Cwestiynau Cyffredin
Mae’r rhaglen ar agor i’r rhai dros 18 oed ac sy’n byw yng Nghymru pan yn gwneud y cais a thrwy gydol y rhaglen 15 mis.
Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu diwylliant llenyddol sydd wir yn cynrychioli amrywiaeth ein poblogaeth yng Nghymru. I’r perwyl hwn, rydym yn croesawu’n arbennig ymgeiswyr sy’n gallu egluro perthnasedd eu profiadau bywyd amrywiol i’r prosiectau yr hoffent eu datblygu a’u cyflwyno. Byddwn yn annog ymgeiswyr i egluro yn eu geiriau eu hunain sut y cânt eu tangynrychioli o fewn diwylliant llenyddol Cymru, e.e.
- Cefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig
- O gefndir incwm isel (unigolion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu yr oedd eu rhieni mewn swyddi cyflog isel, yn ddi-waith, neu’n derbyn budd-daliadau gan gynnwys lwfansau anabledd pan oedd ymgeiswyr yn 14 oed)
- unigolion sy’n arddel hunaniaeth F/fyddar neu anabl, neu sydd â chyflwr iechyd hirdymor LGBTQA+
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr sy’n cynnal gweithdai drwy gyfrwng y Gymraeg yn arbennig. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi ymrwymo i helpu i greu cronfa ehangach o hwyluswyr creadigol Cymraeg eu hiaith ym mhob rhan o Gymru i gynnal prosiectau Cymraeg a dwyieithog.
Byddwn yn chwilio am rywfaint o brofiad o hwyluso gweithdai ysgrifennu creadigol llên ar gyfer iechyd a llesiant.
Mae’r cyfle hwn yn bennaf ar gyfer hwyluswyr lled-newydd ac ar ganol eu gyrfa. Fodd bynnag, fel hwylusydd mwy profiadol efallai y gwelwch fod yna rwystrau sy’n eich atal rhag cyrraedd eich llawn botensial, neu efallai y byddwch am arbrofi gyda ffurf wahanol, gweithio gyda grŵpiau cwbl wahanol neu reoli prosiect eich hun am y tro cyntaf.
Bydd gan bawb ddiffiniad gwahanol o beth yw lled-newydd neu ar ganol eu gyrfa, a lle maent yn credu eu bod ar eu taith fel awdur. Os ydych chi’n ansicr ai dyma’r rhaglen iawn i chi ar y cam hwn o’ch gyrfa ysgrifennu, cysylltwch â ni i drafod.
Bydd y panel asesu yn cynnwys aelodau o staff Llenyddiaeth Cymru, yn ogystal ag arbenigwyr allanol ym maes iechyd, llesiant a/neu addysg. Byddwn yn chwilio am arloesedd, angerdd, a ffocws clir o ran eich uchelgeisiau a’ch dyhead fel hwylusydd cyfranogi cymunedol creadigol. Byddwn hefyd yn edrych ar addasrwydd y rhaglen hon ar y cam hwn o’ch gyrfa fel hwylusydd.
Byddwn yn canolbwyntio ar ddod â grŵp amrywiol a chynrychioliadol o awduron ynghyd o ran daearyddiaeth, profiad ysgrifennu, ieithoedd, ac unrhyw brofiad byw a nodir yn y cais, a fydd yn cyflwyno persbectif newydd ar ysgrifennu Cymreig ac ymgysylltu â’r gymuned.
Byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd erbyn dechrau mis Ebrill 2025. Gan ein bod yn disgwyl llawer o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu rhoi adborth manwl i bob ymgeisydd. Fodd bynnag, lle bo’n bosibl byddwn yn darparu adborth byr, personol, a chyngor ar gyfleoedd eraill a allai fod ar gael gan Llenyddiaeth Cymru a phartneriaid.
Rydym yn ymwybodol y gall gohebiaeth ynghylch ceisiadau aflwyddiannus gael effaith negyddol ar eich iechyd a’ch llesiant. Rhoddwn ein haddewid i barchu a gwerthfawrogi pob cais unigol, gan roi ystyriaeth a sylw dyledus iddo.
Bydd gan dîm bychan o staff Llenyddiaeth Cymru fynediad at eich cais. Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi yn y dyfodol gyda chyfleoedd personol, yn seiliedig ar eich gwaith a’ch arbenigedd. Er mwyn galluogi Llenyddiaeth Cymru i gydymffurfio â chyfraith diogelu data (GDPR), cwblhewch yr adran berthnasol ar ddiwedd y ffurflen gais i roi gwybod i ni os nad ydych am i Llenyddiaeth Cymru gysylltu â chi ynglŷn â chynigion yn y dyfodol.
Yn ddibynnol ar gyllid, gobeithiwn y bydd Sgwennu’n Well yn gyfle y gallwn ei gynnig yn flynyddol. Mae gwybodaeth am ein harlwy i awduron ar gael ar ein gwefan: Rwy’n awdur – Llenyddiaeth Cymru
Dyddiadau pwysig:
Dyddiad cau i wneud cais: 5.00 pm, dydd Iau 13 Mawrth 2025
Cyfnod asesu (gan gynnwys cyfweliadau posibl): 13-27 Mawrth 2025
Hysbysu pob ymgeisydd o’r penderfyniad: erbyn dechrau Ebrill 2025
Cyfarfodydd ar-lein gyda staff Llenyddiaeth Cymru: Ebrill 2025
Cwrs preswyl yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: Prynhawn dydd Gwener 25 – prynhawn dydd Sul 27 Ebrill 2025
Sesiynau hyfforddi misol: Mai 2025 – Mehefin 2026; yr union ddyddiadau i’w cadarnhau gyda’r garfan
Mentora: pedair sesiwn un-wrth-un gyda mentor ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen: bydd Llenyddiaeth Cymru yn cynghori
Datblygu’r Prosiect: Gorffennaf, Awst a Medi 2025
Cyflawni’r Prosiect (yn ddibynnol ar gyllido): Hydref 2025 – Mawrth 2026
Gwerthuso Prosiect: Ebrill-Gorffennaf 2026
Bydd chwe hwylusydd yn cael eu dewis ar gyfer y rhaglen. Ar ôl cyfarfodydd un-wrth-un a chyfarfodydd grŵp cychwynnol ar-lein ym mis Ebrill 2025, bydd penwythnos hir trochi wyneb yn wyneb yn Nhŷ Newydd o brynhawn dydd Gwener 25 – prynhawn dydd Sul 27 Ebrill 2025 gyda thiwtoriaid clare e potter a Jill Teague.
Caiff sesiynau hyfforddi, ar-lein, misol eu trefnu, rhwng Mai a Mehefin 2025.
Yn ystod y chwe mis cychwynnol hwn, byddwch yn gweithio gyda’ch mentor a chyda’r hyn y byddwch yn dysgu o’r sesiynau hyn i ddatblygu prosiect cyfranogiad ar gyfer iechyd a llesiant, gan ddefnyddio ysgrifennu creadigol a llenyddiaeth fel arfau. Yn ogystal ag edrych ar nodau effaith eich prosiect ar y grŵp a chynnwys creadigol a strwythur y prosiect, byddwch hefyd yn datblygu cynllun yn edrych ar ddatblygu a rheoli prosiect, gan gynnwys rhedeg cyllidebau, nodi a chyfathrebu effaith, diogelu’r grwpiau, meithrin partneriaethau, codi arian a mwy.
Bydd Llenyddiaeth Cymru yn gweithio gyda’r hwyluswyr i asesu prosiectau sydd wedi’u cynllunio’n llwyddiannus ac yn dyfarnu cyllid i hwyluswyr llwyddiannus i gyflawni eu prosiectau arfaethedig, Hydref 2025 – Mawrth 2026.
Ar ôl y rhaglen 15 mis, byddwn yn parhau i gynnig cefnogaeth i’r garfan drwy gadw mewn cyswllt â nhw, cynnig cyngor a gwahodd yr hwyluswyr i gyfleoedd rhwydweithio a hyfforddi pellach. Mae hwn yn fuddsoddiad hirdymor yn natblygiad yr hwyluswyr. Bydd Llenyddiaeth Cymru hefyd yn gweithio gyda’r hwyluswyr i annog hirhoedledd eu prosiectau.
Mae ’Sgwennu’n Well yn rhaglen ddwyieithog, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan hwyluswyr o Gymru sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a/neu Saesneg. Mae croeso mawr i hwyluswyr sy’n newydd i weithio yn y Gymraeg ond sydd â diddordeb mewn dechrau arni, yn ogystal â hwyluswyr sy’n mwynhau arbrofi gyda’r ddwy iaith yn eu gwaith creadigol hefyd. Bydd pob digwyddiad yn cael ei gyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, yn dibynnu ar ddewis iaith y garfan. Bydd dehongliad byw ar gael lle bo angen.
Bydd y rhan fwyaf o’r gweithgareddau’n cael eu cyflwyno gyda’r nos ac ar-lein, er y byddwn yn gweithio ochr yn ochr â’r garfan i nodi amseroedd a dyddiadau cyfleus i bawb ymuno â’r sesiynau ar-lein misol. Gofynnwn am ymrwymiad gan bob aelod o’r garfan i fynychu pob digwyddiad, ond os bydd rhywbeth brys neu annisgwyl yn atal awdur rhag mynychu, efallai y bydd recordiadau ar gael i’w gwylio yn nes ymlaen. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru bob amser wrth law i gefnogi’r awduron a helpu i sicrhau bod pob aelod o’r garfan yn elwa o’r rhaglen.
Rydym yn amcangyfrif y byddwn yn trefnu gweithgareddau ac yn gosod tasgau a fydd angen tua 7 diwrnod cyfan o’ch amser yn ystod y chwe mis cyntaf, ond bydd llawer o’r digwyddiadau hyn wedi’u hamserlennu i osgoi ymyrryd ag oriau swyddfa. Chi sydd i benderfynu faint o oriau ychwanegol y byddwch wedyn yn gallu eu neilltuo ar gyfer datblygu eich prosiectau eich hun yn ystod y flwyddyn.
Bydd y rhan fwyaf o weithgarwch craidd y rhaglen yn cael ei gyflwyno ar-lein er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu mynychu, waeth beth fo’u lleoliad. Bydd y rhaglen hefyd yn cynnwys penwythnos preswyl y bydd gofyn i chi ei mynychu yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd o ddydd Gwener 25 Ebrill i ddydd Sul 27 Ebrill.
Gallwn. Mae tîm Llenyddiaeth Cymru ar gael i drafod unrhyw bryderon a gofynion cyn a thrwy gydol y rhaglen. Cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Mae Cronfa Fynediad ar gael i alluogi cyfranogiad llawn mewn digwyddiadau i awduron ag anableddau neu salwch a allai fod â gofynion mynediad ychwanegol.
I gael gwybodaeth am hygyrchedd Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, ewch i’n gwefan: https://www.tynewydd.cymru/y-ty/mynediad/