio am gyfranogwyr sydd â dealltwriaeth ddofn neu gysylltiad â’u cymunedau lleol sydd am fynd i’r afael â materion yn eu cymunedau eu hunain wrth ddysgu.
Yr Iaith Gymraeg: Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu cronfa ehangach o hwyluswyr creadigol Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru i gynnal prosiectau Cymraeg a dwyieithog.